Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Efengyl I'r Holl Bobl

Cynwysoldeb Luc (Dydd gwyl 18 Hydref)

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut mae Efengyl Luc yn arddangos bod Cristnogaeth yn cynnwys pawb.

Paratoad a Deunyddiau

Chwiliwch am y gân ‘Left outside alone’ gan Anastacia (neu gân arall gyda thema debyg), a threfnwch y modd i’w chwarae ar gyfer cyflwyno’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch ran o’r gân, ‘Left outside alone’.

    Yr hyn sy’n gwneud y gân hon mor rymus yw bod Anastacia yn mynegi’r teimlad dwfn hwnnw o fod wedi cael ei brifo, fel y byddwn ninnau’n teimlo o dro i dro, o bosib. Dyma ei geiriau – ‘Still I wonder if you know, how it really feels, to be left outside alone.’

  2. Allwch chi feddwl yn ôl at adeg yn eich bywyd pan wnaethoch chi deimlo eich bod wedi cael eich anwybyddu neu wedi cael eich gadael yn unig? Efallai na chawsoch eich gwahodd i barti rywun, neu efallai na chawsoch eich cynnwys gyda grwp o ffrindiau, neu eich bod heb gael eich dewis i’r tîm. Mae’r teimlad o gael eich gwahardd neu eich gadael allan yn rhywbeth sy’n gallu effeithio’n ddwfn arnom ni, oherwydd mae pob un ohonom yn hoffi cael ein cynnwys, a chael y teimlad o fod yn perthyn.

  3. Os byddwn ni’n darllen yr Efengylau, yn y Beibl, fe welwn ni’n glir bod rhai grwpiau o bobl yn oes Iesu Grist yn meddwl amdanyn nhw’u hunain fel y bobl bwysig – a’r rheini oedd y  Phariseaid, y bobl barchus, a chyfoethog – ac roedden nhw’n ystyried pobl eraill yn wrthodedig ac yn ddim gwerth eu hadnabod – pobl fel casglwyr trethi, y gwahangleifion, y tlodion, ac ati.

    Y peth gwirioneddol ddiddorol am Iesu oedd ei fod ymddangos fel pe byddai’n treulio llawer o amser yng nghwmni’r bobl wrthodedig hyn – y rhai hynny a oedd yn cael eu condemnio gan y gymdeithas a oedd yn honni bod yn ‘barchus’. Pan holodd y Phariseaid Iesu am hyn a gofyn pam roedd yn treulio amser yn eu cwmni, fe atebodd gan ddweud nad y bobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sâl. Mewn geiriau eraill, roedd Iesu wedi dod i helpu pechaduriaid, a’r bobl hynny yr oedd pobl eraill yn edrych i lawr arnyn nhw, yn hytrach na’r bobl hynny oedd eisoes yn credu eu bod nhw’u hunain yn bobl gyfiawn – sy’n golygu, yn llythrennol, ‘gwneud popeth yn y ffordd iawn’.

  4. Gallwn weld hyn yn neilltuol yn Efengyl Luc - efallai am ei fod ef ei hun yn ychydig bach o ddieithryn. Roedd y rhan fwyaf o’r Cristnogion cyntaf yn Iddewon, ond roedd Luc yn un o’r Cenedl-ddynion (neu’r Cenhedloedd) - hynny yw, rhywun oedd ddim yn Iddew - ac roedd rhai o’r Cristnogion cynnar yn credu nad oedd y Cenhedloedd â’r hawl i fod yn rhan o’r Eglwys.

    Mae Luc yn herio hyn, fodd bynnag, trwy ysgrifennu storïau am Iesu sy’n dangos Iesu’n agor ei galon i’r Cenhedloedd ac yn eu cynnwys yn ei weinidogaeth. Yr enghraifft enwocaf o hyn yw dameg y Samariad trugarog, sy’n amlygu’r cariad a ddangoswyd gan y Samariad, ac yn dangos y dylai Iddewon a Samariaid fyw’n gytûn â’i gilydd fel cymdogion.

    Eto nid dim ond ynghylch cynnwys y Cenhedloedd mae Luc yn sôn - mae hefyd yn rhoi sylw arbennig i’r tlodion, i ferched ac i bechaduriaid. Dim ond yn Efengyl Luc y cawn ni’r ddameg enwog am y mab afradlon, neu’r mab a gollwyd ond a gafwyd wedyn. Mae’r stori honno’n dangos sut mae Duw’n ymateb i bechod dynol gyda chariad a maddeuant, yn hytrach na barn a digofaint, os yw’r pechadur yn edifarhau.

  5. Mae Efengyl Luc, wedyn, yn dangos i ni fod Duw’n caru pob un yr un fath ac yn croesawu pawb.  Mewn cymdeithas sy’n aml yn eithrio ac yn cau allan rai pobl am amryw o wahanol resymau - hil, rhyw’r person, rhywioldeb, dosbarth ac ati - mae’n wers y dylem ei chymryd o ddifrif wrth i ni ddathlu dydd gwyl Sant Luc ar 18 Hydref. 

  6. Yn ein hysgol, ac yn ein cymuned, gadewch i ni ymrwymo ein hunain i fod yn gynhwysol, ac yn groesawgar â phawb. Yn hytrach na chanolbwyntio ar y gwahaniaethau sy’n ein gwahanu, gadewch i ni geisio dathlu’r ddynoliaeth gyffredin sy’n ein huno gyda’n gilydd.

Amser i feddwl

Yr oedd y Phariseaid a’u hysgrifenyddion yn grwgnach wrth ei ddisgyblion gan ddweud, ‘Pam yr ydych yn bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?’ Atebodd Iesu hwy, ‘Nid ar rai iach, ond ar y cleifion y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.’
(Luc 5.30–32)

Gweddi
Annwyl Arglwydd,
Does neb yn cael ei eithrio oddi wrth dy gariad di.
Helpa ni i fod yn groesawgar ac yn faddeugar tuag at bawb rydyn ni’n cwrdd â nhw.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon