Am yr hyn rydyn ni'n mynd i'w dderbyn
Diolchgarwch Nadolig
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Annog y myfyrwyr i ystyried goblygiadau personol y rhodd gan Dduw, sef Iesu.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen paratoi tri darllenydd.
- Lapiwch anrheg Nadolig.
- Chwiliwch am y gerddoriaeth ‘Sweet Bells’ gan Kate Rusby a threfnwch fodd i’w chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Arweinydd Dangoswch yr anrheg Nadolig rydych chi wedi ei lapio.
Faint o reolaeth ydych chi'n dymuno'i gael dros yr hyn a dderbyniwch adeg y Nadolig?
Darllenydd 1 Ymhell cyn y Nadolig, byddaf yn llunio rhestr hir o bethau yr hoffwn eu derbyn. Mae ar y rhestr un neu ddwy o eitemau y byddaf yn gobeithio y bydd rhywun yn ddigon hael i'w cael i mi, ond fe fyddaf hefyd yn cynnwys llu o bethau bach felly does dim rheswm i unrhyw un fod heb ddewis. Mae hyn yn golygu na fyddaf yn derbyn unrhyw beth nad wyf ei angen.
Darllenydd 2 Yn bersonol fe fyddai'n well gen i dderbyn yr arian. Mae hynny'n rhoi rheolaeth lwyr i mi ac yn golygu y gallaf i gymryd mantais ar yr arwerthiannau sy'n dechrau'n syth ar ôl y Nadolig. Beth yw'r pwynt i rywun dalu ddwywaith y pris pan fedraf i gael bargen?
Darllenydd 3 Mae'n well gen i’r cyffyrddiad personol. Mae'n well gen i feddwl bod rhywun wedi gwneud ymdrech eu hunain i ddewis rhywbeth i mi. Mae'n dangos fy mod yn golygu rhywbeth iddyn nhw. Iawn, fe all hynny fod ychydig yn beryglus. Mae gen i nifer o eitemau o ddillad na fyddwn i byth wedi eu dewis fy hun ac mae rhai pobl eraill weithiau yn cael fy chwaeth mewn cerddoriaeth ychydig yn anghywir, ond mae'n werth gwybod fod rhywfaint o amser wedi ei dreulio ac ymdrech wedi cael ei gwneud er mwyn dod hyd i’r hyn sydd wedi ei roi i mi. - Arweinydd Fe ddechreuodd y Nadolig amser maith yn ôl. Fe ddechreuodd gyda chenedl o bobl oedd â rhestr hir o bethau roedden nhw'u hangen gan eu Duw. Roedd yr Iddewon unwaith yn bobl falch a oedd wedi profi amser caled. Roedd eu gwlad yn nwylo'r Rhufeiniaid. Roedden nhw'n cael eu gorfodi i dalu trethi i Cesar, i ddarparu gweithlu ar gyfer prosiectau eu pyped lywodraethwr, Herod, a chydymffurfio â phob disgwyliad llygredig y lluoedd a oedd yn meddiannu.
Eu hymateb oedd galw ar eu Duw am Arweinydd. Rhoddwyd y teitl Meseia iddo. Swydd ddisgrifiad y Meseia oedd bod yn llywodraethwr teg ac yn arweinydd nerthol, rhywun fyddai'n eu galluogi i godi mewn gwrthryfel a gwthio'r goresgynwyr Rhufeinig o'u tir. Dyma'r rhestr Nadolig a luniwyd gan lawer o'r Iddewon.
Roedd Iddewon eraill a oedd â safbwynt mwy ysbrydol. Roedden nhw'n gweddïo ar Dduw am rywun oedd yn sanctaidd, offeiriad fyddai'n gallu eu harwain at wirionedd a bywyd rhinweddol. Roedden nhw'n ymwybodol bod Duw wedi rhoi'r Gorchmynion iddyn nhw i'w hufuddhau, ac roedden nhw angen rhywun fyddai'n pwysleisio'r pwysigrwydd o gadw at y set hon o reolau. Pe bydden nhw'n gallu cael hyn yn gywir yna fe fyddai popeth arall yr oedden nhw eu hangen fel cenedl yn dilyn. Roedd rhai, a oedd yn cael eu hadnabod fel Phariseaid, yn dueddol o fod yn ymwneud â chadw Gorchmynion Duw i'r radd eithaf.
Yn olaf, roedd rhai a oedd yn ddigon bodlon i Dduw wneud y dewis ar eu rhan. Roedden nhw'n credu bod Duw'n adnabod ei bobl yn dda ac wedi gwneud hynny am ganrifoedd lawer. Roedden nhw'n credu y byddai dydd yn dod pan fyddai Duw yn anfon y Meseia, ond roedden nhw'n fodlon i Dduw benderfynu pwy fyddai hwnnw a beth fyddai'n debygol o'i wneud.
Yr hyn gawson nhw oedd Iesu. Yn achos llawer o’r Iddewon, doedd Iesu ddim yr un yr oedden nhw wedi gofyn amdano.
A yw Iesu ar eich rhestr Nadolig chi? Rywsut, rwy'n amheus a yw ar restr y mwyafrif ohonoch. Pam? O bosib, oherwydd nad yw Iesu'n berthnasol i'ch bywyd, eich anghenion, eich gobeithion a'ch uchelgeisiau chi. Pe byddai'n bosib, efallai y byddech chi’n dewis Nadolig heb i enw Iesu gael ei grybwyll o gwbl.
Amser i feddwl
Arweinydd Ydych chi ryw dro wedi derbyn anrheg nad oeddech erioed yn ei ddisgwyl, oddi wrth rywun yr oeddech wedi llwyr anghofio amdano ef neu hi? Dychmygwch agor yr anrheg honno i ddatgelu i chi'r rhodd berffaith, yr hyn yr ydych chi wedi bod ei eisiau ers talwm ond heb erioed fod wedi meiddio gofyn am y peth hwnnw, anrheg yn dangos cymaint o wybodaeth gyfarwydd ohonoch chi a'r hyn yr ydych yn ei wir ddymuno. Dychmygwch y fath beth am funud bach.
Mae Cristnogion yn credu bod Duw'r Tad yn ein hadnabod yn y ffordd honno. Dyna paham yr anfonodd Iesu, y Nadolig cyntaf hwnnw - i ddod â rhyddid, i ddod â gwirionedd, i ddod â maddeuant, i ddod ag arweiniad, i ddod ag iachâd, ac i ddod â bywyd yn ei syniad mwyaf cyflawn. Iesu yw rhodd berffaith annisgwyliadwy Duw.
Dangoswch unwaith eto'r anrheg Nadolig rydych chi wedi ei lapio.
Mor aml, er hynny, Iesu yw'r anrheg sydd yn aros ar ôl heb ei agor. Mae llawer ohonom yn anwybyddu’r sôn am Iesu, gymaint â phosib.
Felly, sut y gallwn ni agor anrheg Duw, Iesu, y Nadolig hwn? Yn syml fe allech chi ddarllen stori bywyd Iesu. Dim ond tuag awr o amser fyddai hynny’n ei gymryd, ac mae gennych ddewis o bedwar fersiwn yn yr Efengylau. Efengyl Luc o bosib yw'r un orau i ddechrau â hi yn ystod y Nadolig. Gall fod yr anrheg annisgwyliadwy y byddwch yn falch na wnaethoch ei adael heb ei agor.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch a ti am y rhodd fawr, sef Iesu.
Gad i ni dreulio rhywfaint o amser y Nadolig hwn yn archwilio pwy oedd, a phwy yw, Iesu.
Boed i ni fod yn agored i gael ei synnu.
Amen.
Cerddoriaeth
‘Sweet Bells’ gan Kate Rusby