Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pwy Meddwch Chi Ydwyf Fi?

Rhoi sialens i’r myfyrwyr feddwl pwy ydyn nhw mewn gwirionedd.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Rhoi sialens i’r myfyrwyr feddwl pwy ydyn nhw mewn gwirionedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr rai delweddau o amrywiol enwogion pan oedden nhw’n blant a delweddau o fel maen nhw’n edrych ar hyn o bryd (gwiriwch yr hawlfraint), a threfnwch fodd o ddangos y delweddau yn ystod y gwasanaeth, ond cymysgwch y drefn y parau y byddwch chi’n eu dangos.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr drefnu’r delweddau mewn parau – gan baru lluniau’r plant gyda lluniau’r oedolion.

    Ac yna mwynhewch egluro i’ch cynulleidfa pa un o’r plant a dyfodd i fod yn ba oedolyn.

  2. Pwy ydych chi’n ddweud yw’r bobl hyn? Beth yw cefndir y bobl hyn rydyn ni’n edrych ar eu lluniau yma?

    Oedwch am foment neu ddwy i ddweud rhywbeth am yr enwogion, neu fe allech chi ofyn i’r myfyrwyr hel ychydig o straeon am rai os ydyn nhw wedi clywed rhywbeth amdanyn nhw.

  3. Pwy ydych chi’n ddweud ydych chi? A yw pobl yn adnabod y gwir chi, neu ydych chi’n codi gwahanfuriau o’ch cwmpas i gadw eich hun i chi’ch hunan? 

    Fyddwch chi’n newid sut rydych chi’n ymddwyn o gwmpas pobl? Fe all yr un ydych chi gyda’ch rhieni fod yn gwbl wahanol i’r person ydych chi gyda’ch ffrindiau. Pwy fyddai pobl eraill yn ddweud ydych chi? 

    Fe allai eich athrawon ddweud eich bod chi’n dawel iawn yn y dosbarth, er hynny, pan fyddwch chi gartref chi yw’r un yn y teulu sydd â mwyaf o swn. Neu i’r gwrthwyneb, efallai mai chi yw’r clown yn y dosbarth ond pan fyddwch chi gartref rydych chi’n dawel iawn. A yw eich gweithredoedd a’ch geiriau’n dweud pwy ydych chi mewn gwirionedd, neu ydych chi’n ceisio o ddifrif i gadw’r gwir chi o’r golwg?

  4. Gadewch i ni ddod yn ôl at ein henwogion. Fe fyddech chi’n eu hadnabod ar unwaith pe bydden nhw’n cerdded i mewn i’r ystafell hon – fe fyddech chi’n gwybod pwy ydyn nhw dim ond wrth edrych arnyn nhw. Rydych chi’n gwybod beth yw eu gwaith, beth maen nhw’n ei wneud, ac mae’n bosib eich bod chi (trwy’r cyfryngau) yn gwybod rhywfaint am eu bywyd personol hefyd.

  5. Pe byddai Iesu’n cerdded i’r ystafell, fyddech chi’n ei adnabod? Pwy fyddech chi’n ddweud yw Iesu? 

    Ailadroddwch ymatebion y myfyrwyr a’u trafod - awgrymiadau fel ‘Mab Duw’ ac ati

    Roedd Iesu yn ffigur hanesyddol gwirioneddol. Mae gwybodaeth gennym, a ddaeth gan ddyn o’r enw Josephus, Bod Iesu wedi bodoli fel dyn ac wedi ei groeshoelio gan y Rhufeiniaid. 

    Doedd llawer o’i bobl ei hun, yr Iddewon, ddim wedi adnabod pwy oedd Iesu pan oedd ar y Ddaear y tro cyntaf. Yn wir, yn Efengyl Ioan (1.10-11), mae’n dweud, ‘Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu’r byd mohono. Daeth i’w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono.’ Cafodd Iesu ei wrthod gan y bobl a oedd fod i wybod yn iawn pwy oedd Iesu’n hawlio ei fod - sef y Meseia. 

    Ond, roedd rhai pobl a wnaeth ei adnabod, fodd bynnag. Fe wnaeth Pedr, un o’i ddisgyblion ei adnabod. Fe ofynnodd Iesu o ddifrif i Pedr un tro, ‘Pwy meddwch chwi ydwyf fi?’ Ac fe atebodd Pedr, ‘Ti yw’r Meseia, Mab y Duw byw’ (Mathew 16.15-16). Mae diwinyddion yn cyfeirio at y foment honno fel ‘Datganiad Pedr’, wrth i Pedr gyfaddef ei fod yn gwybod pwy oedd Iesu, nid oherwydd bod rhywun wedi dweud wrtho, ond oherwydd ei fod wedi bod yn dyst i’r hyn a wnaeth Iesu - bwydo’r 5000 o bobl, llenwi rhwydau Pedr ei hun â physgod, iachau pobl wedi’u parlysu a phobl wael. Fe wnaeth adnabod Iesu hefyd trwy’r hyn a ddywedodd Iesu amdano’i hun, ac oherwydd y ffordd y gwnaeth gyflwyno’i gred. 

    Mae datganiad Pedr yn bwysig iawn oherwydd dim ond trwy ddeall bod gallu Iesu’n dod oddi wrth Dduw, mae’n gwybod mai Iesu yw’r Crist, y Meseia, yr un dewisedig wedi ei anfon oddi wrth Dduw i ddangos i ni sut un yw Duw mewn gwirionedd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y sawl person gwahanol ydych chi . . .
Y person yn yr ysgol.
Y person yn y cartref.
Y person ‘allan gyda’ch ffrindiau’ . . .

Pwy ydych chi mewn gwirionedd?

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon