Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ymdrin O Ddifrif A Materion Amgylcheddol

Archwilio ymagwedd y mudiad Greenpeace tuag at faterion amgylcheddol, er mwyn annog y myfyrwyr i ofalu am yr amgylchedd.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ymagwedd y mudiad Greenpeace tuag at faterion amgylcheddol, er mwyn annog y myfyrwyr i ofalu am yr amgylchedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi dau ddarllenydd.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Sut rydych chi’n asesu gwerth rhywbeth? Er enghraifft, beth yw gwerth coedwig? Beth yw gwerth morfil? Beth yw gwerth cefnfor glas hyfryd? Beth yw gwerth golygfa hardd?

    Darllenydd 1  Yng ngolwg rhai pobl, dim ond pan fydd y coed wedi eu torri a’u gwerthu, i’w troi’n danwydd neu’n ddeunydd adeiladu, y mae coedwig yn werth rhywbeth.

    Darllenydd 2  Yng ngolwg rhai pobl, dim ond pan fydd y morfil wedi ei drywanu a’i dorri’n ddarnau i wneud bwyd i anifeiliaid anwes y mae’r creadur hwnnw yn werth rhywbeth.

    Darllenydd 1  Yng ngolwg rhai pobl, dim ond pan fydd y pysgod wedi eu dal a’i gwerthu’n fwyd i bobl, a’r olew o wely’r môr wedi ei gludo i’r burfa a’i droi’n betrol a disl y mae cefnfor mawr yn werth rhywbeth.

    Darllenydd 2  Yng ngolwg rhai pobl, dim ond cuddio’r adnoddau fel mwynau y gellir eu cloddio o’r ddaear a’u defnyddio mewn diwydiant y mae golygfa hardd.

  2. Arweinydd  Ar 15 Medi, mae’n Ddiwrnod Greenpeace. Mudiad amgylcheddol yw Greenpeace sy’n ystyried materion sy’n gysylltiedig â’r byd o’n cwmpas mewn ffordd gwbl wahanol i’r enghreifftiau rydyn ni wedi clywed amdanyn nhw yma’n awr, yn enwedig wrth fesur gwerth pethau fel coedwigoedd, morfilod, cefnforoedd a golygfeydd ysblennydd. 

    Wedi ei sefydlu yn Vancouver, Canada, yn 1971, mae gweledigaeth gan fudiad Greenpeace o fyd sydd, fel mae’r enw’n awgrymu, yn wyrdd ac yn heddychol, lle mae’r amgylchedd yn iach a bywyd yn cael ei feithrin yn ei holl amrywiaeth.

    Darllenydd 1  Mae Greenpeace yn awgrymau y dylai coedwig gael ei gwerthfawrogi nid yn unig fel ffynhonnell tanwydd a deunyddiau adeiladu, ond hefyd fel man lle mae carbon deuocsid yn cael ei amsugno, ac ocsigen yn cael ei ryddhau i’r awyr, lle mae planhigion yn ffynnu ac yn darparu atebion newydd i broblemau meddygol, lle mae anifeiliaid ac adar yn creu cymunedau byw llawn lliw, seiniau a gweithgaredd. Fyddai dim o hyn yn digwydd pe byddai’r coed i gyd yn cael eu torri a’r coedwigoedd yn cael eu dinistrio.

    Darllenydd 2  Mae Greenpeace yn awgrymau y dylai morfilod gael eu gwerthfawrogi er eu mwyn eu hunain fel y mamaliaid mwyaf ar y blaned. Maen nhw’n rhan o ecosystem gymhleth, ac mae’n olygfa ryfeddol eu gwylio’n teithio’r dyfnderoedd gan ddod i’r wyneb ambell dro gan dasgu’r dwr mewn sblash enfawr cyn plymio’n ôl i’r dwfn.

    Darllenydd 1  Mae Greenpeace yn awgrymau y dylai’r cefnforoedd gael eu gwerthfawrogi fel uned enfawr sy’n rheoli’r hinsawdd, yn cynhesu ac oeri systemau awyr y blaned, gan greu cymylau a gwyntoedd. Hefyd, mae’r cefnfor yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd, o’r plancton lleiaf i’r morfilod mawr rydyn ni newydd fod yn sôn amdanyn nhw - amrywiaeth sydd â chydbwysedd sensitif iawn y mae’n hawdd iawn tarfu arno trwy orbysgota a llygru’r cefnforoedd.

    Darllenydd 2  Mae Greenpeace yn awgrymau bod golygfa hardd yn rhywbeth y dylem ei gwerthfawrogi am yr hyn ydyw yn unig - ffynhonnell harddwch, ffynhonnell tawelwch, a ffynhonnell ysbrydoliaeth.

  3. Arweinydd  Mae Greenpeace yn fudiad sy’n amcanu i’n hysbrydoli ni. Mae’n tynnu ein sylw at ryfeddodau’r byd rydyn ni’n byw ynddo, ac yn ein hannog o gefnogi’n weithredol y llywodraethau, busnesau ac unigolion hynny sy’n ceisio cael y cydbwysedd yn iawn yn nhermau defnyddio’n feddylgar yr adnoddau sydd ar gael yn yr amgylchedd. Ac ar yr un pryd, mae’n ceisio sicrhau bod adnoddau newydd y cael eu datblygu fel ein bod byth yn cyrraedd y pwynt pryd y bydd y cyfan wedi eu defnyddio a rhai ffurfiau o fywyd wedi diflannu am byth oddi ar ein planed, Daear. 

    Mae Greenpeace hefyd yn gwrthwynebu’r rhai hynny sy’n mynnu ecsploetio’r adnoddau hyn yn anghyfrifol. Ambell dro fe fydd aelodau Greenpeace yn gwneud hyn mewn ffordd fentrus a dewr, yn meddiannu rigiau olew, neu’n hwylio rhwng morfilod a chychod y bobl sy’n eu hela. Mae’r tactegau hynny, o bosib yn ddulliau sydd y tu hwnt i beth y byddem ni’n bersonol yn dymuno bod yn rhan ohonyn nhw. Ond mae Greenpeace hefyd yn rhoi lle i wirfoddolwyr ledled y D.U. -  pobl sy’n protestio yn erbyn ecsploetio a difrodi’r amgylchedd. Maen nhw’n gwneud hynny trwy anfon negeseuon testun a negeseuon ebost, trefnu gorymdeithiau, protestio, ac annog boicotio mannau a chynnyrch sy’n niweidiol i’r amgylchedd. Os ydych chi’n pryderu am yr amgylchedd, yna fe allai Greenpeace eich helpu i ganolbwyntio eich gofal yn ein cymuned.

Amser i feddwl

Tybed sut y byddech chi’n mesur gwerth yr amgylchedd yr ydych chi’n byw ynddo? Mae’n gwestiwn cymhleth gydag amrywiaeth o atebion posib. Mae’n debyg bod cymaint o wahanol atebion ag sydd o unigolion yn bresennol yma heddiw. Ar Ddiwrnod Greenpeace, mae’n werth treulio ychydig o amser yn meddwl beth ydych chi eich hunan yn ei feddwl.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am gymhlethdod y byd rydyn ni’n byw ynddo, ei liwiau a’i siapiau, ei seiniau, ei arogleuon a’i weadedd.
Helpa fi i farnu beth yw’r gwerth y byddwn ni’n ei roi ar bob rhan.
Boed i mi fyw i warchod y byd hwn yn ystod fy amser ar y blaned hon a’i gwarchod hefyd er mwyn y dyfodol.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

‘Big Yellow Taxi’ gan Joni Mitchell

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon