Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

JFK - arwr ein hoes?

Myfyrio ar yr hyn a adawodd John F. Kennedy ar ei ôl.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd) - Gwasanaeth Sylwadau

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar yr hyn a adawodd John F. Kennedy ar ei ôl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai yr hoffech chi ddangos clip fideo o’r digwyddiad pan lofruddiwyd John F. Kennedy, os credwch y byddai hynny’n fuddiol.

  • Fe allech chi drefnu i rai o’r myfyrwyr ddarllen y prif rannau yn y gwasanaeth, er mwyn ychwanegu diddordeb, ond nid yw hynny’n hanfodol.

  • Llwythwch i lawr y gân a’r clip fideo ‘Abraham, Martin and John’ gan Marvin Gaye oddi ar y wefan:https://www.youtube.com/watch?v=lgmc5EW6CLQ, sy’n dangos delweddau o’r tri dyn, a threfnwch fodd i’w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae dydd Gwener, 22 Tachwedd 1963 yn parhau i fod yn ddiwrnod trasig ym meddyliau miliynau o bobl ledled y byd. Ar y diwrnod hwnnw, fe saethwyd pymthegfed arlywydd ar hugain Unol Daleithiau America, John F. Kennedy, ac fe’i lladdwyd.

  2. Mae Kennedy’n dal i fod yn arwr i lawer o bobl. Roedd ei ymddangosiad ifanc a’i arddull braf yn ei wneud yn arlywydd delfrydol ar gyfer yr 1960au - adeg o newidiadau mewn agwedd ac adeg rhyddid newydd. 

    Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn gomander ar gwch torpido yn Nhawelfor y De (South Pacific). Ymosododd llong ryfel fechan Japaneaidd ar y cwch, ac fe’i difrodwyd, ond fe lwyddodd Kennedy i gasglu’r dynion ynghyd yn y dwr. Roedd un o’r dynion wedi ei anafu ac fe gadwodd Kennedy ef rhag boddi, a’i dynnu i’r lan ar ynys gerllaw, trwy ddal strap siaced achub y dyn hwnnw rhwng ei ddannedd. Am y weithred arwrol honno fe gyflwynwyd iddo’r Navy and Marine Corps Medal.

  3. Ar ôl treulio’r 1950au yn ymladd am rym gwleidyddol, cafodd ei ethol yn arlywydd Unol Daleithiau America yn 1960. Ef oedd y Pabydd cyntaf i ddal y safle. Fe grynhodd ei weledigaeth yn ei araith agoriadol pan ddywedodd, ‘Ask not what your country can do for you; ask what you can do for your country.’

    Felly, roedd Kennedy’n credu mewn gwasanaeth cyhoeddus ac yn nichonolrwydd  cyfunol yr Unol Daleithiau, eto, doedd arno ddim ofn gwneud penderfyniadau gweithredol. Yn 1962, fe wnaeth criw awyren ysbïo dynnu lluniau o daflegrau niwclear yn cael eu cludo i Ciwba gan wrthwynebydd mawr yr Unol Daleithiau ar y pryd, sef yr Undeb Sofietaidd. Byddai’r ffaith bod arfau niwclear yn Ciwba yn gosod bygythiad uniongyrchol i filiynau o Americaniaid. Er gwaethaf dicter mawr o bob tu, fe lwyddodd Kennedy ac arweinydd yr Undeb Sofietaidd, Nikita Kruschev, i drafod datrysiad heddychol i’r argyfwng, gan atal rhyfel niwclear a allai fod wedi costio biliynau o fywydau.

  4. Mae’n debyg mae’r peth mwyaf nodedig y mae llawer o bobl yn ei gofio am gyfnod Kennedy yw taith Apollo 11 i’r lleuad yn 1969, prosiect a awdurdodwyd ganddo ef. Mae’r roced 100 metr o daldra, Saturn 5, yn parhau i fod yn symbol grymus o’i gred yng ngrym gwasanaeth cyhoeddus a’r diddordeb cenedlaethol. Hefyd, Kennedy oedd yr arlywydd a luniodd y Ddeddf Iawnderau Sifil, fu’n gyfrwng i warchod Americaniaid  Affricanaidd rhag cael eu gwahaniaethu. Er gwaethaf gwrthwynebiad gan rai, fe basiwyd y ddeddf hon yn 1964 ac erbyn heddiw mae cydraddoldeb rhwng rhai o wahanol hil yn cael ei ystyried yn rhywbeth naturiol.

    Mae’n drasiedi na chafodd Kennedy ei hun fyw i weld pasio’r Ddeddf Iawnderau Dynol, na chael gweld y dynion yn glanio ar y lleuad, ond mae Kennedy’n parhau i fod yn un o arlywyddion mwyaf deinamig yr Unol Daleithiau. Doedd ar Kennedy ddim ofn sefyll yn erbyn anghyfiawnder a brwydro dros yr hyn a wyddai a oedd yn iawn. Hyd yn oed 50 mlynedd yn ddiweddarach ar ôl ei lofruddiaeth, mae’n parhau i ysbrydoli miliynau o bobl ledled y byd hyd heddiw.

Amser i feddwl

Roedd Kennedy yn arweinydd cyfareddol a charismataidd. Roedd yn berson cyffredin ac amherffaith, er hynny, fel chi a minnau. Roedd yn cael cyfnodau gwych yn ogystal ag ambell gyfnod isel, ond fe welodd beth roedd yn gallu ei wneud ac fe wnaeth i bethau weithio, a thrwy wneud hyn, fe newidiodd y byd.

Wrth i ni gofio am yr arlywydd hwn, hanner can mlynedd yn ddiweddarach, tybed beth allech chi ei wneud, waeth pa mor fach, i newid y byd – hyd yn oed os mai dim ond y byd bach rydych chi a mi’n byw ynddo yw’r byd hwnnw?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Abraham, Martin and John’ gan Marvin Gaye

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon