Byw'n Ddiolchgar
Annog y myfyrwyr i werthfawrogi’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw.
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i werthfawrogi’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.
Gwasanaeth
- ArweinyddYn draddodiadol, dyma’r adeg o’r flwyddyn i ni ddathlu’r cynhaeaf.
Darllenydd 1 Ym Mhrydain, am ganrifoedd, mae wedi bod yn arferiad addurno’r eglwysi ar yr adeg hon o’r flwyddyn, yn draddodiadol, gyda rhywfaint o’r cynnyrch sydd wedi tyfu a’i gynaeafu’n lleol. Roedd yno ysgubau o wenith a barlys, basgedi o afalau, gellyg, moron a ffa, sawl tusw o flodau lliwgar a sachau o gnau efallai. Ac yn dilyn y gwasanaeth diolchgarwch fe fyddai’n arferiad cynnal swper cynhaeaf gyda phasteiod a chawsiau a chig rhost a llysiau ffres.
Darllenydd 2 Yn debyg hefyd, yn yr ardaloedd yn Ffrainc lle tyfid grawnwin i wneud gwin, fe fyddai miloedd o bobl leol a gweithwyr teithiol yn casglu’r grawnwin ac wedi i’r ffrwythau gael eu gwasgu byddai’r sudd yn cael ei storio mewn cerwyni enfawr ym mhob pentref a thref. Fe fyddai’r aer yn llawn o aroglau trwm a melys y grawnwin a’r sudd. Ar ôl diwrnod o waith caled yn casglu’r grawnwin - vendangeyn Ffrangeg – fe fyddai’r casglwyr yn mwynhau pryd bwyd traddodiadol i ddathlu, pryd bwyd y bydden nhw’n ei alw’nvendange. Fe fyddai’r pryd wedi ei baratoi gan berchnogion y gwinllannoedd grawnwin i ddiolch i’r bobl am eu gwaith caled. Fe fydden nhw’n cael pâté, cawl, salad, pysgod, cigoedd, cawsiau, teisennau a phwdin ffrwythau, a’r cyfan yn cael ei olchi i lawr â sudd grawnwin newydd ei wasgu, yn gynnes oddi ar y winwydden y diwrnod hwnnw yn ogystal â diod o win oedd wedi ei gynhyrchu y flwyddyn flaenorol. - Arweinydd Wel, rwy’n blysio gwledd o’r fath yn barod! Ond mae’n debyg fy mod yn disgrifio rhywbeth sydd heb fod yn rhan o brofiad y rhan fwyaf ohonoch chi. Mae pobl yn dal i ddathlu’r cynhaeaf yma yn y wlad hon ac yn Ffrainc, ond roedd yn arfer bod yn rhywbeth pwysicach ers talwm nag ydyw erbyn hyn. Roedd y bwydydd y byddai’r bobl yn eu bwyta bryd hynny bob amser yn dymhorol a llawer mwy ohono wedi ei dyfu’n lleol, ar gyfer y gymuned leol. Roedd yn bwysig iawn casglu’r cnydau’n brydlon a gallu eu storio’n ofalus fel y byddai’r bwyd yn para iddyn nhw dros y gaeaf, oherwydd doedd dim rhewgelloedd yn yr hen oes, na bwydydd wedi eu prosesu.
Y dyddiau hyn, fe allwn ni fwyta beth bynnag rydyn ni ei eisiau pryd bynnag y byddwn ni eisiau, cyn belled â’n bod yn barod i dalu’r pris yn nhermau milltiroedd bwyd - sef y gost o gludo’r mefus o Israel, yr orennau o Dde Affrica, neu ffrwyth ciwi o Seland Newydd, neu ble bynnag. Yma ym Mhrydain, mae tymor y cynhaeaf yn dal i fod yr un adeg o’r flwyddyn yn achos ydau a rhai cnydau eraill, ond fe allwn ni redeg i’r archfarchnad unrhyw ddiwrnod o’r wythnos, unrhyw adeg o’r flwyddyn am unrhyw beth yr hoffen ni ei gael i’w fwyta, bron.
Rwy’n credu bod rhywbeth wedi mynd ar goll o ganlyniad i’r newid hwn. Pan fyddai’r cynaeafu’n digwydd yn ystod y cyfnod byr hwn ar ddiwedd yr haf neu ddechrau’r hydref, roedd pawb wrthi â’u holl egni, ac wedyn fe allen nhw ollwng ochenaid o ryddhad unwaith yr oedd y gwaith wedi ei gwblhau. Roedd yn waith caled, ond yn llwyddiannus, ac felly roedd galw am barti ar y diwedd. Dathliadau oedd y swper cynhaeaf a’r pryd bwyd vendange, dathliad o gyflawniad arbennig. Roedd y dathliadau’n llawn diolchgarwch - am help yr holl weithwyr, am ansawdd y cnwd, ac am waith wedi ei wneud yn dda.
Yn achos llawer o bobl, roedd dimensiwn ychwanegol hefyd. Roedden nhw’n mynegi diolch i Dduw am beri i’r tymhorau fod yn ffrwythlon unwaith eto. Fe fyddai’r glaw wedi dyfrio’r planhigion, yr haul wedi aeddfedu’r ffrwythau a’r grawn, ac fe fyddai’r bobl yn gwerthfawrogi mai rhodd Duw i’r ddynoliaeth oedd y cynhaeaf.
Amser i feddwl
Arweinydd Pan fydd popeth ar gael ei ni ar unrhyw adeg, mae tueddiad ynom ni i gymryd yr hyn sydd gennym yn ganiataol. Pan fydd hi’n bosib i ni fwyta mefus ym mis Chwefror, yna rydyn ni’n llai tebygol o werthfawrogi, neu hyd yn oed sylwi ar y mefus cyntaf fydd wedi tyfu yn ein tymor tyfu mefus ni ein hunain ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf. Pan fydd hi’n bosib i ni bilio satsuma ym mis Awst, rydyn ni’n colli’r wefr y byddai ein teidiau a’n neiniau yn ei chael wrth ddod o hyd i’r trysor bach melys hwn yn eu hosan Nadolig. Rydyn ni wedi tyfu i arfer cael, os nad mynnu cael, y pethau hyn ar unrhyw adeg. Rydyn ni wedi colli ein syniad o werthfawrogiad am y pethau hyn, ac yn syml yn eu cymryd yn ganiataol.
Mae colli’r synnwyr hwn o werthfawrogiad i’w weld mewn agweddau eraill ar ein bywyd hefyd. Fyddwn ni ddim yn aml yn dangos ein gwerthfawrogiad am yr amrediad eang o ddewisiadau cyfryngol sydd gennym ni, yr holl ddilladau sydd gennym i ddewis ohonyn nhw, yr holl gyfleusterau hamdden a chwaraeon sydd ar gael i ni. Beth am ddangos eich gwerthfawrogiad am ffrindiau a theulu, neu bobl arbennig eraill? Pa mor aml rydyn ni’n aros i feddwl am yr holl bethau sydd gennym? Efallai y dylem gael cyfres o wahanol ddathliadau diolchgarwch, a nifer o achlysuron pryd y byddwn ni’n mynegi ein gwerthfawrogiad.
Mae hefyd fater o ymestyn ein gwerthfawrogiad ymhellach na hynny hyd yn oed. Os oes gennym ni bopeth y mae arnom ei angen, yna mae gennym gyfle i rannu’r hyn sydd gennym â phobl eraill. Roedd y cynnyrch a ddefnyddiai’r bobl i addurno’r eglwysi mewn gwyl ddiolchgarwch draddodiadol am y cynhaeaf yn cael, naill ai ei rannu rhwng y bobl fyddai mewn angen, neu ei werthu, a’r arian yn cael ei anfon at elusen leol neu dramor. Efallai y gallai gwerthfawrogiad am y cynhaeaf heddiw, yn ei holl agweddau, barhau i fod yn gyfrwng i ddangos haelioni’r cynhaeaf.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am bawb a phopeth sy’n dda yn fy mywyd.
Gad i mi beidio â’u cymryd yn ganiataol, byth.
Wrth i mi eu gwerthfawrogi, gad i mi hefyd fod yn barod i rannu’n hael gyda phobl eraill.
Amen.
Cerddoriaeth
‘What a wonderful world’ gan Eva Cassidy a Katie Melua (ymysg eraill)