Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Swffragetiaid a Gweithredu Uniongyrchol

Ystyried y gweithredu uniongyrchol a wnaeth y swffragetiaid yn ystod eu hymgyrch.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y gweithredu uniongyrchol a wnaeth y swffragetiaid yn ystod eu hymgyrch.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth eich cynulleidfa bod mudiad protest newydd yn ysgubo’r wlad. Gadewch i ni alw’r mudiad ‘Yr Hawlwyr’. Mae llawer o bobl sy’n protestio’n heddychol, yn martsio, yn canu neu’n siantio, yn cario baneri ac yn mynychu cyfarfodydd. Mae grwp eraill sy’n gweithredu’n fwy uniongyrchol, yn clymu eu hunain â chadwyni wrth reiliau y tu allan i adeiladau, yn torri ffenestri ac yn difrodi eiddo, yn rhoi pethau ar dân, yn mynd ar streic newyn yn y carchar, yn taflu eu hunain i lawr grisiau a llawer mwy – gwneud pob math o bethau fel hyn er mwyn tynnu sylw at eu hachos.

    Gofynnwch i’r myfyrwyr, ‘Beth fydden ni’n galw’r ail grwp hwn? ‘Troseddwyr’, ‘Ymladdwyr dros Ryddid’, ‘Terfysgwyr’. . . ?

  2. Eglurwch fod y pethau hyn a restrwyd yn yr ail grwp o weithredoedd i gyd wedi cael eu gwneud yn eu tro gan y rhai oedd yn cael eu galw’n swffragetiaid (suffragettes) ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Merched oedd y rhain yn bennaf, er bod rhai dynion yn eu mysg, a oedd yn protestio yn erbyn annhegwch mewn cymdeithas lle nad oedd gan ferched hawl i bleidleisio. Roedden nhw’n mynnu bod yr hawl i bleidleisio yn hawl ddynol sylfaenol. 

    Eglurwch beth oedd manylion sylfaenol y mudiad os teimlwch fod angen gwneud hynny. A yw cael gwybod y ffeithiau hyn yn gwneud i chi ail feddwl am sut rydych chi’n eu hystyried? A yw’r ffaith bod eu hachos yn gyfiawn yn golygu bod yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn iawn? Os teimlwch fod hynny’n briodol, gofynnwch am ymateb eich cynulleidfa i’r cwestiynau hyn.

  3. Pwysleisiwch fod un gwahaniaeth hanfodol rhwng mudiad y swffragetiaid a sawl un o’r grwpiau sy’n gweithredu’n uniongyrchol. Mae gan bob oedolyn yn y D.U. hawl i bleidleisio. Felly, os ydyn nhw’n anhapus am unrhyw beth fe allan nhw lobïo, protestio o fewn terfynau’r gyfraith, a defnyddio’u llais i geisio perswadio’r Senedd i newid pethau. Roedd yr hawl sylfaenol hon yn cael ei gwrthod i bob merch nes yr enillwyd yr hawl iddyn nhw bleidleisio yn 1918, diolch i ymdrech y swffragetiaid. Do, yn y diwedd, yn 1918, fe wnaethon nhw ennill yr hawl i gael pleidleisio - ond dim ond i ferched oedd dros 30 oed ! Bu raid iddyn nhw aros tan 1928 cyn i ferched gael yr hawl i bleidleisio ar yr un telerau â dynion.

Amser i feddwl

Beth ydych chi’n ei feddwl  o’r gweithredu uniongyrchol a wnaed gan rannau o fudiad y swffragetiaid? Oedd ganddyn nhw ddewis, oherwydd bod dulliau democrataidd yn cael eu gwrthod iddyn nhw? A yw democratiaeth erbyn hyn wedi rhoi cymdeithas wirioneddol deg i ferched? Os na, sut rydych chi’n meddwl y mae angen i gymdeithas newid? Ym mha rannau o’r byd y mae merched yn dal i fod heb hawliau cyfartal yn ôl y gyfraith?

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon