Cysawd Yr Haul
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Fideo
(Edrychwch ar y wefan www.youtube.com/watch?v=GOuHFD4Af9k)
Cysawd yr Haul
(5 munud 18 eiliad)
Mae’r gwasanaeth hwn yn dilyn llwybr cyflawn, gyda deunydd myfyriol tua’r diwedd.
Mae’n bosib, wrth gwrs, y byddech yn dymuno ymestyn hyn wedi i’r fideo ddod i ben. Gwelwch syniadau’n dilyn.
Rydym yn argymell eich bod yn gwylio’r fideo cyn ei ddefnyddio gyda’ch cynulleidfa.
Fe all ansawdd rhywfaint o’r deunydd ymddangos yn wael – mae hyn oherwydd oedran y delweddau sydd wedi cael eu defnyddio.
Crynodeb
Mae’r gwasanaeth hwn yn bennaf yn ymwneud â Chysawd yr Haul ac yn ei gyflwyno fel cyfres o blanedau a chyrff eraill. Mae’r myfyrdod yn annog y myfyrwyr i feddwl ymhellach na’r blaned hon. Mae yma bwyslais ar y syndod a brofodd Newton wrth edrych trwy ei delesgopau, ac ar y rhyfeddod a ysgogwyd ynddo wrth iddo astudio Cysawd yr Haul.
Themâu
Edrych y tu hwnt i ni’n hunain, ac annog synnwyr o syndod a rhyfeddod.
Mae’n dda bod yn fi.
Dysgu amdanaf fy hun
Adnoddau ychwanegol
Llwythwch i lawr rai lluniau ar gyfer yr adran ‘Amser i feddwl’ – efallai y gallech chi ddefnyddio delweddau a dynnwyd o’r crwydryn archwilio diweddaraf fu’n tynnu lluniau o’r blaned Mawrth.
Cerddoriaeth
The Planets gan Holst
Unrhyw gerddoriaeth electronig, fel ‘Oxygene’ gan Jean-Michel Jarre
Emynau’n ymwneud â’r byd a’r greadigaeth, neu gariad Duw.
Amser i feddwl
(Goleuwch gannwyll a gadewch i’r myfyrwyr feddwl am yr yn y maen nhw newydd ei weld a’i glywed.)
Meddyliwch am yr hyn oll rydych chi’n gallu ei weld pan fyddwch chi’n edrych i fyny i awyr y nos:
y sêr, y planedau, ac ambell seren wib .…
Meddyliwch am harddwch y Ddaear:
y coed, y caeau, a holl lwyddiannau bodau dynol.
A byddwch yn ddiolchgar am y cyfan.
Gweddi
Diolch am harddwch y Ddaear
ac am bopeth sydd y tu draw i’n hawyr ni,
sydd y tu hwnt i’n cyrraedd ni ar hyn o bryd.
Gobeithio na wnawn ni byth golli’r awydd i archwilio
na cholli’r gallu i ryfeddu.
Amen