Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae pawb yn wahanol

Dathlu ein hunigolrwydd

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i barchu amrywiaeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr y clip fideo byr ar Hindwaeth o’r gyfresAlien Abductionar Truetube ar y wefan:www.truetube.co.uk/film/alien-abduction-hinduism– mae’n para 5 munud a 33 eiliad, a threfnwch fodd i ddangos y clip fideo yn ystod y gwasanaeth.

  • Llwythwch i lawr beth cerddoriaeth Hindwaidd draddodiadol, fel yr hyn sydd i’w gael ar :www.youtube.com/watch?v=xy3U9ihJo4o a threfnwch fodd i’w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi dau ddarllenydd i ymarfer o flaen llaw ac actio’r olygfa isod er mwyn cyflwyno’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Darllenydd 1   Y . . . ym  (gan bwyntio at dalcen Darllenydd 2)  . . .  beth sydd gen ti ar dy dalcen? Yn union rhwng dy aeliau uwch ben dy drwyn di. Mae’n edrych fel un o’r smotiau coch y mae pobl grefyddol India ‘n eu paentio ar eu hwynebau. Ai Rupal wnaeth ei roi o i ti? Mae hi’n rhoi smotyn fel yna  ar ei thalcen ei hun weithiau. Rhwbia fo i ffwrdd, wir - rwyt ti’n edrych yn wirion. Wyt ti wedi dechrau mynd yn grefyddol, neu rywbeth? 

    Darllenydd 2  Taw wir! Alla i ddim ei rwbio i ffwrdd, y ffwl! Sbot ydi o! Paid â thynnu sylw at y peth! Ond rydw i’n gwybod beth wyt ti’n ei feddwl - mae’r smotyn coch hwnnw’n edrych ychydig yn od, er mae’n amlwg nad yw Rupal yn meddwl hynny. A doedd hi’n rhyfedd, yn doedd, pan wrthododd hi fwyta dim yn y barbiciw diwedd tymor? Fyddwn i byth wedi ymddwyn mor od. Roedd pawb yn siarad amdani, yn doedden nhw? A phawb yn edrych arni.

    Darllenydd 1  Wel, onid ydi pobl fel hi yn llosgi cyrff aelodau o’u teulu, pan fydd rhywun wedi marw, mewn seremonïau cyhoeddus? Ac yn gweddïo o flaen cerfluniau rhyfedd, ac yn credu eu bod yn dod yn ôl i’r byd fel cwningod, neu rywbeth felly, wedi iddyn nhw farw? Mae’n swnio’n od iawn i mi.

    Darllenydd 2  O! Mae llawer o bobl od a gwahanol o gwmpas, mae hynny’n ffaith. Fe allen nhw fod yn byw yn yr un stryd â ni, ac yn mynd i’r un ysgol â ni, ond maen nhw’n wahanol iawn yn eu ffordd. Dydw i ddim yn eu deall o gwbl.

  2. Arweinydd Wrth wrando ar y ddau unigolyn yn siarad, mae’n amlwg nad ydyn nhw’n deall llawer. Mae’r ferch, Rupal, yn ymddangos yn od ac yn wahanol iddyn nhw, ond dydyn nhw ddim wedi gwneud unrhyw ymdrech i ddeall ei chred nac i ddeall pam y mae hi’n gwneud y pethau mae hi’n eu gwneud. Yn y clip fideo byr hwn rydyn ni am ei wylio nawr, mae Rupal yn cael cyfle i egluro mwy am ei chrefydd. Gadewch i ni edrych arno gyda’n gilydd, a gweld beth allwn ni ei ddysgu.

    Dangoswch y clip fideo Truetube, Alien Abduction: Hinduism, a chaiff y ddau ddarllenydd eistedd hefyd gyda’r gynulleidfa i’w wylio.
  3. Arweinydd Felly, chi eich dau/ dwy (gan gyfeirio at y ddau ddarllenydd), dewch yn ôl yma. Roedd gwrando ar Rupal yn siarad am ei chrefydd yn ddiddorol iawn. Tybed faint allwch chi ei gofio o’r hyn ddywedodd hi. Pam eu bod yn addoli llawer o wahanol gerfluniau?

    Darllenydd 1 Dim ond gwahanol ffurfiau yw’r rhain i gyd o’r un Duw Goruchaf. Dydyn nhw eu hunain ddim yn dduwiau, ond maen nhw’n rhywun sy’n cynrychioli Duw.

    Arweinydd Beth ydych chi wedi ei ddysgu am ailymgnawdoliad (reincarnation)?

    Darllenydd 2 Mae ailymgnawdoliad yn ymwneud â cheisio byw bywyd da, a dod yn well person, sydd fel y gwelaf i’n arwain at well byd i bawb.

    Arweinydd Pam mae Hindwiaid yn llysieuwyr caeth?

    Darllenydd 1 Maen nhw’n credu fod pob bywyd yn werthfawr, yn cynnwys bywyd anifeiliaid.

    Arweinydd  Pam maen nhw’n llosgi cyrff pobl sydd wedi marw?

    Darllenydd 2 Er mwyn rhyddhau eu heneidiau, fel y gallan nhw fynd yn eu hôl at Dduw.

    Arweinydd Yn olaf, beth am y smotyn coch hwnnw?

    Darllenydd 1 Fe fydd Hindwiaid yn gwisgo’r smotyn coch ar eu talcen yn ystod gwyliau crefyddol, fel nod i ddangos eu ffydd a’u hymrwymiad.

  4. Arweinydd Wel, rydych chi’ch dau/dwy, yn wir, wedi dysgu llawer am Rupal ac am yr hyn mae hi’n ei gredu!

    Darllenydd 2  Roedd yn ddiddorol iawn. Dydi hi ddim yn ymddangos mor od a gwahanol erbyn hyn, nawr ein bod ni wedi deall rhagor ynghylch pam mae hi’n gwneud y pethau mae hi’n eu gwneud.

  5. Arweinydd Mae’n amlwg i mi bod Rupal wedi ymddangos yn od neu’n wahanol i’n dau ffrind nes y daethon nhw i wybod rhagor amdani. Mae hynny’n wir am bawb ohonom mewn gwirionedd. Mae pawb yn ymddangos yn od neu’n wahanol nes dewch chi i’w hadnabod. Fe ddywedodd Johnny Depp:

    I think everybody's weird. We should all celebrate our individuality and not be embarrassed or ashamed of it.’ 

    Rydw i’n cytuno ag ef. Fe fyddwn ni i gyd yn ymddangos yn wahanol yng ngolwg rhai pobl eraill mae’n debyg. Hyd yn oed fi. Hyd yn oed chi. Pe byddem ni’n gallu dod o hyd i ffordd o ddathlu amrywiaeth a pheidio ag achosi i eraill fod â chywilydd neu deimlo embaras ynghylch y ffyrdd y maen nhw’n wahanol, fe fyddai’r byd yn lle llawer iawn gwell.

Amser i feddwl

Mae pawb yn wahanol.

Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am yr holl wahanol bobl rydyn ni’n eu hadnabod - yn ein cartref, ein hysgol a’n cymunedau. Gadewch i ni ystyried yr holl bethau sy’n ein gwneud ni’n wahanol - ein cefndiroedd, ein traddodiadau, ein ffydd, ein diddordebau, ein doniau.

Fe ddylem ni i gyd ddathlu ein bod yn unigryw.

Gadewch i ni feddwl yn awr am sut y gallwn ni ddathlu ein bod yn unigryw ac yn wahanol. Gadewch i ni feddwl am yr hyn y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd. Gadewch i ni edrych ymlaen at yr holl hwyl y gallwn ni ei gael wrth ddod i adnabod pobl newydd, a chofleidio profiadau newydd.

Ddylem ni byth fod â chywilydd na theimlo embaras oherwydd ein bod yn unigolion unigryw.

Gadewch i i feddwl am yr adegau hynny pan wnaethon ni achosi i eraill fod â chywilydd neu deimlo embaras am eu bod yn wahanol i ni. Gadewch i ni gydnabod yr adegau pan oedden ni wedi barnu pobl eraill cyn i ni ddod i’w hadnabod. Gadewch i ni gydnabod yr achlysuron pan wnaethon ni feddwl bod rhywbeth gwahanol yn rhywbeth drwg.

Gwrandewch ar eiriau’r weddi ganlynol, ac os hoffech chi, fe allech chi eu gwneud yn weddi i chi eich hunan.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am amrywiaeth.
Diolch i ti am wneud pawb yn wahanol.
Diolch i ti am yr holl bethau y gallwn ni eu darganfod a’u dysgu oddi wrth ein gilydd.
Helpa fi i ddathlu unigolrwydd.
Mae’n ddrwg gen i am yr adegau y gwnes i farnu rhywun am fod yn wahanol heb i mi gymryd amser i ddod i’w hadnabod.
Helpa fi i fod yn barod i ddysgu oddi wrth eraill.
Helpa fi i fod yn agored i brofiadau newydd.
Helpa fi i ddatblygu agwedd fwy positif tuag at amrywiaeth a phethau gwahanol.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth Hindwaidd draddodiadol

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon