Gawsoch chi ddigon o gwsg neithiwr
Dangos i’r myfyrwyr pa mor bwysig yw cael digon o gwsg.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Dangos i’r myfyrwyr pa mor bwysig yw cael digon o gwsg.
Paratoad a Deunyddiau
Chwiliwch am gerddoriaeth fyfyriol, dawel, a threfnwch fodd o chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Gawsoch chi digon o gwsg neithiwr? Pedair awr, wyth awr, neu rywfaint yn y canol?
Y nifer o oriau o gwsg a argymhellir i rai yn eu harddegau yw rhwng 8.5 a 9.5 awr ac, i oedolion, rhwng 7 a 9 awr. Nawr, meddyliwch yn sydyn ac ystyried wedyn a gawsoch chi ddigon o gwsg ai peidio? Os daethoch chi i mewn i’r gwasanaeth heddiw, yn meddwl y gallech chi hepian cysgu yn hytrach na gwrando arna i, mae’n debyg mai ‘Na’ fydda eich ateb i’r cwestiwn. - Fe fydd babanod newydd eu geni’n cysgu rhwng 16 a 17 y dydd (ac nid fel arfer yn ystod y nos, ychwaith), ond, wrth dyfu mae’r plentyn o dipyn i beth yn colli’r angen i gysgu cymaint o oriau. Er hynny, mae cwsg yn beth hanfodol i fodau dynol. Allwn ni ddim bod yn weithredol os na chawn ni gwsg. Mae diffyg cwsg yn gwneud pobl yn ddryslyd, ac maen nhw’n colli pob synnwyr o reswm a realaeth, ac yn aml fe fyddan nhw’n teimlo’n benysgafn ac yn methu gwneud pethau cyffredin ar lefel syml iawn hyd yn oed. Holwch rieni unrhyw blentyn bach newydd-anedig ac mae’n debyg y bydden nhw’n dweud yn hollol onest wrthych chi eu bod yn teimlo’n llai na dynol oherwydd eu diffyg cwsg. Mae rheswm real pam fod rhwystro rhywun rhag cysgu wedi cael ei ddefnyddio fel ffurf ar boenydio trwy’r canrifoedd. Ar ryw bwynt, fe fyddech chi’n teimlo mor flinedig fel y byddech chi’n fodlon gwneud unrhyw beth er mwyn cael llonydd i fynd i gysgu.
- Fe allech chi feddwl bod treulio cymaint o amser yn cysgu yn wastraff amser, ond, fel rydyn ni wedi clywed, mae cwsg yn hanfodol i bob bod dynol. Roedd hyd yn oed Iesu - sydd fel mae Cristnogion yn credu, yn fab i Dduw - angen cwsg ar rai adegau. A chan ei fod yn hollol ddynol, fel mae Cristnogion yn credu hefyd, roedd arno angen diwallu’r angen dynol am gyfnod o orffwys a chael cyfle i gael ei nerth yn ôl. Fe lwyddodd Iesu i gysgu ar adeg o storm enbyd hyd yn oed, nes iddo gael ei ddeffro gan griw o ddisgyblion a oedd wedi eu brawychu gan y storm.
- Mae adegau hefyd pan fydd angen i fodau dynol gadw’n effro. Er enghraifft, pe byddai milwr yn cysgu wrth gadw gwyliadwriaeth, fe allai hynny arwain at ganlyniadau difrifol iddo ef a’i gyd-filwyr. Yn yr un modd, mae angen i ddoctoriaid a nyrsys sy’n gweithio yn ystod y nos gadw’n effro pan fydd pawb arall yn cysgu, fel y gallwn ni gael gofal meddygol 24 awr pe byddai ei angen arnom.
- Efallai eich bod yn cofio’r hanes pan oedd Iesu angen i’w ffrindiau gadw’n effro, ond wnaethon nhw ddim. Yng Ngardd Gethsemane, y noson cyn i Iesu gael ei groeshoelio, fe ofynnodd Iesu i rai o’r disgyblion aros yn effro a disgwyl amdano tra roedd yn gweddïo. Aeth cwsg yn drech na’r disgyblion. Teimlai Iesu’n siomedig nad oedd ei ddisgyblion wedi gallu cadw’n effro am ‘hyd yn oed awr’, ond mae hyn yn amlygu ymhellach pa mor bwysig i ni yw cwsg.
- Fe fyddwch chi’n gwybod eich hun fod diwrnod yn yr ysgol yn gallu bod yn anodd weithiau os nad ydych chi wedi cael llawer o gwsg y noson cynt. Hefyd, os ydych chi angen cwsg, fe allech chi fynd i gysgu fwy neu lai mewn unrhyw le. Fe alla i gyfaddef i mi, pan oeddwn i’n fyfyriwr yn yr ysgol, fynd i gysgu yn ystod gwers hanes Lefel A. Ac rwy’n cofio rhywun arall o’r un dosbarth yn cael ei ddeffro mewn gwers gan yr athro Saesneg ryw dro. Felly, er bod Iesu’n siomedig, mae’n debyg nad oedd wedi synnu’n fawr.
Amser i feddwl
Mae’n bwysig fod pob un ohonom yn ceisio cael noson dda o gwsg er mwyn gallu cyflawni ein potensial a gwneud popeth hyd orau ein gallu yn ystod y dydd. Mae cwsg yn angenrheidiol i bobl ac anifeiliaid. Felly, pan fyddwch chi’n edrych faint o’r gloch yw hi, a hithau’n 11 p.m. a chithau’n dal i fod ar safle rhwydweithio cymdeithasol neu’n dal i fod yn adolygu eich gwaith ysgol, efallai ei bod yn amser bryd hynny i chi ddiffodd y cyfrifiadur neu’r ffôn, neu gau’r llyfr a cheisio’r cwsg rydych chi ei angen i alluogi eich corff i adnewyddu ei hun. Efallai y byddwch chi’n canfod bod pethau’n rhwyddach y diwrnod wedyn oherwydd eich bod wedi gofalu treulio amser yn ailwefru eich batris.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am fy helpu.
Diolch i ti am helpu fy ffrindiau.
Diolch i ti am yr holl bethau da rwyt ti’n eu rhoi i ni.
Amen.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol
Eich dewis eich hun o gerddoriaeth dawel i’ch helpu i fyfyrio wrth wrando arni.
Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2014