Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Un Cariad!

Herio’r myfyrwyr i fyfyrio ar undod yr holl ddynoliaeth.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Herio’r myfyrwyr i fyfyrio ar undod yr holl ddynoliaeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Chwliwch am un o ganeuon Bob Marley, ‘One Love’, ac am y gerddoriaeth gan Beethoven, ‘Ode to Joy’, o’i Nawfed Symffoni, a threfnwch fodd o chwarae’r darnau cerddoriaeth yn y gwasanaeth. Neu, dewiswch un os na allwch chi gael y ddau ddarn (gwiriwch yr hawlfraint). Nodwch mai addasiad yw’r geiriau isod ac mae’n un o’r nifer o amrywiaethau sydd ar gael, am fod y fersiynau i gyd yn gyfieithiadau o’r gerdd wreiddiol a ysgrifennwyd mewn Almaeneg.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch tua munud neu ddau o’r ddau ddarn cerddoriaeth ‘One Love’ ac ‘Ode to Joy’.Holwch y myfyrwyr ydyn nhw’n adnabod y darnau, a cheisiwch eu cael i ddyfalu beth yw’r cysylltiad rhwng y ddau ddarn.

  2. Yr hyn sy’n cysylltu’r ddau ddarn gwahanol iawn hyn yw bod y ddau’n mynegi gweledigaeth o’n dynoliaeth gyffredinol ni, o ddynoliaeth unedig. Darn o gerddoriaeth oedd ‘Ode to Joy’ gan Beethoven a ysgrifennwyd yn seiliedig ar gerdd wedi ei hysgrifennu gan fardd o’r enw Friedrich Schiller yn 1785. Mae’r dyfyniad Saesneg canlynol yn rhoi syniad i chi o thema’r gerdd:

    Joy, bright spark of divinity,
    Daughter of Elysium,
    Fire-inspired we tread
    Thy sanctuary.
    Thy magic power reunites
    All that custom has divided,
    All men become brothers
    Under the sway of thy gentle wings.

    Mae gweddi Schiller yn y gerdd – sef y dymuniad i’r holl ddynoliaeth gael ei huno – yn cael ei hatgyfnerthu gan ddrama a mawredd cerddoriaeth Beethoven. Mae  ‘Ode to Joy’ wedi dod yn symbol cryf o unoliaeth, ac am y rheswm hwn mae wedi dod yn anthem Ewropeaidd.

  3. Yn yr un ffordd, mae cân Bob Marley, ‘One Love’ yn ymgorffori thema bwysig yn ei waith - sef y dymuniad bod yr holl ddynoliaeth yn un. Mae geiriau Marley - ‘One love, one heart, let's get together and feel all right’ - yn cyfuno â melodi heintus i roi gweledigaeth lawen o unoliaeth a chariad.

    Fe weithiodd Marley’n ddiflino i ddod â’r carfanau gwleidyddol cynhennus ynghyd yn ei wlad enedigol, Jamaica.  Ar 3 Rhagfyr 1976, fe saethwyd Marley a’i anafu gan ddyn â gwn, y credir ei fod yn gwrthwynebu ymddangosiad Marley mewn cyngerdd heddwch. Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, er gwaethaf ei anafiadau, fe berfformiodd Marley mewn cyngerdd yn unol â’r trefniadau. Pan ofynnwyd iddo pam y mynnodd ymddangos ar y llwyfan, fe atebodd trwy ddweud nad oedd y bobl a oedd yn ceisio gwneud y byd yn lle gwaeth yn cymryd y diwrnod i ffwrdd, felly sut y gallai ef wneud hynny - ‘The people who are trying to make this world worse aren't taking a day off. How can I?

  4. Mae cerddoriaeth Beethoven a Marley’n datgan y gwirionedd ein bod i gyd yn rhannu dynoliaeth gyffredin. Mae celwyddau rhagfarnau a gwahaniaethu yn gwneud y peth hollol groes - yn ceisio ein hargyhoeddi bod grwpiau eraill o bobl yn wahanol i ni, a’u bod mewn gwirionedd yn israddol, ac yn llai na dynol. Mae hilyddiaeth yn ceisio dad-ddyneiddio pobl eraill.

  5. Mae llawer o’r hanesion yn y Beibl yn ymwneud â hanes y bobl Iddewig. Iddewon oedd y Cristnogion cyntaf i gyd, ac roedden nhw’n dadlau a ddylen nhw adael i’r cenedl-ddynion (pobl oedd ddim yn Iddewon) ddod yn rhan o’r eglwys ai peidio. O'r diwedd fe wnaethon nhw sylweddoli bod cariad Duw’n ymestyn nid yn unig i’r Iddewon ond i bawb. Mae’r dyfyniad enwog gan Pedr yn nodi hyn, ‘Ar fy ngwir,’ meddai, ‘rwy’n deall nad yw Duw yn dangos ffafriaeth, ond bod y sawl ym mhob cenedl sy’n ei ofni ac yn gweithredu cyfiawnder yn dderbyniol ganddo ef.’ (Actau 10.34–35).

    Yn ganolog i newydd da Cristnogaeth mae’r syniad o Dduw sy’n cymodi’r holl bobl – hynny yw, yn dod â’r bobl ynghyd.

    Ein sialens yw rhannu’r neges hon o unoliaeth, o ‘un cariad’ yn ein bywyd ein hunain – yn ein hysgol ac yn ein cymuned. Mae angen i ni frwydro yn erbyn rhagfarnau a gwahaniaethu o bob math. Mae angen i ni drin pobl eraill mewn ffordd sy’n dangos iddyn nhw ein bod yn deall eu bod yn rhannu dynoliaeth gyffredin. Mae angen i ni ymddwyn mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r wybodaeth ein bod i gyd wedi ein creu ar ddelwedd Duw.

Amser i feddwl

Mae Paul yn siarad am unoliaeth yr holl bobl yn Galatiaid 3.28:

Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.

Gweddi
Dywedodd Desmond Tutu yn ei lyfr,God Has a Dream: A vision of hope for our time:

‘If we could but recognize our common humanity, that we do belong together, our destinies are bound up in one another's, that we can be free only together, that we can survive only together, that we can be human only together, then a glorious world would come into being.’

Arglwydd,
Helpa ni i weld ein bod ni, o dan ei gwahaniaethau arwynebol, yn rhannu’r un ddynoliaeth gyffredin.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon