Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dychmygwch

Dangos pa mor bwysig yw’r dychymyg o fewn y ddealltwriaeth Gristnogol o obaith.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Dangos pa mor bwysig yw’r dychymyg o fewn y ddealltwriaeth Gristnogol o obaith.

Paratoad a Deunyddiau

Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Imagine’ gan John Lennon a’r modd o’i chwarae. Fe fyddai hynny’n cyfoethogi’r gwasanaeth, neu fe allech chi ddefnyddio’r dyfyniad isod os hoffech chi.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y 90 eiliad cyntaf o’r gân ‘Imagine’ gan John Lennon.

  2. Dyfynnwch y geiriau:

    Imagine there’s no countries
    It isn’t hard to do
    Nothing to kill or die for
    And no religion too
    Imagine all the people
    Living life in peace . . .

    Does dim rhyfedd i’r cylchgrawn Rolling Stone nodi’r gân hon – ‘Imagine’ gan John Lennon – y drydedd gân orau erioed. Mae mor gryf a theimladwy, oherwydd mae fel petai’n ennyn y gallu dynol grymus hwnnw – y gallu i freuddwydio. Dyna’r gallu i fynd y tu hwnt – yn y meddwl a’r ysbryd – i gyfyngiadau sy’n cael eu gosod arnom ni, y gallu i ddychmygu a’r gallu i obeithio.

  3. Mae llwyddiannau nodedig yn aml yn dilyn llam o ddychymyg. Datblygu gweledigaeth yw cam cyntaf gwneud rhywbeth yn real. Mae hyn yn wir am ddyfeisiadau technolegol a dyfeisiadau mawr y byd modern. Fe lwyddodd unigolion prin gyda gweledigaeth anhygoel i weld yn eu meddwl bethau fel y teleffon, awyren, teledu a’r rhyngrwyd ymhell cyn i’r pethau hyn ddod yn bethau cyffredin sy’n cael eu defnyddio o ddydd i ddydd gan y gweddill ohonom. Mae’r holl ddyfeisiadau wedi dechrau gyda’r geiriau, ‘Dychmygwch pe byddai . . .’

  4. Mae grym y dychymyg dynol wedi cydio yn yr oes fodern trwy seicoleg chwaraeon. Mae pencampwyr ym myd chwaraeon yn cael eu dysgu y dyddiau hyn i ddelweddu eu llwyddiant yn eu meddwl - i weld o ddifrif yn eu meddwl, cyn i’r gêm ddechrau, y bêl yn mynd i mewn i gornel uchaf y rhwyd. Mae gweld hyn yn digwydd yn eich dychymyg yn cynyddu’r siawns i’r peth ddigwydd o ddifrif.

  5. Mae’r bobl hynny sydd wedi rhoi i ni obaith am fywyd gwell - bywyd rhydd o anghyfiawnder, gorthrwm ac annhegwch - fel arfer, wedi bod yn weledyddion, proffwydi’r dychymyg. Er enghraifft, rydyn ni’n parchu Martin Luther King, nid yn unig am ei weithredoedd dewr anhygoel ond hefyd am ei fod wedi ein hysbrydoli gyda gweledigaeth odidog o sut beth fyddai cymdeithas heb arwahanu hiliol - ‘I have a dream!’ oedd ei eiriau enwog.

  6. Rhan o freuddwyd John Lennon yn y gân ‘Imagine’ oedd y dylid cael gwared â chrefydd, am ei fod yn achosi gwrthdaro. Efallai bod hynny’n wir i ryw raddau, ond mae ochr arall i grefydd hefyd. Yn ganolog i Gristnogaeth a chrefyddau mawr eraill y byd, mae llam o ddychymyg, gobaith a gweledigaeth o fyd o heddwch a chariad. 

    Mae’r Beibl yn llawn o hanesion pobl a gafodd freuddwydion, pobl a wnaeth ddychmygu, ac a oedd â gweledigaeth. O Jacob, i Joseff (Joseff yr Hen Destament a Joseff y Testament Newydd), i Job, i Solomon, i Mair, ac i Ioan (ac fe allwn i ddal ati i enwi cymeriadau eraill), mae’r Beibl yn llawn hanesion am gymeriadau a oedd yn breuddwydio - rhai a welodd yn eu dychymyg weledigaethau wedi dod oddi wrth Dduw.

  7. Fel pobl ifanc yn cychwyn ar eu taith i fod yn oedolion, fe ddylech chi drysori’r ddawn o allu dychmygu. Peidiwch â chael eich twyllo i gydymffurfio gan y gymdeithas faterol ddiddychymyg, ddi-weledigaeth a dienaid, weithiau, rydyn ni’n byw ynddi. Mentrwch freuddwydio! Dychmygwch beth allech chi - a beth allai’r byd - fod.

Amser i feddwl

Mae’r Adfent yn bendant yn adeg o weledigaeth a dychymyg, pan fyddwn ni’n myfyrio ar ein gobeithion am well byd. Yn ystod yr Adfent mae’r Eglwys yn aml yn troi at hanes y proffwyd Eseia , a gafodd – mewn adeg o helbul mawr ac anobaith - weledigaeth fawr am heddwch a chariad i’r byd.

Fe drig y blaidd gyda’r oen,
fe orwedd y llewpard gyda’r myn,
bydd y llo a’r llew yn cydbori,
a bachgen bychan yn eu harwain.
Bydd y fuwch yn pori gyda’r arth,
a’u llydnod yn cydorwedd,
bydd y llew yn bwyta gwair fel ych.
Bydd y plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb,
a baban yn estyn ei law dros ffau’r wiber.
Ni wnânt ddrwg na difrod
yn fy holl fynydd sanctaidd,
canys fel y lleinw’r dyfroedd y môr i’w ymylon,
felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth y r Arglwydd.
(Eseia 11.6–9)

Gweddi
Arglwydd,
Rho i ni y ddawn i ddychmygu, fel y gallwn ni weld ein hunain a’r byd fel yr ydym yn cael ein galw i fod.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon