Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mynd adref dros y Nadolig

Annog y myfyrwyr i feddwl am gyflwr y bobl sydd ymhell o’u cartref ar adeg y Nadolig, ac sy’n gwerthfawrogi eu teuluoedd.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i feddwl am gyflwr y bobl sydd ymhell o’u cartref ar adeg y Nadolig, ac sy’n gwerthfawrogi eu teuluoedd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau, ond fe allech chi os hoffech chi, drefnu i ddarllenwyr arwain y gwasanaeth un ar gyfer pob cam isod.

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o gân Nadoligaidd sy’n ffefryn gennych chi, a’r modd i’w chwarae yn ystod y cyfnod ‘ Amser i feddwl’, tua diwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Dros gyfnod o 40 diwrnod bob blwyddyn, bydd dros biliwn o bobl yn gwneud y daith adref ar gyfer y Nadolig yn Tsieina. Canlyniad y ffaith fod y boblogaeth yn uchel iawn, bod maint y wlad mor fawr, a natur economi Tsieina, yw bod y teuluoedd wedi cael eu gwasgaru i bob rhan o'r wlad enfawr hon. Mae symud cymaint o bobl yn golygu ymdrech genedlaethol sylweddol, a chaiff hyn ei gydnabod fel yr ymfudiad blynyddol mwyaf yn y byd sy'n ymwneud â'r ddynoliaeth. Y Flwyddyn Newydd yw'r brif wyl a gaiff ei dathlu yn Tsieina, sydd fel arfer yn digwydd yn ystod cyfnod y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a Blwyddyn Newydd y Gorllewin.  Caiff pob gweithiwr 7 diwrnod o wyliau, ond bydd yr ymfudiad yn digwydd dros 40 diwrnod.

  2. Er yn llai o sialens yn y wlad hon, mae'r angen i fynd adref ar gyfer y Nadolig yr un mor bwysig i lawer. Bydd ffyrdd prysur, trenau llawn pobl ac oediadau gan gwmnïau hedfan yn ildio i egwyl ymlaciol a boddhaus, wrth i aelodau o deuluoedd deithio pellteroedd maith er mwyn cael bod yng nghwmni'r rhai y maen nhw'n eu caru.

  3. Mae'r angen i fod yng nghwmni'n teulu yn deimlad dynol cyffredin, eto mae llawer yn gorfod treulio'r Nadolig i ffwrdd o gartref. Amcangyfrifir bod 5.5 miliwn o Brydeinwyr yn byw dramor – bron i 1o 10 o boblogaeth y D.U. Prif gyrchfan i'r cyn-wladgarwyr yw Awstralia – 1.3 miliwn. Nid yw'n anodd dychmygu pam. Ond mae'r pellter rhwng y D.U. ac Awstralia cymaint, fodd bynnag, fel na all llawer fforddio'r hediadau gartref ar gyfer y Nadolig. Yn yr un modd, efallai na all aelodau o'r lluoedd arfog Prydeinig sy'n gwasanaethu dramor gael yr amser rhydd y byddan nhw ei angen i deithio.

  4. I'r sawl sy'n treulio dedfrydau yn y carchar, gall y Nadolig fod yn llym dros ben. Bydd pob carcharor yn cael caniatâd i wneud un alwad ffôn at anwylyd, ond hynny fydd yr unig gyswllt â'r byd oddi allan. Bydd carcharorion yn derbyn bag anrheg gan reolwr y carchar a bydd cinio yn 'well nag arfer', ond dyna gyn belled ag yr â'r dathliadau. I lawer o garcharorion, bydd yr atgofion am Nadolig o'r tu allan yn gwneud yr adeg hon ymhlith y rhai mwyaf anodd yn y flwyddyn.

  5. Mae llawer o bobl yn byw yn y wlad hon sydd ddim yn gallu fforddio i  deithio adref i dreulio'r Nadolig yng nghwmni eu teuluoedd. Ac efallai y bydd y llu o ymfudwyr sydd wedi teithio i'r D.U. i gael gwaith yn treulio'r Nadolig mewn llety dros-dro, gan feddwl am eu teuluoedd filltiroedd maith i ffwrdd a theimlo'n unig iawn.

  6. Mae ffoaduriaid ledled y byd wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu hanwyliaid oherwydd ffactorau gwleidyddol. Fyddan nhw ddim yn gallu mentro teithio adref. 

  7. Yn drist, hefyd, fe fydd llawer yn treulio'r Nadolig heb gwmni rhywun oedd yn annwyl ganddyn nhw oherwydd ei fod ef neu hi wedi marw'n gynharach yn y flwyddyn.

Amser i feddwl

Fe ddywedir wrthym fod y Nadolig yn gallu bod yn straen i lawer wrth i deuluoedd dreulio amser yng nghwmni ei gilydd. Yn wir, mae'n ddigwyddiad blynyddol sy'n gofyn am hyblygrwydd gan bawb. Ond, er gwaethaf hyn, mae'r profiad cyffredinol yn dangos i ni'r pwysigrwydd o dreulio amser yng nghwmni anwyliaid dros y Nadolig. Fel y mae biliwn o bobl Tsieina yn gwybod, mae'n bwysig gwneud ymdrech a threulio'r Nadolig yng nghwmni'r rhai a garwn.

Gadewch i ni'n awr dreulio ychydig o amser yn meddwl am ein teuluoedd a’u gwerthfawrogi.

Chwaraewch y gân Nadoligaidd o’ch dewis tra mae’r myfyrwyr am eu teuluoedd.

Emyn

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Unrhyw gân Nadoligaidd o’ch dewis.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon