Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Stori'r bugail

Nid yw pawb sy’n bwysig yn gyfoethog a grymus

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried  mewn ffordd wahanol y rôl a chwaraeodd y bugeiliaid yn Stori’r Geni

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi dau i chwarae rhan y bugeiliaid, Bugail 1 a Bugail 2 – fe allai’r ddau wisgo lliain sychu llestri am eu pennau i gyfleu gwisg y bugeiliaid, os hoffech chi.

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gerddoriaeth ‘He shall feed his flock’, allan o’r Messiah  gan Handel, a threfnwch fod gennych chi fodd o chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Bugail 1 - yn rhuthro i mewn.  O diar! Rydw i wedi gadael y defaid ar y bryn, ac mae James yn cymryd ei amser. Mae’n dechrau mynd i oed, wyddoch chi. Beth bynnag, rydw i wedi gadael y defaid ar ochr y bryn. O diar! Roedd yn rhaid i mi fynd. Fe wnaethon nhw fy mherswadio i - roedd rhywbeth y gwnaethon nhw ei ddweud yn gwneud synnwyr rywsut. Roedd yn amlwg fod yr hyn roedden nhw’n ei ddweud yn wir. Noson hollol gyffredin oedd hi, ychydig bach yn oer, y defaid yn pori’n dawel, Iago a fi, a’r sêr uwch ben ... ac yna’n sydyn, yn ymddangos o unman, dyma  . . .

Bugail 2 - yn dod i mewn ar y canol, bron â cholli ei wynt.  Dyna ble’r oedd o’n arnofio o fy mlaen. Roeddwn i’n rhoi’r bai ar y cwrw! Ond, fe ddechreuodd siarad â ni. ‘Peidiwch ag ofni,’ meddai. Digon hawdd i ti ddweud hynny, meddyliais innau. Roedd y ddau ohonom ni’n syllu’n syn ar y ddrychiolaeth. Roeddem ni, y ddau fugail, fel dau bysgodyn â’u ceg ar agor!

Bugail 1 ‘Yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl,’ meddai. ‘Ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd.’ Roedd yn dweud rhywbeth rhyfeddol wrthym ni. Ai hwn yw’r Gwaredwr sydd wedi ei addo i ni ers cymaint o amser? Y Meseia yr ydyn ni wedi  bod yn disgwyl mor hir amdano, ac rydyn ni wedi clywed cymaint o sôn amdano? 

Bugail 2  Roeddwn i wedi dychryn yn ofnadwy Doeddwn i ddim yn gallu gwrando arno - fe wnes i guddio! A phan edrychais i eto, roedd mwy ohonyn nhw - gymaint ag y gwelech chi! Ac roedden nhw’n canu mawl i Dduw. Roedd y canu’n hyfryd. Roeddwn i’n gwybod wedyn nad oedd gen i achos i ofni, a bod yn rhaid i ni fynd i weld.

Bugail 1 Fe wnaeth y ddau ohonom adael y defaid a mynd, rhedeg mor gyflym ag y gallen ni.

Bugail 2  Sydd ddim mor gyflym â hynny, yn achos rhai ohonom ni!

Bugail 1  Fe aethon ni i’r ddinas a cheisio cael ein hanadl yn ôl. Roedden ni’n gwybod bod rhaid i ni ddod o hyd i’r stabl. Dychmygwch! Y Meseia mewn stabl!

Bugail  Yn sydyn, fe welodd Ioan y lle, ac fe wnaeth y ddau ohonom sefyll yn stond. Ym mhen draw ffordd gul, dawel, roedd y stabl. Aethon ni’n nes yn araf bach, doedd dim un ohonom ni eisiau mynd i mewn yn gyntaf. Yna fe lanwyd y ddau ohonom â dewrder, gobaith a disgwyliad, ac fe wnaeth y ddau ohonom ni gymryd anadl ddofn.

Bugail 1  Dyna ble’r oedden nhw. Y baban yn y preseb. Ei fam yn penlinio wrth ei ymyl, yn edrych yn dyner ar ei wyneb bach. A’i dad yn sefyll yn warchodol dros y ddau. Roedden ni’n gwybod bryd hynny fod yr hyn roedd yr angylion wedi ei ddweud wrthym ni yn wir. 

Bugail  Roedd y teulu’n edrych mor hapus a heddychlon. Fe wnaethom ni eistedd gyda nhw, gan ryfeddu at yr hyn oedd wedi digwydd.

Bugail 1 Yna, fe ddaethon ni oddi yno – yn ffrwydro o lawenydd ynghylch yr hyn roedden ni wedi ei weld. Alla i ddim aros i gael dweud wrth bawb am hyn. Gogoniant i’r Arglwydd!

Bugail 2  Rhyfeddol! Dim ond gobeithio y bydd y bobl yn credu’r newyddion da!

Amser i feddwl

Arweinydd   Felly, fe welwch chi nad y bobl gyfoethog a phwysig ym Methlehem oedd y rhai cyntaf i ddod i weld Iesu- ond, roedd y bugeiliaid yn bwysig er hynny. Bugeiliaid cyffredin oedden nhw, a oedd yn gweithio yn y caeau ar ochr y bryn yn gofalu am y defaid, pobl a oedd yn treulio’u hamser allan gyda’u hanifeiliaid. 

Mae hyn yn amlygu beth fyddai’n dod yn rôl i Iesu, sef  ceisio’r bobl dlawd a’r bobl rheini nad yw cymdeithas bob amser yn eu gwerthfawrogi, a rhoi iddyn nhw rôl allweddol yn ei Deyrnas.

Mae stori’r bugeiliaid hefyd yn cysylltu â’r ffaith bod Iesu’n galw ei hun yn fugail. Mae’n arwain ei bobl ac yn gofalu amdanyn nhw fel y mae bugail yn gofalu am ei ddefaid. Mae Cristnogion yn credu y gwnaiff Iesu eu harwain trwy eu bywyd a’u dysgu beth yw’r ffordd iawn i fyw, fel y byddan nhw yn y pen draw yn ymuno ag ef a Duw yn y nefoedd.

Mae’r bugeiliaid yn dangos i ni fod Iesu yno i bob un ohonom ac mae pob un yn bwysig.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am ddangos i ni fod dy fab di, Iesu, wedi dod i’r byd ar adeg y Nadolig er mwyn pawb.
Diolch ei fod yn ein harwain ni, fel bugail. Ac os gwnawn ni ei ddilyn fe wnawn ni, yn y pendraw gwrdd â thi.
Amen.

Cerddoriaeth

He shall feed his flock’ allan o’r Messiah gan Handel

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon