Yr Hajj
Myfyrio ar arwyddocâd y bererindod flynyddol hon i Fwslimiaid.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Myfyrio ar arwyddocâd y bererindod flynyddol hon i Fwslimiaid.
Paratoad a Deunyddiau
- Gwnewch ymchwil byr ar yr Hajj. Cewch wybodaeth ddefnyddiol ar-lein ar y wefan:
www.bbc.co.uk/religion/galleries/hajjac ar www.bbc.co.uk/learningzone/clips/introduction-to-hajj/3581.html
- Chwiliwch am enghraifft o gerddoriaeth o’r Dwyrain Canol i’w chwarae ar y diwedd wrth i’r gynulleidfa ymadael â’r gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Bob blwyddyn, mae cannoedd o filoedd o bobl yn mynd ynghyd i Mecca yn Saudi Arabia ar gyfer y ddefod Fwslimaidd, yr Hajj. Mae’n rhaid i bob Mwslim, os yw’n abl i wneud hynny - yn gorfforol ac yn ariannol - wneud y bererindod hon i’r ddinas sanctaidd o leiaf un waith yn ystod ei fywyd, neu ei bywyd.
- Mae’r Hajj yn digwydd bob blwyddyn ar adeg arbennig, yn benodol yn ystod deuddegfed mis y calendr lleuad Islamaidd. Oherwydd bod y calendr hwnnw’n wahanol i’r calendr Gregoraidd a ddefnyddir yn y Gorllewin, mae dyddiadau’r Hajj yn newid bob blwyddyn. Eleni, fe fydd y bererindod yn digwydd o 13 i 18 o fis Hydref.
- Mae’r bererindod yn dechrau yn Ka’aba Mecca, y man lle creda Mwslimiaid yr oedd y deml gyntaf i Dduw, a adeiladwyd gan Ibrahim (sy’n adnabyddus i Gristnogion fel Abraham) a’i fab Ishmael, ac a adferwyd ar ôl hynny gan y proffwyd Muhammed. Mae’r pererinion yn cerdded o gwmpas yr adeilad saith gwaith, yn yfed diod o ddwr o’r ffynnon ac yn ceisio cusanu’r Garreg Ddu - rhan hynafol o furiau’r Ka’aba. Mae rhannau eraill o bererindod yr Hajj yn cynnwys treulio diwrnod yn gweddïo ar wastadeddau Arafat, treulio noson allan yn yr awyr agored rhwng Arafat a Mina, a thaflu cerrig at gyfres i bileri sy’n cynrychioli temtasiynau’r diafol, fel symbol o wrthod y diafol a sefyll yn gadarn yn eu ffydd.
- Bwriad y defodau hyn yw puro pob pererin a rhoi cyfle i Fwslimiaid fynegi eu hymostyngiad i Dduw a’u hundod â Mwslimiaid eraill o bob cwr o’r byd. Mae’n dod â phobl o wahanol hil a dosbarthiadau cymdeithasol ynghyd mewn ysbryd o gymdeithas. Dangosodd canlyniadau astudiaeth gan brifysgol Harvard bod rhai sy’n cymryd rhan yn yr Hajj yn dod yn ôl gyda mwy o deimlad o heddwch, a chydraddoldeb a chytgord ymysg ymlynwyr o wahanol grefyddau - ‘an increased belief in peace, and in equality and harmony among adherents of different religions’.
- Gall profiadau wedi eu rhannu ddod â phobl ynghyd a chreu cwlwm agosrwydd sy’n parhau. Trwy ddod â Mwslimiaid o bob rhan o’r byd at ei gilydd, mae’r Hajj yn eu hatgoffa o’r hyn y maen nhw’n ei rannu ac am eu hymrwymiadau, ac yn eu cryfhau yn eu ffydd. Yn y ffordd hon, mae’n helpu pobl i weld gwahaniaethau, nid fel problem ond fel rhywbeth gwerthfawr. Yn wir, mae’n bosib i’r Hajj newid y pererinion yn hollol, ond fe fyddan nhw bob amser yn nodi eu bod wedi cael eu newid er gwell.
Amser i feddwl
Ydych chi wedi bod ar bererindod erioed – taith at bwrpas penodol, crefyddol, fel arfer, i fan arwyddocaol? Gall cymryd amser wrth i chi deithio er mwyn myfyrio, meddwl a gweddïo, newid eich safbwyntiau ar fywyd, ac o bosib eich helpu i ddod yn well person o ganlyniad.
I ble byddai eich pererindod chi – crefyddol neu fel arall – yn mynd â chi?
Cerddoriaeth
Chwaraewch y gerddoriaeth o’r Dwyrain Canol rydych chi wedi ei dewis wrth i’r gynulleidfa ymadael â’r gwasanaeth.
Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.