Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Heno Rydyn Ni'n Ifanc

Atgoffa’r myfyrwyr, er eu bod nhw’n ifanc, dydyn nhw ddim yn anorchfygol.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r myfyrwyr, er eu bod nhw’n ifanc, dydyn nhw ddim yn anorchfygol.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y gerddoriaeth ‘We are young’ gan Fun.

    Arweinydd  Rydyn ni wedi bod yn gwrando ar y gân ‘We are young’ gan Fun wrth ddod i mewn i’r gwasanaeth heddiw. Rydyn ni’n ifanc. Wel, rydych chi’n ifanc, beth bynnag! Meddyliwch yn ôl at y penwythnos diwethaf, rwy’n siwr bod sawl un ohonoch chi wedi mwynhau bod yn ifanc ac yn teimlo’n rhydd, yn sengl ac yn anorchfygol, fel y ddau berson ifanc sydd gennym yma gyda ni heddiw.

    Darllenydd 1  Waw! Dyna i ti beth oedd parti, nos Sadwrn, ynte? Wnes i ddim dy weld ti’n mynd oddi yno. Pa amser est ti?

    Darllenydd 2  Tua hanner nos, dwi’n meddwl. Oedd, roedd yno hwyl dda, ’doedd. Roedd gen i gêm bêl-droed /pêl rwyd y diwrnod wedyn felly doeddwn i ddim yn gallu aros yn hwyr iawn. Beth ddigwyddodd wedyn ar ôl i mi fynd?

    Darllenydd 1  Dw i ddim yn cofio’n iawn. Dyna i ti pa mor dda oedd hi yno! Roedd pawb ar ei uchelfannau, yn uwch na’r Empire State. Roedd o’n deimlad rhyfeddol. Fe wnaethon ni roi’r byd ar dân. Roedden ni’n tywynnu’n disgleiriach na’r haul. 

    Swnio fel geiriau’r gân ‘We are young’.

    Darllenydd 2
      Do dwi’n siwr eich bod chi wedi gwneud hynny. Sut est ti adre wedyn?

    Darllenydd 1  Dim syniad! Siwr bod rhywun wedi fy nghario i adre - Someone carried me home, I guess(geiriau eto o’r gân ‘We are young’.) Wnes i ddeffro ac roedd Jac a Sam/Anest a Jen yn gorwedd ar y llawr. Roedd rhywun wedi taflu i fyny ar y llawr, a doedden ni ddim yn gwybod pwy oedd wedi bod yn sâl. Ofnadwy ynte! Doedd mam ddim yn hapus, wrth gwrs, fe alli di fentro! Roedd hi’n hollol wallgo pan welodd hi’r fath stad oedd arnon ni. 

    Darllenydd 2  Wyt ti’n synnu? Fe fyddai fy mam i’n wallgo hefyd efo golygfa felly. Wnest ti ddod i weld y gêm?

    Darllenydd 1  Na, roeddwn i’n teimlo’n rhy sâl. Fedrwn i wneud dim byd ond aros yn fy ngwely drwy’r dydd. Ac roeddwn i wedi edrych ymlaen ers talwm i fynd i weld y gêm hefyd, wedi arbed arian am hir i gael prynu tocyn, ond, dyna fo, roedd y parti’n grêt, felly mae’n debyg bod y cyfan wedi bod yn werth hynny.

    Darllenydd 2  Os wyt ti’n dweud! ‘You only live once’ mae’n debyg, fel maen nhw’n dweud. Felly, pryd mae’r parti nesa?

  2. Arweinydd Tybed pa mor gyfarwydd oedd y math yna o sgwrs i chi? Efallai eich bod wedi cael profiad tebyg, neu wedi bod mewn parti o’r fath, neu wedi clywed pobl eraill yn sôn am bartïon felly. Mae’n hawdd cael eich denu i gredu eich bod yn ifanc, dydych chi ddim ond yn byw un waith, a’ch bod yn anorchfygol -  you are young, you only live once, you are invincible. Gadewch i ni wylio’r animeiddiad hwn o’r enw ‘Young and Invincible’ sy’n ymwneud â’r ochr wael o  gamddefnyddio cyffuriau.

    Dangoswch y clip fideo ‘Young and Invincible’ (mae’n para 2.06 munud).

    Mae’r animeiddiad hwn yn dangos yn glir ac mewn ffordd glyfar yr uchel fannau a’r isel fannau, a’r rhesymau dros ac yn erbyn defnyddio cyffuriau.

    Ond yn achos sawl person ifanc fe fydd y geiriau ‘We are young. We only live once. We are invincible’ yn dal i ganu yn eu meddyliau, er hynny.

  3. Arweinydd Yn anffodus, does neb yn anorchfygol. Cymrwch, er enghraifft Cory Monteith.

    Dangoswch y llun o Cory Monteith.

    Mae’n debyg eich bod yn adnabod y person hwn fel Finn Hudson o’r gyfres deledu Americanaidd boblogaidd Glee. Roedd Cory wedi cael magwraeth anodd a, phan oedd yn 13 oed, roedd wedi dechrau cymryd y cyffur marijuana ac alcohol er mwyn dianc rhag ei broblemau. Fe aeth i 16 o wahanol ysgolion ac, ar ôl cyrraedd 16 oed, fe ddechreuodd gyflawni mân droseddau i ariannu ei ddibyniaeth ar y pethau hyn. Fe aeth i gael adferiad yn 19 oed ac, ar ôl hynny, fe fu’n gweithio i gwmni Walmart fel croesawydd, bu’n gyrru tacsi a bysiau ysgol, a bu’n gwneud gwaith atgyweirio toeau.

    Bu’n gweithio fel actor yn Vancouver, British Colombia, cyn glanio yn ei ran bwysicaf fel Finn yn y gyfres Gleeyn 2010. O’r pwynt hwnnw ymlaen roedd yn llwyddo. Roedd ganddo’r swydd ddelfrydol, roedd yn enwog, roedd ganddo ddigon o arian, a merch hyfryd yn gariad iddo . . . fe enillodd wobrau, fe deithiodd y byd . . .roedd yn byw breuddwyd pob person ifanc.

    Ond roedd y ddelwedd yr oedd yn ei phortreadu yn y cymeriad, Finn, cymeriad y chwarterwr Americanaidd moesol quarterback, ymhell o fod yn debyg i fywyd gwirioneddol Cory ei hun. Roedd yn gobeithio y byddai siarad yn gyhoeddus am ei ymdrechion ei hun yn y gorffennol yn helpu pobl eraill i drechu eu llwyrddibyniaeth eu hunain.

    Ond ym mis Ebrill 2013, cyhoeddwyd bod Cory wedi mynd yn ei ôl eilwaith i geisio adferiad. Fe fethodd ffilmio penodau olaf y bedwaredd gyfreso Gleewrth iddo frwydro yn erbyn ei ddibyniaeth. Yna, ar 17 Gorffennaf, 2013, cyhoeddwyd bod Cory Monteith wedi marw’n o ganlyniad i orddos o heroin ac alcohol, ar ben ei hun mewn ystafell gwesty yn Vancouver.

    Dyna drasiedi. Dyna wastraff. Dyna golled ofnadwy. Ond yr hyn sy’n drist hefyd, yw nad Cory Monteith yw’r unig un.

    Mae bron 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r actor ifanc addawol River Phoenix farw yn 23 oed. Fe wnaeth Kurt Cobain, prif leisydd Nirvana, gyflawni hunanladdiad yn 1994, wedi brwydro yn ei flynyddoedd olaf gyda salwch, iselder ysbryd, a dibyniaeth ar heroin. A dyna Heath Ledger yn Ionawr 2008, Brittany Murphy yn Rhagfyr 2009 ac Amy Winehouse ym mis Gorffennaf 2011. Roedd pob un o’r rhain yn eiconau yn eu cenhedlaeth. Bu pob un farw’n ifanc a chynamserol. Roedd pob un yn ifanc, pob un yn enwog, a phob un yn dalentog iawn, ond eto’n bendant ddim yn anorchfygol – ddim yninvincible’.

Amser i feddwl

Pan fydd bywyd eicon ifanc yn cael ei gymryd ac yntau ar binacl ei yrfa neu ei gyrfa, mae cenhedlaeth gyfan mewn sioc. Mae cenhedlaeth yn galaru.

Dyna drasiedi. Dyna wastraff. Dyna golled ofnadwy.

Does neb yn anorchfygol.

Pan fydd bywyd unrhyw berson ifanc yn cael ei gymryd yn gynamserol, mae ei deulu ef, neu ei theulu hi, a’i ffrindiau mewn sioc Mae teulu a ffrindiau’n galaru.

Dyna drasiedi. Dyna wastraff. Dyna golled ofnadwy.

Does neb yn anorchfygol.

Gadewch i ni dreulio moment mewn distawrwydd yn meddwl am Cory Monteith a’r holl rai eraill rydyn ni’n gwybod amdanyn nhw sydd wedi marw’n gynamserol oherwydd dibyniaeth ar rywbeth. 

Gadewch i ni gofio am eu teuluoedd a’u ffrindiau wrth iddyn nhw frwydro i ddygymod â’u galar.

Gadewch i ni weddïo am heddwch, am gysur ac am iachâd.

Treuliwch foment mewn tawelwch.

Pawb ohonoch chi sy’n ifanc, efallai mai’r neges y gallwch chi fynd â hi gyda chi o’r gwasanaeth hwn heddiw yw: Peidiwch â rhoi’r gorau i gredu - ‘Don’t stop believing’.

Dyma’r neges o foment gerddorol ddiffiniol Glee. Mae’r gân hon, o ddiwedd y bennod beilot, yn ymddangos bod iddi neges mor optimistaidd, ond mewn gwirionedd mae’n stori am bobl unig sy’n chwilio’n daer am lwyddiant yn y gobaith y bydd hwnnw’n eu hachub ac yn eu gwneud yn hapus a chyfan. Dyna stori Cory Monteith. Dyna stori llawer o bobl ifanc ledled y byd. Fel mae’r gân yn dweud, ‘Some will win, some will lose.’ Gwaetha'r modd, realaeth bywyd yw y bydd rhai yn ennill ac fe fyddrhai yn colli Does neb yn anorchfygol. Mae’r neges gadarnhaol yn parhau er hynny - Peidiwch â rhoi’r gorau i gredu  - ‘Don’t stop believing’.

Wrth i ni wrando ar y gân honno pan fyddwn ni’n mynd o’r gwasanaeth hwn heddiw, meddyliwch am y geiriau hyn.

Don’t stop believing in happiness.
Don’t stop believing in wholeness.
Don’t stop believing in yourself.
Don’t stop believing in life
.

Chwaraewch y gân ‘Don’t stop believing’ gan Journey wrth i’r myfyrwyr fynd o’r gwasanaeth.

Cerddoriaeth

We are young’ gan Fun

Don’t stop believing’ gan Journey

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon