Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Laserau A Balwnau

Helpu’r myfyrwyr i ddeall sut y gallan nhw fod yn oleuadau yn y byd, a helpu i drechu’r tywyllwch.

gan The Revd John Challis

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i ddeall sut y gallan nhw fod yn oleuadau yn y byd, a helpu i drechu’r tywyllwch.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pwyntydd laser fel a ddefnyddir i bwyntio at eiriau neu luniau ar sgrin mewn darlith - o ddewis, defnyddiwch bwyntydd laser o liw gwyrdd eithaf llachar.

  • Fe fydd arnoch chi angen dwy falwn ddu a dwy falwn wen, gyda rhai wrth gefn hefyd, pwmp chwythu balwnau neu heliwm i’w chwythu, a thri phwysau i dal y balwnau i lawr.

  • Er mwyn i’r gwasanaeth hwn fod yn effeithiol, fe fydd angen i chi allu cau’r llenni a phylu’r goleuadau (bydd rhaid i chi wirio o flaen llaw y bydd yn iawn i chi wneud hyn yn ystod y gwasanaeth). Nodwch fod yr awyrgylch yn gwneud gwahaniaeth i’r modd y mae’r arddangosiad ymarferol yn gweithio. Fe fyddwch yn defnyddio’r pwyntydd laser i fyrstio’r balwnau du, ac mae hynny’n gweithio’n well pan fo rhywfaint o olau. Ond, mae angen i’r ystafell fod yn dywyllach pan fyddwch chi’n pwyntio’r pwyntydd laser at y falwn wen er mwyn iddi dywynnu’n ddramatig. Treuliwch beth amser yn ymarfer gwneud hyn yn y lleoliad er mwyn cael y canlyniadau gorau, neu trefnwch i’r golau fod yn wan yn hytrach nag yn hollol dywyll.

  • Eglurwch i’r athrawon o flaen llaw, ac i’r myfyrwyr ar ddiwrnod y gwasanaeth, y bydd rhai o’r balwnau’n byrstio.

  • Chwythwch un falwn ddu ac un falwn wen ac, os hoffech chi ymestyn y gwasanaeth – a’ch bod chi’n barod i wneud hyn (mae braidd yn anodd), rholiwch un falwn wen yn denau a’i gosod i mewn yn un o’r balwnau du. Gan ddefnyddio pwmp chwythu balwnau i ddechrau, neu heliwm os gallwch chi, chwythwch y falwn wen yn gyntaf, yn dal i mewn yn y falwn ddu, a’i chlymu. Chwythwch y falwn ddu allanol wedyn ychydig yn fwy, fel bydd y falwn wen yn parhau y tu mewn i’r falwn ddu, ac yn arnofio y tu mewn iddi. Clymwch y falwn ddu. Yn awr, fe ddylech chi fod â dwy falwn mewn un. Gosodwch bwysau i dal y falwn i lawr. Hefyd, fe allech chi ychwanegu rhywfaint o gonffeti mân rhwng y falwn wen a’r falwn ddu.

  • Chwythwch un falwn wen ac un falwn ddu sengl a chysylltu’r pwysau iddyn nhw i’w dal i lawr.

  • Gosodwch y ‘tair’ balwn (un ddu, un wen, a’r un ddu gyda’r falwn wen y tu mewn iddi), gyda’r pwysau’n eu dal i lawr, ar fwrdd o flaen y myfyrwyr.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch fod Iesu wedi dweud mai ef yw goleuni’r byd, fel bydd y rhai sy’n ei ddilyn byth yn cerdded mewn tywyllwch. Siaradwch am sut rydym ni’n aml, ar wyliau neilltuol, yn cyfeirio at Iesu fel goleuni sy’n trechu’r tywyllwch. Cyfeiriwch at yr wyl berthnasol i’r tymor rydych chi ynddo ar y pryd e.e. adeg y Pasg, Adfent, Nadolig, Gwyl Fair y Canhwyllau ac adeg y Garawys (a chyfeirir at hyn mewn perthynas â bedydd hefyd). Dywedwch eich bod chi heddiw’n mynd i arddangos y cysyniad bod Iesu’n oleuni sy’n trechu’r tywyllwch. Ond yn gyntaf, rhaid i chi bwysleisio nad teganau yw pwyntyddion laser. Dydyn nhw ddim yn bethau i chwarae â nhw, ac fe fydd yr arddangosiad canlynol yn dangos i chi pam.

    Trefnwch fod y llenni’n cael eu cau a’r goleuadau’n cael eu diffodd neu eu pylu.

  2. Gofynnwch i’r myfyrwyr ddychmygu mai golau Crist yw’r golau sy’n dod trwy’r pwyntydd laser. Mae’r falwn wen yn ein cynrychioli ni fel pobl, a’r falwn ddu’n cynrychioli’r tywyllwch yn y byd. Anelwch olau’r pwyntydd laser at y wal neu’r nenfwd er mwyn i’r myfyrwyr sylwi ar y golau, ac eglurwch wrth wneud na ddylai unrhyw un, ar unrhyw gyfrif, droi’r pwyntydd at wyneb neb. Gan sefyll uwch ben y balwn ddu ac anelu’r pwyntydd ati (neu hyd yn oed ei anelu o ben draw’r neuadd - gan gofio osgoi pwyntio at wyneb neb) symudwch y pwyntydd o gwmpas ychydig, dangoswch sut mae’r balwn ddu’n amsugno’r golau. Fe allai lewyrchu yn union drwyddi hyd yn oed.

    Wedyn, pwyntiwch y pwyntydd laser at y falwn wen. Fe ddylai’r falwn wen newid lliw yn gyfan gwbl a goleuo trwyddi wrth i’r lliw gwyn adlewyrchu’r golau i bob cyfeiriad, a llenwi’r balwn nes ei bod fel pêl o olau disglair. Fe fydd yn disgleirio’n hardd ac yn dipyn o ryfeddod.

  3. Nesaf, symudwch y pwyntydd laser fel ei fod yn pwyntio at y falwn ddu, ond y tro hwn cadwch y pwyntydd laser mor llonydd ag y gallwch chi ar un man. (Fe fydd angen i chi fod yn weddol agos at y falwn i wneud hyn). Dywedwch wrth eich cynulleidfa bod y falwn ddu’n cynrychioli ein tywyllwch personol ni, y pethau rydyn ni wedi eu gwneud sydd ddim yn iawn, a bod Iesu wedi dod i’r byd i drechu’r tywyllwch hwnnw wrth i ni ei ddilyn. O fewn yr ychydig eiliadau y bydd yn ei gymryd i chi ddweud hyn fe fydd y laser yn byrstio’r balwn. Fe fydd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr wedi rhyfeddu, felly byddwch yn barod am eu hymateb. Eglurwch fod hyn fel Iesu’n trechu’r tywyllwch gyda’i oleuni. 

    Nawr trowch y pwyntydd laser at y falwn wen, fydd ddim yn byrstio, ond yn hytrach fe fydd yn tywynnu’n hardd. Eglurwch i’ch cynulleidfa bod Iesu eisiau i ni adael i’w oleuni ef ddod i mewn i ni fel hyn. Mae ar Iesu eisiau i ni adlewyrchu ei olau a llenwi ein bywydau gydag ef ei hun.

    Fe allech chi orffen ar y pwynt hwn, ond os gallwch chi fe fyddai’n dda parhau fel a ganlyn.

  4. Os ydych chi wedi llwyddo i greu’r falwn y tu mewn i’r falwn arall, ailadroddwch y broses trwy anelu’r pwyntydd laser at hon eto fel o’r blaen. Wedi i chi ddal y laser yn ddigon hir arni, a phan fydd y falwn ddu’n byrstio, y tro hwn daliwch i anelu’r pwyntydd laser at y falwn wen oedd y tu mewn i’r un ddu ond chwifiwch y golau mewn cylch ysgafn arni ac fe fydd yn goleuo ond ddim yn byrstio. Fe fydd hyn hefyd yn peri syndod i’ch cynulleidfa, ac os yw’r falwn wedi ei llenwi â heliwm, fe fydd yn codi. Ac oherwydd eich bod yn dal i anelu’r pwyntydd laser ati fe fydd yn dal yn llachar ac yn adlewyrchu’r golau. Os ydych chi wedi llwyddo i roi conffeti i mewn hefyd yn y falwn ddu fe fydd yn ddramatig iawn pan fydd honno'n byrstio.

    Y naill ffordd neu’r llall, ar y pwynt hwn, fe allwch chi ychwanegu bod Iesu, wrth i ni ei ddilyn a rhoi lle i’w oleuni ddod i mewn i’n bywyd, yn ein gollwng yn rhydd.

  5. Efallai yr hoffech chi ddiweddu trwy roi peth gwybodaeth wyddonol. Fe allwch chi egluro ein bod yn tueddu i wisgo dilladau tywyll yn y gaeaf oherwydd ein bod bryd hynny fel y falwn ddu, yn amsugno’r goleuni a’r gwres ac mae hynny’n ein cadw ni’n gynnes. Yn yr un ffordd, fe fyddwn ni’n tueddu i wisgo dilladau gwyn a lliwiau golau yn yr haf i adlewyrchu’r golau a’n cadw rhag mynd yn rhy boeth.

Amser i feddwl

Rydyn ni’n aml yn sôn am Iesu yn oleuni’r byd ac yn un sy’n trechu’r tywyllwch. Pan fyddwn ni’n gwahodd Iesu i’n bywyd, dyna beth mae’n ei wneud. Rhaid i ni ddysgu bod fel y falwn wen ac adlewyrchu ei olau a’i gariad.

Gweddi
Dduw, Dad,
Goleua ein tywyllwch a helpa ni i adlewyrchu dy oleuni a dy wirionedd di.
Rwyt ti eisiau i ni fod yn oleuadau sy’n dod â goleuni i eraill felly llenwa ni heddiw gyda dy oleuni di.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon