Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ewyllys rydd neu fydysawd heb ddewis

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad nad oes y fath beth yn bod ag ewyllys rydd.

Paratoad a Deunyddiau

Llwythwch i lawr y ffilm dri munud oddi ar: www.youtube.com/watch?v=ww-gnKkw9ZY a threfnwch fodd o’i dangos yn ystod y gwasanaeth. (Os na allwch ddangos y ffilm, mae sgript wedi ei haddasu’n dilyn.)

Gwasanaeth

Dangoswch y ffilm, neu defnyddiwch y sgript sy’n dilyn er mwyn egluro ac archwilio’r syniad nad ydyn ni’n berchen ar ewyllys rydd. Nodwch fod y sgript yn ehangu rhywfaint ar y dyfyniadau o eiddo Einstein a’r Athro Strawson yn y ffilm.

Sgript y ffilm

Mae sawl damcaniaeth ynghylch y bydysawd rydyn ni’n byw ynddo. Dyma un  . . .

Mae llawer o wyddonwyr ag athronwyr yn credu mai rhith yw’r syniad bod gennym ni ryddid i ddewis.

Er enghraifft, fe ddywedodd Albert Einstein (yn Mein Glaubensbekenntnis (My Credo), ym mis Awst 1932), ‘I do not believe in free will.’ Roedd ef yn cael cysur yn syniad Schopenhauer bod bodau dynol yn wir yn gallu gwneud beth maen nhw eisiau, ond allan nhw ddim bod eisiau’r hyn maen nhw eisiau, 'Man can indeed do what he wants, but he cannot want what he wants.’  Roedd hyn, meddyliai, yn ei rwystro rhag cymryd bywyd nac ef ei hun, ormod o ddifri.

Mae’r athronydd, Galen Strawson o Brifysgol Reading yn dweud, ‘As a philosopher I think the impossibility of free will and ultimate moral responsibility can be proved with complete certainty. It’s just that I can’t really live with this fact from day to day.’ Mae ef yn credu felly, fel athronydd, ei bod yn bosib profi amhosibilrwydd ewyllys rydd a chyfrifoldeb moesol eithaf gyda sicrwydd hollol. Ond na all fyw gyda’r ffaith hon o ddydd i ddydd, mewn gwirionedd.

Fe allwn ni ddarlunio un ddadl sy’n ategu’r syniad hwn fel a ganlyn:

Dychmygwch eich bod yn gwylio ffilm o afal yn cwympo, a stopiwch y ffilm gan roi saib ar ganol y symudiad. Sut rydych chi’n gwybod beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae profiad yn dweud wrthych chi y bydd yr afal yn parhau i ddisgyn nes bydd yn cyrraedd y llawr. Mae ein dealltwriaeth o ddeddfau ffiseg yn dweud wrthym mai dyna fydd yn digwydd. Mae’r hyn sy’n digwydd i afal yn cwympo ar y blaned daear wedi’i rag-dynghedu.

Ac, mae’r ddadl yn awgrymu, mae’r hyn sy’n digwydd i afal yn digwydd i bopeth arall yn y bydysawd. Mae deddfau digyfnewid natur yn gofyn bod popeth yn ymddwyn yn y ffordd y dylai.

Mae hynny’n cynnwys y prosesau naturiol sydd wedi llunio eich ymennydd a’r holl ryngweithio o’i fewn, gan roi bod i’ch meddyliau ac i’ch gweithredoedd.

Felly, yn unol â’r ddamcaniaeth hon, does dim ewyllys rydd gennych chi. Dydych chi ddim yn dewis afal, satsuma, gellygen, oren neu gnau pistachio o fowlen ffrwythau - roedd bob amser ym mynd i fod felly, o ddechrau’r bydysawd. Mae popeth y byddwch chi’n ei wneud  wedi ei osod ers adeg y glec fawr (big bang) a does dim y gallwch chi ei wneud am y peth.

Wrth gwrs, os ydych chi’n anghytuno, mae hynny oherwydd eich bod wedi eich rhaglennu o flaen llaw i wneud hynny.

Nid yw pob athronydd a gwyddonydd yn meddwl yn y ffordd hon. Mae meddylwyr mawr eraill, sydd yr un mor amlwg, yn credu mewn ewyllys rydd. Felly mae’n debyg mai’r cwestiwn pwysicaf yw  . . .   beth ydych chi’n ei feddwl?

Amser i feddwl

Beth ydych chi’n ei feddwl? Allwch chi wir wneud dewisiadau neu ai rhith yw ewyllys rydd?

Beth ydych chi’n ei feddwl o syniad yr Athro Strawson ei fod ef fel athronydd ddim yn meddwl bod y fath beth ag ewyllys rydd yn bosib, ond na all fyw mewn gwirionedd â’r ffaith hon o ddydd i ddydd? A yw’n bosib byw gyda chredoau dydych chi ddim yn byw trwyddyn nhw mewn bywyd o ddydd i ddydd? (Is it possible to livewithbeliefs that you do not livebyin everyday life?)

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon