Rhedeg i ffwrdd
Wynebu problemau
gan Laurence Chilcott
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Ystyried y ffaith ei bod fel arfer yn well wynebu anawsterau bywyd yn hytrach na rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe allech chi arddangos lluniau o danau mewn fforestydd a lluniau rhai o anifeiliaid brodorol Awstralia, yn cynnwys y dingo.
- Llwythwch i lawr, neu argraffwch y gerdd sydd i’w chael ar y wefan:http://mancheser.blogspot.co.uk/2012/08/what-someone-said-when-he-was-spanked.html (nodwch efallai y byddai’n briodol defnyddio gair arall llai awgrymog na’r gair ‘spanked’).
Gwasanaeth
- Darllenwch y gerdd o’r wefan uchod, neu eich addasiad chi ohoni.
Mae’n demtasiwn rhedeg i ffwrdd oddi wrth broblemau. Mae rhywun wedi brifo teimladau’r bachgen yn y gerdd, ac mae’n dymuno rhedeg i ffwrdd. Ond, oherwydd bod y diwrnod wedyn yn ddiwrnod ei ben-blwydd, mae’n ailfeddwl. Nid yw o ddifrif yn cynllunio i redeg i ffwrdd, ond mae’n meddwl y byddai ei rieni’n ei drin yn wahanol pe byddai’n gwneud hynny. Nid yw’n deall eto bod rhieni cariadus yn disgyblu eu plant oherwydd eu bod yn eu caru ac eisiau iddyn nhw ddysgu am y ffordd briodol o ymddwyn, a dysgu’r gwahaniaeth rhwng beth sy’n iawn a beth sydd ddim yn iawn. - Fe ddatblygodd y bobloedd gynnar ymateb naturiol i berygl - greddf i ddianc neu ymladd - greddf sy’n cael ei galw yn Saesneg yn ‘fight or flight’. Pan oedd y bobl allan yn hela, ac yn dod wyneb yn wyneb ag anifail gwyllt neu elyn a oedd yn eu bygwth, fe fyddai’n rhaid iddyn nhw benderfynu ar unwaith a fydden nhw’n aros neu’n rhedeg i ffwrdd. Os byddai’r heliwr yn penderfynu ymladd, fe fyddai’n aml yn sicrhau bod ei faes hela’n cael ei warchod a byddai’r anifail neu’r gelyn yn encilio i’w ranbarth ei hun - ond, fe fyddai perygl i’r heliwr gael ei anafu neu ei ladd. Os penderfynai’r heliwr ddianc, fe fyddai hynny’n golygu y byddai, fwy na thebyg, yn goroesi, ond fe fyddai’n colli rhywfaint o’r maes hela.
- Mae’r ffordd y byddwn ni’n ymateb i broblemau yn ein bywyd yn debyg iawn i’r reddf hon o ‘fight or flight’. Fe allwn ni aros ac wynebu’r broblem neu ei hanwybyddu a throi i ffwrdd oddi wrthi. Os byddwn ni’n troi i ffwrdd oddi wrth ein problemau, fe allen nhw ymddangos yn fwy hyd yn oed pan fyddwn ni’n dod wyneb yn wyneb â nhw eto rywbryd yn y dyfodol. Er nad yw’n hawdd, fel arfer mae’n well wynebu problem a’i datrys, oherwydd wedi gwneud hynny fe fyddwn ni’n gryfach ac yn ddoethach wedyn.
- Yn y tanau mawr sy’n digwydd ar diroedd gwyllt Awstralia, fe all y gwyntoedd yrru’r fflamau mor gyflym fel na all yr anifeiliaid cyflymaf ddianc rhagddyn nhw. Caiff yr anifeiliaid lleiaf, neu’r rhai arafaf, eu dal yn gyntaf, ond ambell dro fe fydd yr anifeiliaid, fel y cangarw, sy’n gallu symud yn gyflym, yn methu dianc rhag y fflamau ychwaith a does dim yn bosib ei wneud i’w hachub. Eu greddf naturiol yw dianc - am eu bywyd - ac mae’n ymateb rhesymol iawn, oherwydd mae tân yn rhywbeth rhy beryglus i unrhyw anifail ei wynebu. Unrhyw anifail, hynny yw, ar wahân i’r dingo - ci gwyllt Awstralia - oherwydd mae’r dingo yn gwneud rhywbeth nodedig iawn.
Os yw’r dingo’n sylweddoli bod y fflamau’n lledaenu’n rhy gyflym iddo allu dianc rhagddyn nhw, fe wnaiff droi rownd ag wynebu’r tân. Ac ar y foment iawn, fe wnaiff redeg mor gyflym ag y mae’n gallu i gyfeiriad y fflamau sy’n dod tuag ato. Ac yna fe fydd yn neidio trwy’r fflamau gan lanio ar y tir llosgedig yr ochr arall iddyn nhw. Efallai bydd ei got wedi llosgi ychydig, ac fe fydd ei draed yn ddolurus ar ôl glanio ar y ddaear boeth, ond fe wnaiff oroesi - fe fydd yn dal yn fyw. Wrth wynebu’r fflamau, mae’r dingo’n goroesi pan fydd llawer o’r anifeiliaid eraill yn cael eu llosgi a’u lladd. Dywedir bod ysgyfarnogod yn gwneud yr un peth yn y wlad hon pe bydden nhw yn yr un sefyllfa.
Fe allwn ni ddysgu rhywbeth oddi wrth y dingo. - Ydych chi, ryw dro, yn ddamweiniol wedi torri rhywbeth oedd yn eiddo i rywun arall? Fe allech chi ei roi yn ôl gan obeithio na fydden nhw’n sylwi, fe allech chi ddweud ei fod wedi torri cyn i chi ei gyffwrdd, neu fe allech chi gyfaddef beth sydd wedi digwydd ac ymddiheuro am dorri’r peth hwnnw. Nid yw’n hawdd cyfaddef ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le, ond mae’n well gwneud hynny na dweud celwydd neu roi’r bai ar rywun arall.
- Yn yr ysgol, ydych chi ryw dro wedi gwneud rhywbeth o’i le trwy fod yn ddifeddwl neu’n gellweirus? Wnaethoch chi adael i rywun arall gymryd y bai? Wnaethoch chi gyfaddef dim ond ar ôl i blentyn arall awgrymu mai chi wnaeth?
Neu a wnaethoch chi, yn lle hynny, fod â’r dewrder i gyfaddef eich bod wedi gwneud rhywbeth gwirion, cyfaddef a derbyn y gosb am y weithred?
Nid yw byth yn hawdd cyfaddef ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le. Ond, os gallwn ni wynebu hynny, fe allwn ni wedyn symud ymlaen a dysgu o’n profiad. - Mewn rhai amgylchiadau, dianc yw’r dewis gorau, a’r unig ddewis mae’n debyg, ond yn aml mae’n well wynebu anawsterau a’u datrys os yw hynny’n bosib.
Oes rhywbeth y byddai’n well gennych chi ddianc rhagddo? Cofiwch am y dingo!
Amser i feddwl
Mae’n debyg y bydd rhai sefyllfaoedd sydd wedi codi yn yr ysgol y gallech chi gyfeirio atyn nhw a fyddai’n berthnasol i’r gwasanaeth hwn.
Siaradwch am y boddhad o allu trechu nerfau a gallu adrodd cerdd yn hyderus o flaen y dosbarth, neu allu cymryd rhan mewn drama neu sioe gerdd, er eich bod chi’n berson nerfus a swil.
Trafodwch y cysyniad o wneud ‘môr a mynydd’ o bethau, ond cadarnhewch mor werthfawr yw trafod problemau gyda ffrindiau neu oedolion y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw.
Amlinellwch achlysuron pryd y mae’n ddoeth rhedeg i ffwrdd oddi wrth sefyllfaoedd peryglus.
Byddai gwasanaeth dilynol am stori Jona’n cyd-fynd â’r thema hon.
Gweddi
Dduw Dad,
Rydyn ni’n gweddïo y bydd gennym y dewrder i wynebu problemau, a pheidio â throi oddi wrthyn nhw.
Gweddïwn am dy arweiniad di pan fydd arnom ni angen gwneud penderfyniadau anodd.
Helpa ni i fod yn onest ac yn eirwir, a gad i ni gofio dy fod ti wedi addo bod gyda ni bob amser, ac yn enwedig ar adegau anodd.
Amen.