Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Adeiladu O'r Gwaelod I Fyny

Annog y myfyrwyr i drefnu eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ysgol sydd i ddod.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i drefnu eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ysgol sydd i ddod.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi dau ddarllenydd.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Felly, dyma ni ar ddechrau blwyddyn ysgol newydd arall – a’r holl gyfleoedd a sialensiau’n ymestyn o’n blaen. Nid yw’r dechrau’n para’n hir – mae’r dechrau bron ar ben yn barod – ond mae’n rhan arwyddocaol o’r flwyddyn ysgol, a does dim modd cael yr amser hwnnw’n ôl unwaith y bydd wedi mynd.

  2. Adroddodd Iesu stori ynghylch pa mor bwysig yw cael y dechrau’n iawn. Roedd rhywbeth yn debyg i Bob the Builder. Wyddoch chi, roedd dau ddyn, ac roedd y ddau am fynd ati i ddechrau adeiladu ty bob un iddyn nhw’u hunain.

    Darllenydd 1  Gwelodd un dyn safle hyfryd lle gallai godi ty yn ymyl afon. Roedd y pridd yn feddal ac yn hawdd i’w gloddio. Meddyliodd y gallai wneud y gwaith heb fawr o ymdrech. Gosodwyd sylfeini’r ty mewn diwrnod, adeiladwyd y waliau’n sydyn, ac yn fuan iawn roedd ganddo dy newydd sbon mewn llecyn braf lle gallai ymlacio ynddo.

    Darllenydd 2  Meddyliodd yr ail ddyn yn fwy gofalus am ei brosiect, ac fe ddaeth o hyd i leoliad ychydig yn uwch ar ochr y bryn. Roedd yn waith caled gosod y sylfeini, am fod y tir yno’n fwy creigiog. Weithiau, fe fyddai’r dyn yma’n edrych draw at dy ei ffrind ac roedd yn teimlo’n ddigon eiddigeddus yn aml wrth weld pa mor gyflym yr oedd hwnnw’n mynd ymlaen â’r gwaith adeiladu. Ond ymhen amser yr oedd yntau wedi gorffen ei dy ac yn dechrau setlo yn ei gartref newydd.

    Arweinydd  Yna, fe ddaeth y gaeaf.

    Darllenydd 1  Fe ddechreuodd y glaw arllwys ar y ty newydd cyntaf. Cododd lefel y dwr yn yr afon a gorlifo’i glannau, Golchodd y llif y tir meddal o gwmpas y ty i ffwrdd, a thanseilio sylfeini’r ty hwnnw, ac fe gwympodd y waliau. Dyna beth oedd trychineb!

    Darllenydd 2 Fe arllwysodd yr un glaw ar yr ail dy newydd hefyd. Fe orlifodd yr un afon ei glannau, ond wnaeth y llif ddim cyrraedd yr ail dy am ei fod yn uwch ar ochr y bryn. Wnaeth hyd yn oed y glaw trwm ddim effeithio ar y sylfeini oherwydd eu bod wedi eu gosod yn gadarn yn y graig.

  3. Arweinydd Trwy’r stori hon, roedd Iesu’n dweud bod y cynlluniau y byddwn ni’n eu gwneud, yr egwyddorion sy’n ffurfio seiliau ein cynlluniau, a’r gwaith y byddwn ni’n ei wneud yn gyntaf cyn i ni weithredu, yn hanfodol bwysig. Roedd lesu’n siarad hefyd am fyw bywyd wedi ei sylfaenu ar ei athrawiaeth ef fel bod yn sail dda i adeiladu arni. Mae’r cysyniadau hyn yn gymwys beth bynnag y byddwn ni’n ei wneud yn ein bywyd. Gadewch i ni ystyried sut y gallen nhw fod yn gymwys yn ein hachos ni wrth i ni ddechrau ar y flwyddyn ysgol newydd hon.

    Darllenydd 1  Dwi’n siwr y bydd y flwyddyn hon yn ddigon hawdd. Fe ddylwn i allu ymdopi heb fawr o ymdrech. Fe wna i gymryd pethau fel y byddan nhw’n dod, gwneud dim ond beth fydd rhaid i mi eu gwneud i basio, a dal ati i fwynhau bywyd. Mae adolygu munud olaf wedi gweithio bob tro i mi yn y gorffennol. Fe alla i ddibynnu ar fy ffrindiau i fy helpu a gwneud esgusion ar fy rhan pan fydd angen rhoi’r gwaith cartref i’r athrawon. Pam gwastraffu amser ac ymdrech a minnau â chymaint o weithgareddau llawer mwy difyr i’w gwneud?

    Darllenydd 2  Mae’r pwysau’n mynd yn fwy ac yn fwy wrth i mi symud i fyny’r ysgol o flwyddyn i flwyddyn. Rhaid i mi gynllunio’n ofalus er mwyn gallu gwneud y gorau o bob cyfle a gaf fi. Mae angen cadw cydbwysedd rhwng gwaith a gweithgareddau hamdden a chymdeithasol. Mae’n bwysig fy mod i’n cael digon o amser i wneud rhai chwaraeon am fod hynny’n bleser ac yn fy nghadw’n ffit ac yn iach. Rydw i hefyd yn gofalu beth rydw i’n ei fwyta - nid mynd ar ddiet, ond bwyta digon o fwydydd iachus. Mae angen i mi ofalu fy mod i’n cael digon o gwsg bob nos hefyd, yn enwedig o nos Sul i nos Iau. Os gwnaf i gynllunio hyn yn iawn, fe allai’r flwyddyn hon fod yn flwyddyn bleserus yn ogystal â bod yn flwyddyn lwyddiannus i mi.

  4. Arweinydd  Rwy’n credu mai’r hyn sy’n cyfrif yw’r agwedd tuag at osod sylfaen i’r cyfan, mae’n ymwneud â bod o ddifrif ynghylch y cynlluniau rydych chi’n eu gosod i chi eich hunan ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd, fel hyn. Os byddwch chi’n cael y pethau hyn yn iawn ar y dechrau, yna, pan fydd y pwysau’n cynyddu ar adeg arholiad neu derfyn amser cyflwyno gwaith, fe fyddwch chi’n gallu ymdopi’n iawn a phopeth o dan reolaeth. Peth digon amhleserus yw pwysau neu fod o dan straen, ond fe fyddwch chi’n gallu ymdopi’n well â’r pwysau os byddwch chi wedi adeiladu’r sylfaeni’n dda, yn hytrach na dim ond cymryd pethau fel maen nhw’n dod.

Amser i feddwl

Arweinydd Felly, dyma’r amser i wneud tipyn o waith adeiladu. Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i feddwl am y peth, a rhoi eich cynlluniau ar waith, ond fe fyddwch chi’n falch iawn eich bod wedi gwneud hynny pan ddaw’r ‘gaeaf’.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am ddechreuadau newydd, heriau newydd, cyfleoedd newydd. Gad i mi gynllunio’n ofalus ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd hon, fel y gallaf ymdopi pan ddaw’r pwysau.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Cerddoriaeth thema Bob the Buildergan Paul Joyce

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon