Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ofn

Ystyried agweddau cadarnhaol a negyddol yr emosiwn ofn.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Ystyried agweddau cadarnhaol a negyddol yr emosiwn ofn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau o flaen llaw.

Gwasanaeth

  1. Beth sy’n codi ofn gwirioneddol arnoch chi? Efallai eich bod yn ofni pry copyn, neu fod arnoch chi ofn y tywyllwch. Efallai eich bod ofn methu, neu ofn siomi rhywun. Beth bynnag sy’n codi ofn arnoch chi, mae'r ofn yn gallu ein parlysu a’n rhwystro rhag gwneud hyd yn oed y pethau lleiaf ambell dro.

  2. Emosiwn yw ofn, yn ei hanfod. Caiff yr emosiwn hwn ei danio pan fyddwn ni’n canfod bod rhywbeth yn fygythiad i ni. Mae’n un o’r emosiynau sylfaenol, ac yn rhan o’r mecanwaith sy’n ein helpu i oroesi. Fyddai dynoliaeth ddim wedi mynd ymhell iawn hebddo. Trwy fod ag ofn, fe ddysgodd ein cyndeidiau redeg i ffwrdd oddi wrth anifeiliaid gwyllt a oedd yn beryglus iddyn nhw, ac mae ofn mewn unrhyw sefyllfa yn peri i unigolion amddiffyn eu hunain.

    O hyn rydyn ni’n datblygu ein gallu i adnabod beth fyddai’n gallu ein niweidio, ai peidio. Dyma beth sydd y tu ôl i’r hyn rydyn ni’n ei alw yn Saesneg yn fecanwaith ‘fight or flight’, sef ein hymateb cynhenid, greddfol i naill ai frwydro yn erbyn yr hyn sydd o’n blaen ac yn codi ofn arnom ni, neu redeg i ffwrdd oddi wrtho. Mae’n sbarduno rhyddhau adrenalin a hormonau eraill yn ein corff sy’n ein galluogi i amddiffyn ein hunain ym mha ffordd bynnag fyddwn ni’n teimlo sydd orau i ni yn y sefyllfa y byddwn ynddi. Fe ddaw’r reddf sylfaenol hon o adeg pan oedd bodau dynol yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth deigrod ysgithrog (sabre-tooth tigers) yn y gwyllt. Eto, er nad oes teigrod ysgithrog mwyach, rydyn ni hyd heddiw yn dal i ymateb yn y ffordd hon mewn sefyllfaoedd wrth i ni ofni rhywbeth neu rywun, a’r ofn hwnnw’n rhyddhau’r hormonau yn ein corff.

  3. Felly, beth mewn gwirionedd sydd gennym i’w ofni? Mae rhai pobl yn wynebu ofn yn ddyddiol. Efallai eu bod yn dod o gefndir lle maen nhw’n cael eu cam-drin, lle maen nhw’n gorfod amddiffyn eu hunain, a’u brodyr neu chwiorydd, neu eu plant. Efallai eu bod mewn sefyllfaoedd lle mae gwrthdaro, mewn llefydd fel Afghanistan. Mae’r ofnau a’r bygythiadau hyn yn enghreifftiau real iawn. Ond yn aml mae’r pethau rydyn ni’n eu hofni yn y gymdeithas heddiw yn fygythiadau rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw mewn ffordd negyddol, ac yn dychmygu beth petai’r peth ar peth yn digwydd - ‘What if ...’.

  4. Mae dihareb o’r Almaen yn dweud, ‘Mae’r ofn yn gwneud y blaidd yn fwy nag ydyw.’ Trwy fod ofn rhywbeth neu rywun, rydyn ni ar unwaith yn gwneud y peth hwnnw’n llawer mwy ac yn llawer mwy brawychus yn ein meddwl nag ydyw mewn gwirionedd. 

    Ydych chi wedi bod yn y ty ar ben eich hun ryw dro ac wedi clywed synau dydych chi ddim yn arfer eu clywed. Mae’n debyg mai swn crecian deunyddiau’r adeilad ydych chi’n ei glywed wrth iddyn nhw ymestyn neu fyrhau y mymryn lleiaf, wrth gynhesu neu oeri, fel mae’r tymheredd yn newid. Ond rydych chi’n dychmygu fod rhywun yn y ty na ddylai fod yno, sydd a’i fryd ar ymosod arnoch chi neu ar unrhyw un arall a fyddai yn y ty. 

    Yn y rhan fwyaf o achosion does dim byd drwg yno - efallai mai’r bochdew sydd wedi penderfynu mynd am dro ar ei olwyn - ond yn eich dychymyg chi mae’r swn bach wedi troi’n fygythiad ac fe fyddwch chi wedi cysylltu hynny ag ofn. Fe all yr un peth ddigwydd gyda phryf copyn hefyd. Mae’n debyg fod ar y pry copyn fwy o’ch ofn chi nag oes gennych chi o ofn y pry copyn, ond rydych chi’n rhedeg i ffwrdd gan sgrechian!

  5. Ambell dro, pethau fydd yn digwydd yn y dyfodol y byddwch chi’n eu hofni, pethau sydd i ddod, sy’n cysylltu â llawer o bethau yn ein byd modern heddiw. Fe fyddwn ni ofn y dyfodol, ofni beth fydd mewn stôr ar ein cyfer. Fe fydd arnom ni ofn arholiadau, ofn y canlyniadau, ac wedyn fe fyddwn ni’n dechrau ofni beth fydd y cam nesaf, pa un ai ynghylch lefel A neu Brifysgol y bydd hynny. 

    Yn y pen draw, fe aiff y pethau hyn heibio, a chithau’n gweld wedyn nad oedd y cyfan hanner mor ddrwg a dychrynllyd ag yr oeddech chi wedi dychmygu y bydden nhw.

  6. Mae’n bwysig felly, fel gyda phob emosiwn, eich bod yn cydnabod sut rydych chi’n teimlo, a’ch bod yn mynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol. Yn syml felly, emosiwn arall yw ofn, sydd angen ei gydnabod a’i ddeall. Wrth gwrs, os ydych chi mewn sefyllfa lle rydych chi mewn perygl corfforol, yna mae’n gwneud synnwyr i fod ag ofn, a gwneud rhywbeth ar unwaith am y peth. Ar adegau eraill, fodd bynnag, fe all ofn barlysu rhywun ac achosi iddyn nhw rewi, ond bod rhywbeth y tu mewn iddyn nhw yn y pen draw yn gwneud iddyn nhw symud a dal ati.

    Felly, mae ofn yn rhywbeth y mae’n bosib ei goncro. Mae’n bwysig teimlo’r ofn ond mynd ymlaen wedyn er gwaethaf hynny. ‘Feel the fear and do it anyway’, dyna deitl llyfr ‘self-help’ enwog Susan Jeffers, sy’n ymdrin â’r syniad bod ofn yn rhywbeth sy’n dal pobl yn ôl rhag cyflawni llawer o’r hyn y gallen nhw’i gyflawni, a’r hyn y dylen nhw ei gyflawni mewn bywyd, a hynny dim ond am eu bod ofn y canlyniadau ac ofn yr hyn a ‘allai’ ddigwydd.

    Bob tro y byddwch chi’n cymryd cam i’r anwybod, rydych chi’n profi ofn, felly does dim pwrpas dweud, ‘Pan fydda i heb ofn, dyna pryd y gwnaf i’r peth a’r peth’. Os gwnewch chi hynny fe fyddwch chi’n disgwyl am amser hir iawn. Mae ofn yn rhan o’r pecyn.

  7. Mae’n bwysig eich bod yn cydnabod eich bod ofn ac yn dod i ddeall yr ofn hwnnw. Fe fydd bodau dynol bob amser ag ofn rhywbeth, ond fe all yr ofn hwnnw o’r anwybod ein gyrru ymlaen hefyd ambell dro yn hytrach na’n dal ni’n ôl. Dychmygwch fyd lle byddai neb byth yn mentro, a phawb yn atal eu hunain rhag gwneud unrhyw beth yr oedden nhw’n ei ofni. Mae’n debyg na fyddai neb byth wedi mynd mewn cwch, nac wedi darganfod America, nac wedi mynd i’r lleuad ychwaith. 

    Mae’n helpu hefyd, bod yn gwybod nad dim ond chi sy’n ofni wynebu sefyllfaoedd anghyfarwydd. Mae pawb yr un fath! Ydyn, mae’r holl bobl sydd wedi llwyddo yn yr hyn roedden nhw eisiau ei wneud yn eu bywyd wedi teimlo ofn - ac wedi mynd ymlaen a’i wneud beth bynnag. Ac fe allwch chithau!

  8. Mae wynebu eich ofnau a delio â nhw, mewn gwirionedd yn llai brawychus na byw gyda’r ofnau gwaelodol sy’n dod o deimlo’n ddiymadferth. Mae’r teimlad eich bod yn methu gwneud unrhyw beth i naill ai newid y sefyllfa, neu wneud rhywbeth am y sefyllfa honno, yn syml yn rhywbeth sydd ddim yn seiliedig ar ffaith. Mae’r grym i newid pethau, a pheidio â theimlo’n ddiymadferth yn aml yn ein dwylo ni ein hunain. Mae sefyll yn sgrechian wrth weld pry copyn yn waeth os ydych chi yn y ty ar ben eich hun. Ydych chi’n mynd i sefyll yn eich unfan trwy’r dydd yn gobeithio y byddai’r pry copyn yn mynd i ffwrdd? Ydych chi byth yn mynd i sefyll arholiad eto am eich bod ormod o ofn?

  9. Unwaith y byddwch chi wedi wynebu eich ofnau, yna mae’n debyg y byddwch chi’n gweld fod teimlo’n ddiymadferth yn fwy peryglus efallai nag wynebu’r ofn. Ac i fynd yn ôl at y reddf ddynol sylfaenol o ‘fight or flight’, mae’r naill a’r llall yn dda oherwydd o leiaf mae’r ddau beth yn ryw fath o adwaith. Ynglyn ag ofni methu, sut byddwch chi’n gwybod a fyddwch chi’n methu ai peidio, oni bai eich bod yn mentro ac yn rhoi cynnig arni? 

    Yn achos rhai ohonoch chi, fe allai eich ofn fod mor syml ag ofni codi eich llaw i gynnig ateb yn ystod gwers. Neu yn achos rhai eraill, efallai eich bod ofn siarad yn gyhoeddus. Ond i Andy Murray, ei ofn ef oedd y byddai’n rhaid iddo sefyll yn Wimbledon yn 2012, yn ail i Roger Federer, a chymryd y risg y gallai’r un peth ddigwydd eto ac eto, ond fe chwaraeodd ei orau beth bynnag. Fe wyddoch chi beth ddigwyddodd wedyn!

Amser i feddwl

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am yr hyn y bydd yn rhaid i chi ei wneud heddiw sy’n codi ofn arnoch chi, neu’n sy’n gwneud i chi deimlo’n nerfus.

Meddyliwch am y pethau sy’n codi ofn arnoch chi’n gyson.

Ceisiwch roi o’r neilltu yr ofnau di-sail, a cheisiwch ystyried y pethau a ddylai godi ofn arnoch chi. Penderfynwch gadw’r cyfan mewn persbectif.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon