Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Freuddwdd

Myfyriwch ar araith enwog Martin Luther King, ar Awst 28, 1963.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Myfyriwch ar araith enwog Martin Luther King, ar Awst 28, 1963.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr fideo o anerchiad Martin Luther King, ‘I have a dream . . . ’ (gwiriwch yr hawlfraint) a threfnwch fodd i arddangos y clip fideo yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae’r ychydig gannoedd o flynyddoedd diwethaf wedi eu nodi ag achosion o wrthdaro ethnig a hiliol, fel mae achosion fel yr Holocost, yr hil-laddiad yn Rwanda a’r rhyfel cyfredol yn Syria yn dangos. Mae hefyd unigolion sydd wedi sefyll uwch ben y casineb a’r trais, ac wedi galw am heddwch a chydweithrediad. Un o’r ymgyrchwyr blaenaf ac enwocaf ynglyn â heddwch oedd Dr Martin Luther King.

  2. Ar 28Awst 1963, fe ddaeth tua dau neu dri chan mil o Americaniaid at ei gilydd i wrthdystio yn Washington DC. Hon oedd y ‘March on Washington for Jobs and Freedom’. Roedd sawl nod gan y trefnwyr, ond yr hyn a unai’r orymdaith oedd yr alwad am fwy o ryddid i Americaniaid Affricanaidd. Roedd y dyddiad a ddewiswyd ar gyfer yr orymdaith yr un diwrnod â chanmlwyddiant Proclamasiwn Rhyddfreiniad Lincoln (Emancipation Proclomation), a roddodd ddiwedd ar gaethwasiaeth yn Unol Daleithiau America. Er hynny, roedd anghydraddoldeb hiliol yn parhau i fod yn ddifrifol, ac roedd Americaniaid Affricanaidd yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd mewn llawer o’r taleithiau.

  3. Roedd yr Arlywydd Kennedy yn ceisio pasio’r Ddeddf Hawliau Sifil ar y pryd, a fyddai’n darparu mwy o ryddid i Americaniaid Affricanaidd. Tra roedd llawer o bobl yn gorymdeithio i ddangos eu cefnogaeth i’r Arlywydd, roedd eraill yn martsio i feirniadu’r ddeddf am beidio â mynd yn ddigon pell.

  4. Dr King oedd yr un i roi’r anerchiad terfynol y diwrnod hwnnw, ac fe ddaliodd naws y dicter a’r gobaith oedd ynglyn â’r orymdaith. Fe ddywedodd, ‘America has given the Negro people a bad cheque’, gan gyfeirio at y canrifoedd o gaethwasiaeth ac anghyfiawnder hiliol, ond meddai wedyn, trwy orymdeithio gyda’i gilydd ‘we’ve come to cash this cheque’. Roedd yr arweinwyr iawnderau sifil wedi dod ynghyd i fynnu cael chwarae teg i bawb.

    Eto, y darn am ei freuddwyd, ‘I have a dream  . . .’ yn ei araith sydd wedi dod yn rhywbeth arbennig mewn hanes. Galwodd Dr King, nid am weithredoedd o ddial yn erbyn y gormeswyr, ond am ddealltwriaeth a chydweithrediad. Mae’r frawddeg enwocaf yn yr araith yn cario addewid o heddwch, maddeuant, a diwedd ar y gwrthdaro hiliol - ‘I have a dream, that my four little children will one day live in a nation where they will not be judged by the color of their skin but by the content of their character. I have a dream today!

Amser i feddwl

Gwyliwch y fideo o’r araith enwog.

Mae’n cymryd dewrder enfawr i sefyll yn gadarn yn erbyn gormes. Ond yn fwy na hynny, mae hyd yn oed yn fwy anhygoel bod rhywun yn awyddus i symud ymlaen, maddau a gorymdeithio ynghyd tuag at gyfiawnder. Mae araith Martin Luther King yn parhau i sefyll fel y meincnod ar gyfer cyfiawnder a chydraddoldeb rhwng bodau dynol.

Beth wnawn ni heddiw, i helpu’r freuddwyd honno ddod yn wir?

Chwaraewch yr araith eto wrth i’r myfyrwyr ymadael â’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon