Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ymddiriedaeth

Archwilio’r cysyniad o ymddiried yn rhywun.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r cysyniad o ymddiried yn rhywun.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ynghyd rai lluniau llonydd o’r ffilm Finding Nemo (ffilmiau Pixar) a threfnwch ffordd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Faint ohonoch chi sydd wedi gweld y ffilm Finding Nemo, un o ffilmiau Pixar, a oedd yn boblogaidd iawn ychydig o flynyddoedd yn ôl? Fel llawer o ffilmiau eraill sydd wedi eu hanelu at gynulleidfa o blant, mae sawl thema ynddi i ni eu hystyried. Y thema yr hoffwn i ganolbwyntio arni heddiw yw’r cysyniad o ymddiried yn rhywun

  2. Er mwyn y rhai sydd ddim yn gyfarwydd â’r stori yn y ffilm, dyma grynodeb sydyn. 

    Pysgodyn clown yw Marlin sydd ag ofn y môr arno, am ei fod wedi cael profiad ofnadwy’n flaenorol. Roedd ei fab, Nemo, wedi cael ei gymryd gan ddeifwyr ac roedd Marlin yn ceisio dod o hyd i’w fab. Dyna arwyddocâd y teitl, Finding Nemo

    Ar ei anturiaethau, mae Marlin yn cwrdd â physgodyn glas o’r enw Dory. Mae Dory’n cael trafferth i gofio pethau sydd newydd ddigwydd. Mae hi’n dilyn Marlin er nad oedd Marlin yn fodlon iawn, ac maen nhw’n annisgwyl yn dod yn gyfeillion. 

    Does gan Dory ddim ofn, ac mae’n anodd i Marlin, sy’n ofnus iawn, dderbyn yr hyn mae Dory’n ei ddweud. Mae digon o enghreifftiau o adegau pan fydd Marlin yn methu trystio Dory, er gwaetha’r ffaith, bod Dory’n iawn yn y pen draw. Mae dwy enghraifft yr hoffwn i gyfeirio atyn nhw yma. 

    Mae Dory wedi cael gwybod gan haig o bysgod y dylen nhw nofio ar hyd y ffos, felly mae hi’n gofyn i Marlin ei thrystio am mai dyna beth mae ei ffrindiau’n ei wneud. Ond am ei fod yn bryderus, mae Marlin yn ei pherswadio i nofio dros y top. Mae’r ddau’n cael eu hunain yng nghanol haig o slefrenni môr (jelly-fish) - ac mae Dory bron iawn â cholli ei bywyd. Mae’n cael ei gadael â chreithiau ar ôl ei brwydr gyda’r slefrenni môr.

    Yn ddiweddarach, pan fydd Dory’n gofyn i Marlin ei thrystio hi eto, mae Marlin yn dechrau gwrthwynebu, ond mae’n gweld creithiau Dory ac yn cofio am yr hyn a ddigwyddodd, ac mae’n sylweddoli bod yn rhaid iddo’i thrystio.

  3. Felly, pam y mae rhai pobl yn cael anhawster i ymddiried yn rhywun arall, a pham ei bod hi’n bwysig i ni drystio rhywun?

    Anaml iawn y bydd plant bach yn cael anhawster i ymddiried yn rhywun – maen nhw’n derbyn bod pobl yn ddibynadwy nes byddan nhw’n dysgu fel arall.

  4. Mae ymddiriedaeth yn mynd ar goll yn aml mewn perthynas oherwydd bod rhywun wedi methu gwneud rhywbeth y mae’r person arall yn meddwl ei fod yn bwysig.

    Mae ymddiriedaeth, neu drystio rhywun, yn cylchdroi o gwmpas y ffaith bod rhywun yn ddibynnol ar rywun arall am rywbeth.
    Mae ymddiriedaeth yn rhan bwysig o sylfaen perthnasoedd rhyngbersonol. Mae yr un mor hawdd adeiladu ymddiriedaeth ag yw hi i golli ymddiriedaeth o ddydd i ddydd.

  5. Yn aml, fe fyddwn ni’n dysgu peidio â thrystio rhywun o ganlyniad i brofiad gwael. Efallai ein bod wedi ymddiried yn rhywun, ac wedi rhannu cyfrinach ag ef neu hi, ac mae’r person hwnnw wedi ein bradychu wedyn trwy ddweud wrth rywun arall.

    Mae ymddiriedaeth yn rhywbeth y mae’n rhaid ei ennill, ac mae’n sail i bob perthynas y byddwn ni’n ei datblygu. Wrth i chi ymddiried mwy yn rhywun, mae’r berthynas yn dyfnhau, rydych chi’n dod yn ffrindiau da ac fe fyddwch chi’n rhannu gyda’r person hwnnw bethau na fyddech chi’n eu rhannu â rhywun arall na fyddech chi’n ei drystio yn yr un ffordd. Dyna sut mae perthynas barhaol llawn ymrwymiad yn cael ei datblygu a’i chadw, a hynny am lawer o flynyddoedd yn aml.

    Mae’n golygu hefyd, fodd bynnag, eich bod yn trystio’r bobl sy’n darogan y tywydd er enghraifft, eu bod yn gwybod am yr hyn maen nhw’n sôn amdano, a’ch bod yn trystio eich athrawon i ddysgu’r pethau priodol i chi fel y gallwch chi ennill gwybodaeth ac, yn y pen draw, basio eich arholiadau.

  6. Sut y gallwch chi wybod eich bod yn berson dibynadwy? Wel, mae’n debyg mai dim ond chi sy’n gwybod o ddifrif a all pobl ymddiried ynoch chi ai peidio.

    Fyddwn i’n rhoi addurn bregus a gwerthfawr i blentyn dwy oed ac yn ei drystio i beidio â’i dorri? Na fyddwn, o bosib, oherwydd fyddai’r plentyn ddim yn deall.

    Fyddech chi’n disgwyl i’ch partner neu eich ffrind beidio â thorri rhywbeth gwerthfawr iawn. Mae’n debyg y byddech chi, ac mae’n bosib y byddech chi’n teimlo’n ddig pe bai’r peth gwerthfawr yn torri.

    Mae eich rhieni yn eich trystio chi i fod yn y lle rydych chi wedi dweud wrthyn nhw y byddwch chi. Os na fyddwch chi yno, fe fyddan nhw’n fwy amharod i’ch trystio chi y tro nesaf.

Amser i feddwl

Mae’n ymddangos ein bod i gyd yn gwybod wrth reddf pwy yw’r rhai y gallwn ni eu trystio, a phwy i beidio â’u trystio, ond ambell waith fe allwn ni wneud camsyniad. Efallai bod gan rywun arall syniad gwahanol i ni am beth yw ymddiriedaeth, a phan gawn ni ddau syniad sy’n gwahaniaethu, dyna pryd y mae ymddiriedaeth yn gallu methu. 

Mae ymddiried yn rhywun ac wedyn gael eich bradychu gan yr unigolyn hwnnw’n beth sy’n gallu brifo teimladau’n fawr iawn.

Mae caneuon serch yn llawn sôn am bobl wedi cael eu siomi a pherthnasoedd wedi methu, oherwydd pan fydd hynny’n digwydd, am ba reswm bynnag, yn aml iawn colli ymddiriedaeth yn y person arall sy’n peri i’r berthynas ddod i ben. 

Fe ysgrifennodd William Shakespeare fel hyn yn ei ddrama, All’s Well That Ends Well, ‘love all, trust a few’. Mae llawer yn ymddiried yn Nuw. Yn wir, bydd biliynau o bobl yn gwneud hynny bob dydd, ac mae pobl wedi gwneud hynny ers miloedd o flynyddoedd.

Felly, ym mhwy y byddwch chi’n ymddiried heddiw? Sut byddwch chi’n gwybod pwy i’w drystio? Mewn gwirionedd, dydych chi ddim yn gwybod o ddifrif - fe fydd yn rhaid i chi gymryd y cam mawr hwnnw ac ‘ymddiried’ y byddan nhw’n gofalu amdanoch chi ac yn eich parchu ddigon i beidio â bradychu’r ymddiriedaeth honno rydych chi wedi ei rhoi ynddyn nhw. 

Os ydych hi’n gwybod nad ydych chi wedi bod mor ddibynadwy ag y byddech chi’n disgwyl i rywun arall fod tuag atoch chi, efallai y gallech chi aros a meddwl a fyddech chi’n hoffi i rywun fradychu eich ymddiriedaeth chi ynddyn nhw? Rwy’n tybio na fyddech chi. Felly, cofiwch fod pob perthynas yn dibynnu ar ymddiriedaeth - ar roi ac ar dderbyn - a bod ymddiriedaeth yn beth bregus. Rhaid i chi weithio’n galed i ennill ymddiriedaeth, ond mae’n rhaid i chi weithio’n galetach fyth i ail sefydlu ymddiriedaeth pe byddai pethau’n mynd o chwith.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Boed i mi fod mor ddibynadwy tuag at eraill ag yr hoffwn i iddyn nhw fod tuag ataf fi.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon