Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sefyll dros y gwirionedd

Annog y myfyrwyr i ddilyn esiampl y seintiau a bod yn barod i aberthu er mwyn yr hyn sy’n iawn.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ddilyn esiampl y seintiau a bod yn barod i aberthu er mwyn yr hyn sy’n iawn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen naill ai recordiad o’r gân ‘Redemption song’ gan Bob Marley neu gopi o’r geiriau i’w defnyddio fel dyfyniad. Os byddwch chi’n penderfynu defnyddio’r recordiad, trefnwch fodd o chwarae’r gerddoriaeth yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  • Chwaraewch tua munud o’r gân ‘Redemption song’.

  • Gofynnwch i’r myfyrwyr, ‘Pwy yw eich arwr chi?’

    Soniwch fel mae gan lawer ohonom y dyddiau hyn, arwyr sy’n gerddorion, yn sêr pop, neu’n ddynion a merched enwog ym myd chwaraeon. Ond mae math arall o arwr sydd efallai’n dod yn nes at wir ystyr y gair. Fe gyfeiriodd Bob Marley at arwyr felly yn ei gân enwog, ‘Redemption song’.

    Yn un rhan o’r gân mae’n dweud y geiriau hyn:

    How long shall they kill our prophets,
    While we stand aside and look?

    Yma, mae Bob Marley’n sôn am broffwydi - prophets - ond nid pobl sy’n rhagweld pethau a fydd yn digwydd yn y dyfodol mae’n ei olygu. Yn hytrach mae’n cyfeirio at bobl sy’n siarad y gwir, pobl sy’n gwrthod ufuddhau i reolau sy’n mynd yn groes i’w cydwybod, pobl sy’n sefyll yn erbyn anghyfiawnder ac anghydraddoldeb, hyd yn oed os yw hynny’n  cyffroi’r rhai sydd mewn awdurdod.  

    Mae Bob Marley’n sôn am bobl fel Nelson Mandela, a gollodd ei ryddid wrth frwydro yn erbyn apartheid, a Mahatma Gandhi a Martin Luther King, a gollodd eu bywydau hyd yn oed am feiddio sefyll dros yr  hyn oedd yn iawn pan oedd hi’n beryglus iawn iddyn nhw wneud hynny. Mae’r bobl hyn yn arwyr i lawer un oherwydd eu bod yn barod i aberthu eu hunain yn achos gwirionedd.  

  • Mae gan yr Eglwys grwp o bobl y maen nhw’n eu hystyried yn arwyr – ac mae’n dathlu eu bywyd. Caiff y bobl hyn eu galw’n ‘seintiau’. Maen nhw’n cael eu galw hefyd yn ‘arwyr y ffydd - heroes of the faith’. Weithiau, fe fyddwn ni’n meddwl am seintiau fel pobl berffaith gydag eurgylch o gwmpas eu pen. Ond, mewn gwirionedd, roedd llawer ohonyn nhw’n bobl amherffaith a oedd yn pechu o dro i dro, fel ninnau.

    Felly, nid rhywun perffaith, perffaith, yw sant, ond yn hytrach rhywun sy’n barod i ddilyn Iesu gan geisio dweud a gwneud y pethau iawn hyd yn oed pan fydd hynny’n anodd iawn i’w wneud.

  • Fe gollodd llawer o’r seintiau mawr, a oedd yn dilyn Iesu Grist mewn amgylchiadau anodd iawn, eu bywyd. Rhai o’r rhain oedd Pedr a Paul, ac fe wnaethon nhw, fel sawl un arall golli eu bywyd am eu bod wedi sefyll dros yr hyn roedden nhw’n ei gredu. Ar 1 Tachwedd bob blwyddyn, fe fyddwn ni’n dathlu Gwyl yr Holl Saint, i gofio am y seintiau hynny sydd ddim o angenrheidrwydd yn enwog, neu ddim yn cael eu coffau’n benodol, ond a wnaeth er hynny fyw bywyd arwrol.

  • Efallai na chawn ni ein galw i aberthu ein bywyd, ond rydyn ni i gyd yn cael ei galw i fyw bywyd o arwriaeth dawel. Cawn ein galw i ddilyn esiampl y seintiau.

    Mae hynny’n golygu y dylem fod yn barod i sefyll dros yr hyn sy’n iawn, i siarad pan fyddwn ni’n gwybod bod rhywbeth ddim yn iawn, sefyll yn erbyn y bwli, gwneud pobl yn ymwybodol o anghyfiawnder yn y byd, peidio â thwyllo pan welwn ni gyfle i dwyllo, rhoi ein hamser a rhywfaint o arian er mwyn eraill - dyma rai yn unig o’r ffyrdd y gallen ninnau fod yn seintiau.

Amser i feddwl

Ni does gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.  (Ioan 15:13).

Dros bwy neu beth y byddech chi’n fodlon sefyll? Eich ffrindiau? Eich teulu? Eich ffydd? Eich ffordd o fyw?

Gweddi
Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am yr holl saint trwy’r oesau sydd wedi dilyn ffordd y gwirionedd a chariad, waeth beth oedd y gost.
Rho i ni ddewrder fel y gallwn ni ddilyn yn ôl eu traed.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon