Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bywydau Cudd 5

Atgoffa’r myfyrwyr na ddylen nhw byth roi’r gorau i obeithio am fywyd gwell.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r myfyrwyr na ddylen nhw byth roi’r gorau i obeithio am fywyd gwell.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Beth hoffech chi fod wedi i chi adael yr ysgol? 

    Mae’n debyg bod hwn yn gwestiwn haws i’w ateb pan oeddech chi’n blentyn bach. Pan oeddech chi’n bump oed efallai eich bod eisiau bod yn ddyn tân, yn beldroediwr neu’n ddawnswraig neu ddawnsiwr bale. Efallai bod rhai ohonoch wedi dychmygu bod yn ofodwr neu’n uwch arwr. Yna, wrth i chi dyfu, fe ddaeth bywyd go iawn yn beth mwy real. Fe drodd eich breuddwydion i fod yn ddim byd mwy na breuddwydion. Ac fe ddaethoch chi’n fwy ymwybodol o’r rhwystrau a fyddai ar eich ffordd.

  2. Gadewch i ni ofyn i’r tri myfyriwr yma beth maen nhw’n ei feddwl. Beth hoffech chi fod wedi i chi adael yr ysgol?

    Darllenydd 1 Ydych chi’n gofyn i mi pa waith fydda i’n ei gael yn y dyfodol? Wel, mae’n ddigon hawdd ateb y cwestiwn hwnnw. Fydda i ddim yn cael gwaith, a dyna fo! Does neb sy’n byw ar ein stad ni’n cael gwaith ar ôl gadael yr ysgol. Does dim gwaith i’w gael. Beth yw pwynt ceisio gwneud yn dda yn yr ysgol a cheisio cael canlyniadau uchel pan nad oes siawns o gael unrhyw fath o swydd ar y diwedd? Dim gwerth y drafferth, yn fy marn i.

    Darllenydd 2 Roeddwn i wedi meddwl cael mynd i’r brifysgol ac astudio’r gyfraith, ond nawr dwi ddim mor siwr. Mae ffioedd y cyrsiau wedi mynd mor ofnadwy o ddrud, ac mae’r gystadleuaeth am y llefydd yn y prifysgolion yn enfawr. Dydw i ddim yn siwr ydw i eisiau dyled anferth i’w thalu’n ôl yn y dyfodol, a beth bynnag, dydw i ddim yn meddwl fy mod i’n ddigon da ychwaith.

    Darllenydd 3 Fe hoffwn i deithio a chael gweld tipyn ar y byd cyn setlo i lawr. Roeddwn i wedi cynllunio  popeth – sut roeddwn i’n mynd i ariannu’r cyfan, ac ati. Mae wedi bod yn freuddwyd gen i ers talwm, ond nawr mae cwmni fy nhad wedi dod i ben a does ganddo ddim gwaith. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i mi chwilio am swydd ar unwaith neu efallai fyddwn ni ddim yn gallu dal i fyw yn ein cartref.

  3. Arweinydd  Pan fydd rhwystrau ar ein ffordd, mae’n anoddach gwireddu ein breuddwydion. Pan fyddwn ni’n profi methiant, fe allwn ni golli gobaith. Pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau, fe fyddwn ni’n ei gweld hi’n anodd i godi ac ail afael mewn pethau. Pan fydd pethau drwg yn digwydd, fe allwn ni ddigalonni.

    Rydw i’n mynd i ddangos rhai ffotograffau i chi nawr. Mae’r unigolion sydd i’w gweld yn y portreadau hyn yn gwybod sut beth yw cael eu trin yn wael a digalonni. Maen nhw’n gwybod pa mor anodd yw dal ar y gobaith am fywyd gwell. Ffoaduriaid trefol yw pob un ohonyn nhw. Mae pob un wedi gorfod gadael eu cartrefi a dianc i ddinasoedd mawr mewn rhannau eraill o’r byd er mwyn dechrau bywyd newydd iddyn nhw’u hunain.

    Dangoswch y ddelwedd gyntaf ar y rhestr uchod, yr un o Tikaram.

    Darllenydd 1 Bu’n rhaid i Tikaram adael ei gartref yn Bhutan yn 1992. Ar ôl hynny, fe dreuliodd 16 mlynedd yn byw mewn gwersyll i ffoaduriaid yn Nepal. Ie’n wir, 16 mlynedd! Dychmygwch hynny! Sut byddech chi’n dal ar y gobaith y byddai bywyd yn gallu bod yn wahanol ar ôl 16 mlynedd? Pan gyrhaeddodd Efrog Newydd, roedd fel pe byddai mewn byd arall. Bu ei wraig yn crio’n ddi-baid am dri mis, ond yn araf bach fe ddaethon nhw i ddechrau addasu eu hunain. Ar ôl pedair blynedd yn America, mae ganddo ef a’i wraig waith, ac mae ei fab wedi ennill ysgoloriaeth i fynd i goleg. Wrth edrych yn ôl, fe all Tikaram ddweud, ‘Fe fuom ni’n llwyddiannus ar ein taith. Wrth gwrs, rydym yn dal i ymdrechu, ond dydyn ni ddim yn methu, rydyn ni’n llwyddo. Rydyn ni’n gwneud bywyd i ni ein hunain.’

    Dangoswch yr ail ddelwedd ar y rhestr, yn un o Wakil.

    Darllenydd 2  17 oed yw Wakil. Fe fu’n rhaid i Wakil adael ei wlad ei hun, Afghanistan, am fod ei fywyd mewn perygl. Fe gyrhaeddodd Lundain ym mis Chwefror 2012. Fe gymrodd y daith tua saith mis iddo. Yn gyntaf, fe deithiodd i Iran, lle roedd rhaid iddo gerdded yn ardal y mynyddoedd gyda phobl eraill bob nos. Fe deithiodd mewn car bach gyda 12 o bobl eraill. Bu’n rhaid iddo guddio mewn fforestydd wrth y ffin rhwng Iran a gwlad Twrci. Fe arhosodd yng ngwlad Groeg am dri mis mewn ystafell fechan gyda llawer o bobl eraill. Cychwynnodd ar gwch i’r Eidal, ond fe dorrodd y cwch ac fe fu’n rhaid i’r teithwyr aros am amser hir nes daeth rhywun i’w hachub ac fe gawson nhw’u cludo i Ffrainc. Yna, fe deithiodd Wakil i Lundain mewn lori oedd fel oergell fawr. Roedd mor oer, fe feddyliodd y byddai’n marw. Dychmygwch pa mor  ofnus ac unig y teimlai, yn mynd trwy’r fath brofiad ar ben ei hun, heb ei deulu. Fe ddywedodd, ‘Roeddwn i’n meddwl fod fy mywyd mewn perygl. Fe wnes i ddod yma i gael bywyd gwell. Beth sy’n digwydd i ni?’ Ydi, mae ei fywyd ychydig yn well, ond mae’n dal i hiraethu am ei deulu. Mae’n ddiogel. Fe oroesodd siwrne anodd iawn.

    Dangoswch y drydedd ddelwedd ar y rhestr, yn un o Seneque Rosier.

    Darllenydd 3  Collodd Seneque Rosier ei gartref yn ystod y daeargryn yn Port-au-Prince, Haiti, yn 2010. Bu farw ei fam a’i chwaer yn y trychineb. Mae wedi byw gyda gweddill ei deulu mewn gwersyll ffoaduriaid ers hynny. Mae wedi cael gwaith erbyn hyn, ac mae’n gallu gofalu am ei deulu. Mae’n dweud, ‘Rydw i’n falch iawn bod gen i waith. Doedd gen i ddim gobaith cyn hynny, ond mae pethau’n well nawr.’ Ond wyddoch chi beth yw gwaith Seneque Rosier? Ei waith yw gwacau’r toiledau bwced yn y gwersyll. Does dim toiledau dwr glân yno, dim ond bwcedi y mae’n rhaid eu gwacau’n rheolaidd. Mae’r gwaith yn waith mor afiach mae’n methu aros yn y toiledau fwy nag awr ar y tro. Pan fydd wedi gorffen gwaith y dydd mae’n ymolchi mewn cawod gyda sebon arbennig a diheintydd. Mae’n prynu dillad ail law ac yna’n eu taflu ar ôl pob diwrnod gwaith. Does neb o’i deulu’n gwybod mai dyna yw ei waith, does arno ddim eisiau iddyn nhw ddod i wybod. Ond mae Seneque’n falch bod ganddo ryw fath o waith. Er hynny, mae’n dal i obeithio y caiff fywyd gwell ryw ddiwrnod.

    Arweinydd  Mae pob un o’r tri hyn wedi gorfod gweithio’n galed a dioddef llawer er mwyn cael bywyd gwell. Maen nhw wedi gorfod dal eu gafael ar y gobaith y byddai pethau’n dod yn well er gwaethaf pob anhawster. Yn ôl Adelina o Kosovo, sydd nawr yn byw yn Llundain, mae llawer o’r ffoaduriaid yn  gwneud yn dda. Maen nhw’n setlo. Maen nhw’n dilyn eu breuddwydion. Maen nhw’n llwyddo. Yn y diwedd maen nhw’n cael swyddi da . . . ond mae’n cymryd amser. ‘Does gan yr un ohonom ni ffon hud, allwn ni ddim newid yr hyn a ddigwyddodd i ni mewn cyfnod byr o flwyddyn neu ddwy.’ Mae’n cymryd llawer o amser. Ac mae hefyd yn cymryd llawer iawn o benderfyniad.

Amser i feddwl

Arweinydd  Felly, beth allwn ni ei ddysgu o’r hanes am y bobl hyn rydyn ni wedi clywed amdanyn nhw heddiw?

Darllenydd 1  Mae Tikaram wedi dangos i ni, er bod rhywun yn gorfod ymdrechu’n galed, does dim rhaid i chi fethu. Fe wnewch chi lwyddo yn y pen draw. Rydw i’n teimlo bod fy mywyd i’n anodd yn aml iawn, ond efallai does dim rhaid i mi fethu. Efallai y byddaf yn llwyddo wedi’r cyfan.

Darllenydd 2  Wnaeth Wakil ddim rhoi’r gorau i’w freuddwyd er ei fod wedi wynebu llawer iawn o anawsterau ar ei daith. Efallai y dylwn innau ddal i gredu y caf wireddu fy mreuddwydion ryw ddydd a chael mynd i deithio’r byd.

Darllenydd 3 Mae Seneque yn gwneud gwaith anodd a budr iawn er mwyn ei deulu, ond nid yw wedi colli gobaith. Am y tro, efallai y dylwn i roi’r syniad o deithio’r byd ar y naill ochr er mwyn fy nheulu ar hyn o bryd, ond does dim rhaid i mi roi’r gorau i obeithio. Fe alla i ddal i gredu y byddaf i, ryw ddiwrnod yn cael mynd i weld y byd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n diolch am y ffoaduriaid ledled y byd sydd ddim wedi rhoi’r gorau i obeithio am fywyd gwell.
Rho iddyn nhw’r cryfder i barhau gyda’u hymdrechion, a’r anogaeth i ddilyn eu breuddwydion.
Rydyn ni’n gweddïo drosom ein hunain hefyd, y byddwn ni’n gallu dysgu goresgyn yr anawsterau yn ein bywyd, ac yn gallu cyflawni ein gobeithion wrth i ni anelu tuag at y dyfodol gorau posib.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon