Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy Ydw I?

Archwilio gyda’r myfyrwyr eu synnwyr o hunaniaeth, gan ddefnyddio’r dywediadau ‘Myfi yw’ y gwnaeth Iesu eu defnyddio.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio gyda’r myfyrwyr eu synnwyr o hunaniaeth, gan ddefnyddio’r dywediadau ‘Myfi yw’ y gwnaeth Iesu eu defnyddio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un arweinydd a thri darllenydd – efallai bydd angen i chi ddangos iddyn nhw sut mae ynganu’r tair brawddeg gyntaf.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Fe hoffwn i ddechrau’r gwasanaeth heddiw gyda chwestiwn syml: pwy ydych chi? Dyma’r un cwestiwn y mae disgwyl i chi ei feistroli ar y dechrau pan fyddwch chi’n dysgu ieithoedd tramor modern.

    Darllenydd 1Je m’appelle(enw).

    Darllenydd 2Ich heisse(enw). 

    Darllenydd 3Me llamo(enw). 

  2. Arweinydd Bydd rhai pobl sydd yma o bosib yn cofio rhaglen deledu ar nos Sadwrn oedd yn cael ei chyflwyno gan Cilla Black, y rhaglen o'r enwBlind Date. Roedd hi bob amser yn cyflwyno'r cystadleuwyr gyda'i chipeiriau, ‘Beth yw eich enw ac o ble ydych chi'n dod?’ yn ei acen Scouse gref. Pe byddem wedi gofyn y cwestiwn hwnnw i Iesu, nid wyf yn credu y byddai wedi ateb, ‘Fy enw yw Iesu, mab Joseff. Cefais fy ngeni ym Methlehem, ond fy magu yn Nasareth.’ Yr hyn wnaeth o ateb mewn gwirionedd, a gofnodwyd yn Efengyl Ioan, oedd rhywbeth fel hyn.

    Darllenydd 1Myfi yw’r bugail da.

    Darllenydd 2Myfi yw bara’r bywyd.

    Darllenydd 3Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd.

    Darllenydd 1Myfi yw goleuni’r byd.

    Darllenydd 2Myfi yw’r ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd.

    Darllenydd 3Myfi yw’r drws.

  3. Arweinydd  Yn hytrach nag enw syml, fe ddefnyddiodd nifer o symbolau sy'n amlygu agweddau ar yr hyn oedd fel person a'r hyn yr oedd yn dymuno ei wneud. Roedd pob un symbol yn paentio darlun cliriach o'i hunaniaeth na dim ond beth fyddai dweud ei enw yn ei wneud. Rydym ninnau'n gwneud rhywbeth tebyg pan fyddwn yn disgrifio'r naill a'r llall. Efallai y byddwn yn dweud, ‘Rydych fel pelydr o heulwen’  neu ‘fel chwa o awel iach’, pan fydd rhywun yn ein helpu i gefnu ar dymer drist.

    Darllenydd 1 Gallwn ddisgrifio rhywun weithiau fel bod yn 'rhoi clust i ni’ oherwydd eu bod yn dangos cydymdeimlad, ac yn barod i wrando, pan fyddwn eisiau cael trafod rhyw fater.

    Darllenydd 2 Byddwn yn galw person sy'n methu cuddio'i deimladau yn ‘llyfr agored’.

    Darllenydd 3 Pan fydd rhywun wedi gwneud rhywbeth defnyddiol iawn, efallai y byddwn yn dweud, ‘Rydych yn seren’.

  4. ArweinyddFe ddefnyddiodd Iesu symbolau er mwyn siarad amdano'i hun. Roedd yn gwybod pwy ydoedd, o ble'r oedd wedi dod, a beth oedd ei genhadaeth mewn bywyd. Oherwydd bod ganddo synnwyr clir o'i hunaniaeth, gallai baentio lluniau yn y ffordd hon fel y byddai pobl eraill yn deall. Roedd hynny'n gwneud y gwaith o berthnasu af ef yn haws. Roeddech yn gwybod lle'r oeddech chi gydag ef, ac wedyn roedd hi'n gwestiwn a oeddech chi am ymuno ag ef ai peidio.

    A oes gennych chi synnwyr clir o'ch hunaniaeth? Ydych chi'n gwybod i ble'r ydych chi'n mynd? Ydych chi'n gwybod beth yw eich rôl mewn bywyd? A ydych chi wedi dewis y ffordd y byddech chi'n dymuno i bobl eraill feddwl amdanoch chi a'ch gweld chi? Os felly, beth tybed fydd eich symbolau chi?

    Gadewch i ni edrych ar rai enghreifftiau. Efallai, er enghraifft, rydych yn darian os oes gennych rôl o amddiffyn eraill rhag beth bynnag all fod yn fygythiad. Efallai y byddwch bob amser ar eich gwyliadwriaeth, ac yn awyddus i dawelu dadleuon, a lleddfu tensiynau. 

    Efallai y bydd rhywun arall yn gweld ei hun yn debyg i gi tywys. Efallai mai un fel yma ydych os ydych chi'n hoffi rhoi cyngor, ac yn hoffi gofalu nad yw pob eraill yn mynd ar goll.

    Efallai eich bod yn ddrych, yn gallu adlewyrchu meddyliau ac emosiynau pobl, fel eu bod hwy yn gallu eu hailasesu wedyn eu hunain.

    Gallai eraill weld eu hunain fel goleudy, baner i'w dilyn, rhwyd ddiogelwch, blanced gynnes, fflach mellten. Mae llawer iawn, iawn o bosibiliadau.

Amser i feddwl

Roedd Iesu yn sicr iawn ohono'i hun. Roedd yn meddu ar hyder a oedd yn golygu y gallai fod yn glir i bobl eraill ei ddeall.

Ydych chi’n siwr ohonoch chi eich hun? Ydych chi’n gwybod beth yw eich cryfderau? Ydych chi’n falch ohonyn nhw? Efallai, yn lle hynny, y byddwch yn cael eich temtio i ddymuno eich bod yn rhywun arall. 

Yr ydym mewn gwirionedd o ddefnydd mwyaf i'r naill a'r llall pan ydym yn onest am yr hyn ydym mewn difrif. Nid ydym yn israddol nac yn uwchraddol i unrhyw un arall, yn syml, ni ydym ni.  Rydym yn unigryw ac yn arbennig ac mae yna rôl yn y byd na all neb ond ni ein hunain ei chwarae.

Yn ôl â ni at ein cwestiwn agoriadol - pwy ydych chi? Treuliwch foment yn meddwl am y symbol y byddech chi’n ei ddewis i gynrychioli eich hun.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y bobl unigryw yr ydym.
Helpa ni i adnabod a bod yn falch o'r hyn sy'n ein gwneud yn nodedig.
Boed i ni roi darlun clir i bawb yr ydym yn eu cyfarfod, fel y gall eu byd fod yn lle gwell i fyw ynddo.

Cerddoriaeth

I am the one and only’ gan Chesney Hawkes

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon