Fel nad anghofiwn: Yfflam dragwyddol
Archwilio ymwybyddiaeth y myfyrwyr o ganlyniadau rhyfel.
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio ymwybyddiaeth y myfyrwyr o ganlyniadau rhyfel.
Paratoad a Deunyddiau
Llwythwch i lawr ‘Remembrance Day’ gan Brian Adams (www.youtube.com/watch?v=qq5hFrb7b_E) a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (dewisol).
Gwasanaeth
- Arweinydd Os byddwch chi’n ymweld â Pharis ryw dro, rwy’n argymell eich bod yn mynd i ben draw’r Champs Elysee ychydig cyn 6.30 yr hwyr. Yno, wrth yr Arc de Triomphe, mae seremoni arbennig yn cael ei chynnal bob dydd. Bydd gorymdaith o bobl yn cario baneri, bydd rithoedd o flodau’n cael eu gosod, a fflam yn cael ei hail gynnau. Dyma’r fflam dragwyddol wrth fedd y Milwr Anhysbys - ‘the Unknown Soldier’.
- Er bod yr Arc de Triomphe ei hun wedi ei hadeiladu yng nghyfnod Napoleon, yn fwy diweddar yr adeiladwyd y bedd. Taniwyd y fflam am y tro cyntaf 90 mlynedd yn ôl, ar 11 Tachwedd 1923, ychydig o flynyddoedd ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben. Mae’r fflam yn nodi bedd milwr a lladdwyd yn y rhyfel hwnnw. Does neb yn gwybod yn iawn pwy oedd y milwr. Efallai ei fod wedi colli ei ddogfennau. Efallai ei fod wedi ei anafu mor ddrwg fel nad oedd posib ei adnabod. Efallai bod ei gatrawd gyfan wedi ei dinistrio ac nad oedd neb ar ôl i ddweud pwy oedd o. Roedd yn un o’r miliynau o filwyr a laddwyd yn y brwydrau erchyll oedd yn rhan o’r rhyfel. Eto, fe ddewiswyd ei gorff i’w roi yn y bedd hwn, ac fe ddaeth yn symbol - y Milwr Anhysbys.
- Gyda’r holl bobl wedi cael eu lladd, mae’n anodd meddwl amdanyn nhw fel unigolion. Hyd yn oed pan fydd enw milwr sydd wedi marw yn Afghanistan, er enghraifft, yn cael ei gyhoeddi ar y newyddion, hyd yn oed pan fyddwn ni’n gweld lluniau’r arch yn cael ei chludo o’r awyren neu mewn gorymdaith ar hyd stryd i fynwent, mae’n gallu ymddangos yn anhysbys i ni. I’r rhan fwyaf ohonom, milwr anhysbys ein hoes ni yw’r unigolyn hwn. Ond i rai eraill mae’r farwolaeth hon yn ergyd bersonol erchyll. Mae’r unigolyn yn dad i rywun, neu’n fam, yn frawd, yn chwaer, mab, merch, dyweddi neu’n ffrind, ond mae wedi marw.
Bydd emosiynau cryf sioc, galar, dicter ac anghrediniaeth yn rhwygo pobl. Mae eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi eu chwalu. Atgofion yw’r unig beth sydd ar ôl. Bydd rhywun yn galaru am fywyd pob unigolyn, yn y gorffennol neu’r presennol, am byth.
Amser i feddwl
Arweinydd Tachwedd 11 yw Dydd y Cadoediad, y dydd y daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben. Ledled y D.U., am 11 o’r gloch y bore - yr adeg y daeth y tanio i ben - mae pobl yn aros ac yn sefyll mewn distawrwydd am ddau funud, i gofio am y rhai fu farw yn y rhyfel hwnnw ac mewn rhyfeloedd eraill yn y cyfnod o tua chan mlynedd diwethaf. Ar Sul y Cofio, yr ail Sul ym mis Tachwedd, fe fyddwn ninnau’n eu cofio.
Bydd y rhan fwyaf ohonom yn meddwl am y Milwr Anhysbys dim ond fel rhywun fu farw mewn rhyfel. Efallai na fyddwn yn adnabod yn bersonol unrhyw un a fu farw, ac felly ddim ond yn gallu meddwl am y peth mewn termau cyffredinol. Eto, mae’n bwysig i ni gofio hefyd bod rhai pobl, llawer ohonyn nhw, y mae’r cofio yn rhywbeth personol iddyn nhw, mae wedi digwydd i rywun yr oedden nhw yn ei adnabod. Tybed a oes rhywun yn y gwasanaeth hwn heddiw oedd yn adnabod rhywun a laddwyd. Er mwyn y bobl hynny rydyn ni’n sefyll ac yn cofio. Er eu mwyn nhw y mae’r fflam dragwyddol yn cael ei hail gynnau bob nos ym Mharis.
Eto, mewn un ffordd, mae hefyd er ein mwyn ni i gyd. Mae rhai unigolion, yn y gorffennol, mewn moment o rwystredigaeth, meddwdod neu wallgofrwydd, wedi ceisio diffodd y fflam dragwyddol wrth yr Arc de Triomphe. Fe gawson nhw’u cosbi’n llym, ond mae’r fflam wedi cael ei chadw ynghyn. Mae’n llosgi fel symbol i bob un ohonom, nid dim ond ar Ddydd y Cadoediad a Sul y Cofio, ond bob dydd, fel y cawn ein hatgoffa’n barhaus bod rhyfel yn opsiwn y dylem ni ei osgoi ar bob cyfrif.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am ddewrder y rhai a fu farw mewn rhyfeloedd.
Cysura’r rhai sy’n galaru ar hyn o bryd oherwydd y marwolaethau hynny.
Helpa ni i beidio byth ag anghofio erchyllterau rhyfel.
Boed i ni wneud ein rhan i ddod â heddwch i’n byd.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
‘Remembrance Day’ gan Brian Adams