Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gall democratiaeth fod yn beth creadigol

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i feddwl yn greadigol ynghylch themâu democrataidd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Eglurwch fod dau gyfle cyffrous yn ystod mis Ionawr i fod yn ymwneud â democratiaeth mewn ffordd ddeinamig ac uniongyrchol - y naill a'r llall yn cael eu cyflwyno gan ein Senedd ni yn Llundain. Cyflwynwch yn fyr Wobrwyon y Llefarydd ar gyfer Cynghorau Ysgol, gan egluro bod prosiectau cynghorau ysgol sydd wedi gwneud gwahaniaeth mewn ysgolion neu gymunedau, yn gymwys i ymgeisio. Boed yn fach neu’n fawr - nid yw o bwys; y cyfan sy'n ofynnol yw eu bod yn arwain at newid cadarnhaol. Bydd yr enillwyr yn cael mynd o amgylch y Senedd a chyfarfod â'r Llefarydd.

  2. Soniwch hefyd am, Goleuadau, Camera, Senedd! (Lights, Camera, Parliament!), sydd â ffocws ar gynhyrchu ffilmiau.  Gofynnir i fyfyrwyr gynhyrchu (neu gynllunio) ffilm fer yn ymwneud â deddf newydd yr hoffen nhw ei chyflwyno.
    Ar y pwynt hwn, dangoswch un o ffilmiau llwyddiannus y llynedd, oddi ar y linc sydd wedi ei nodi yn yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’ uchod, os ydych yn awyddus i’w defnyddio.

  3. Nodwch fod y naill beth a'r llall yn gyfleoedd creadigol i ymwneud â democratiaeth, ac mae democratiaeth angen meddylfryd creadigol os yw am dyfu a datblygu. Mae angen brys am annog cymaint â phosib o bobl i ddefnyddio'u pleidlais ac ymwneud â phob math o weithgareddau democrataidd ar bob lefel.
    Dywedwch eich bod yn mynd i geisio cyflwyno rhywfaint o ddemocratiaeth greadigol yn awr trwy ofyn i'r myfyrwyr yr ydych eisoes wedi eu dewis o flaen llaw i ddatgan eu cynigion, a siarad yn fyr arnyn nhw.

  4. Bwriwch bleidlais ar y cynnig sydd yn fwyaf tebygol o'r holl gynigion i gynyddu'r ymwneud â democratiaeth.

Amser i feddwl

Pa ffyrdd creadigol y gallwch chi feddwl amdanyn nhw a fyddai'n gwella'r ymwneud â democratiaeth?

Allwch chi lunio syniad am ffilm ar gyfer deddf yr hoffech chi ei gweld yn dod yn weithredol?

Ydych chi'n gwybod am brosiect cyngor ysgol y credwch chi sy'n haeddu ennill gwobr?

Allwch chi'n bersonol fod yn ymwneud mwy â'r broses o benderfynu democrataidd?

Dyddiad cyhoeddi Ionawr 2014

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon