Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ble mae Narnia ar y Map?

Annog y myfyrwyr i ystyried sut mae’r hyn maen nhw’n ei ddarllen ac yn ei wylio yn effeithio ar eu safbwyntiau ar y byd.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried sut mae’r hyn maen nhw’n ei ddarllen ac yn ei wylio yn effeithio ar eu safbwyntiau ar y byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.

  • Efallai yr hoffech chi ddangos hoff glip o un  addasiadau teledu neu ffilm y Chronicles of Narnia. Os byddwch yn dewis gwneud hynny, trefnwch fodd o ddangos y clip i’ch cynulleidfa yn y gwasanaeth.

  • Llwythwch i lawr ‘Take me away’ gan Globus (defnyddiwch fersiwn Song of Narnia  sydd i’w gael ar YouTube os yw hynny’n bosib) a threfnwch fodd o chwarae’r gerddoriaeth honno ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

1. Arweinydd Hanner can mlynedd yn ôl  i’r mis yma, bu farw Clive Staples Lewis, a oedd yn fwy adnabyddus i’w ffrindiau fel Jack. Bu farw yn ninas Rhydychen. Efallai nad yw enw llawn y dyn neilltuol hwn yn golygu llawer i chi. Mwy na thebyg, fe fyddwch chi’n fwy cyfarwydd ag ef os yw rhywun yn defnyddio llythrennau cyntaf ei enw: C. S. Lewis.

2. Darllenydd  Roedd C. S. Lewis yn ddyn clyfar iawn. Roedd yn fyfyriwr mor ddawnus fel y cafodd ei wahodd i fod yn diwtor - neu’n Gymrawd - yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen. Roedd yn arbenigo mewn llenyddiaeth Saesneg o’r Oesoedd Canol a chyfnod y Dadeni Dysg, ac fe ysgrifennodd un o’r llyfrau pwysicaf ar y cyfnod hwnnw. Roedd hefyd yn ddiwinydd, yn ysgrifennu ac yn dadlau ynghylch ei gred yn Nuw. Roedd yn teimlo ei bod yn bwysig iawn helpu pobl eraill i gredu. Mae’r llyfrau Mere ChristianityThe Four Loves a A Grief Observed yn enghreifftiau o’i lyfrau diwinyddol.

Arweinydd  Arhoswch funud! Rwy’n siwr bod y ffeithiau hyn i gyd yn hollol gywir, ond alla i ddim gweld llawer ohonom ni yma’n rhoi cynnig ar ddarllen llyfrau fel y rhai yna rydych chi wedi eu henwi nawr. Maen nhw’n swnio’n llawer rhy ddyrys i rywun fel fi.

Darllenydd  Efallai eich bod yn iawn, ond roeddwn i’n cadw’r wybodaeth orau tan yn olaf. Mewn gwirionedd, mae C. S. Lewis yn fwy adnabyddus i genedlaethau o oedolion a phlant fel awdur y Chronicles of Narnia: Mae’n debyg mai The Lion, the Witch and the Wardrobe,The Voyage of the Dawntreader a’r Prince Caspian yw’r rhai enwocaf o’r saith nofel yn y gyfres.

Dangoswch y clip o un o’r storïau ar y pwynt hwn, os byddwch yn dymuno’i ddefnyddio.

3. Arweinydd Dyna fo, mae hynny’n llawer mwy o ddiddordeb i mi. Mae ei storïau’n storïau cyffrous ac yn llawn ffantasi. Maen nhw’n darlunio byd sy’n ymddangos yn afreal, eto rywsut maen nhw’n berthnasol i’r byd rydyn ni’n byw ynddo ar hyn o bryd. Mae fel pe bawn i’n meddwl trwy’r cyfleoedd a’r achosion o gyfyng-gyngor rydw i’n eu hwynebu bob dydd, yn y stori, eto bob amser mae arna i eisiau troi’r tudalen er mwyn cael gwybod beth sy’n digwydd nesaf.

Darllenydd Nid dyna’r cyfan. Oeddech chi’n sylweddoli bod yr awdur hefyd wedi ysgrifennu cyfres o nofelau ffuglen wyddonol. Fe alwodd y gyfres yn Space Trilogy. Ac yn olaf, mae un llyfr arall gwirioneddol anarferol ganddo gyda’r teitlThe Screwtape Letters. Dyma lyfr sydd wedi ei ysgrifennu fel cyfres o lythyrau oddi wrth y Diafol at un o’i gynorthwywyr ar y Ddaear. Mae’n llyfr diddorol iawn am ei fod fel petai wedi gallu mynd o dan groen pobl gyffredin fel chi a mi gan ddangos mor rhwydd y gellir ein temtio i wneud pethau y gwyddom ni sydd ddim yn iawn i’w gwneud.

Arweinydd Felly, yr hyn y mae C. S. Lewis yn ei wneud yw cymryd y syniadau sy’n bwysig iddo ef a’u rhoi mewn storïau, yn hytrach na siarad yn uniongyrchol am gysyniadau haniaethol. Rwy’n hoffi’r syniad. Nid yw mor wahanol â hynny i’r adeg y gwnes i ddarllen yn y nofel Lord of the Rings am y frwydr rhwng y da a’r drwg, a’r demtasiwn barhaus i fradychu a bod yn hunanol.

Darllenydd Felly, fyddwch chi ddim wedi eich synnu pe dywedwn i wrthych chi bod C. S. Lewis a J. R. R. Tolkien yn ffrindiau da. Roedden nhw’n aml yn cyfarfod â’i gilydd ac yn cael sgwrs dda dros beint. Roedd C. S. Lewis yn wir yn awdur nodedig.

Amser i feddwl

Arweinydd  Beth ydych chi’n hoffi ei ddarllen neu ei wylio? Ydych chi’n meddwl bod yr hyn y byddwch chi’n ei ddarllen neu yn ei wylio yn eich newid chi mewn unrhyw ffordd? 

Roedd C. S. Lewis yn gobeithio hynny, beth bynnag. Roedd pwrpas neilltuol y tu cefn i’w nofelau yn ogystal â thu cefn i’w waith a oedd ddim yn ffuglen hefyd. Roedd arno eisiau gwneud i chi a mi feddwl am Dduw a Iesu Grist, am eu bod yn bwysig yn ei olwg ef. Doedd Lewis ddim yn defnyddio’u henwau yn ei nofelau, ond mae’r ffydd Gristnogol yno i ni ei gweld, os edrychwn ni’n fanwl. Efallai yr hoffech chi ddarllen rhai o’i lyfrau eto, i geisio gweld hynny. Ond peidiwch â phryderu - rydych chi’n siwr o fwynhau’r stori er ei mwyn ei hun hefyd, beth bynnag!

Gweddi

Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am awduron fel C. S. Lewis, sydd yn fwriadol yn gwneud i ni feddwl am bethau.
Boed i ni fod yn ymwybodol o’r ffordd y mae popeth y byddwn ni’n ei ddarllen yn cael effaith arnom ni.
Boed i ni ddewis ein deunyddiau’n ddoeth.

Cerddoriaeth

Take me away’ gan Globus

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon