Mae pobl Japan yn dathlu'r gwanwyn ym mis Chwefror
Meddwl am wahanol draddodiadau ynglyn â chroesawu’r gwanwyn.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Meddwl am wahanol draddodiadau ynglyn â chroesawu’r gwanwyn.
Paratoad a Deunyddiau
- Chwiliwch am ddelweddau o wyliau dathlu’r gwanwyn yn Japan.
- Nodwch, wrth i chi ddarllen y geiriau Japaneaidd sy’n dilyn yng Ngham 2, nad oes pwyslais ar unrhyw sill neilltuol, felly rhowch gynnig ar ynganu’r geiriau.
- Chwiliwch am y gerddoriaeth ‘The lark ascending’ gan Vaughan Williams neu’r ‘Gwanwyn’ o gerddoriaeth y Pedwar Tymor gan Vivaldi, a threfnwch fodd o chwarae’r gerddoriaeth rydych chi wedi ei dewis yn y gwasanaeth (dewisol).
Gwasanaeth
- Yn y wlad hon rydyn ni’n dathlu dechrau’r gwanwyn ar 21 Mawrth, ond nid yw pob gwlad yn dathlu’r un pryd. Yn Japan, yn ôl eu calendr lleuad yn y wlad honno, mae’r gwanwyn yn dechrau ar 3 neu 4 Chwefror bob blwyddyn.
- Mae ‘r dyddiad hwnnw’n cael ei ystyried fel cyfle i anfon allan ddrygioni’r flwyddyn flaenorol, a dechrau blwyddyn arall o’r newydd. Erlidir yr ysbrydion drwg i ffwrdd trwy daflu ffa soia o gwmpas y ty neu o gwmpas y temlau a’r allorau, gan siantio’r geiriau Japaneaidd, ‘Oni wa soto! Fuku wa uchi!’ Ystyr y geiriau yw, ‘Diafoliaid allan! Hapusrwydd i mewn!’ Ambell dro fe fydd aelod o’r teulu’n gwisgo mwgwd diafol a phawb yn taflu ffa soia ato ef neu hi.
- Yn y gorffennol, roedd yn arferiad gosod pen pysgod sardîn wrth ddrws y ty, gan y tybiai’r bobl y byddai’r arogl yn gyrru’r ysbrydion drwg i ffwrdd. Heddiw, mae rhai pobl yn defnyddio addurn ar ffurf pen pysgodyn, wedi ei wneud o bapur neu ddefnydd arall yn lle’r pen pysgodyn go iawn. Gwerthir ffa soia rhost a mygydau yn yr archfarchnadoedd a’r siopau ledled Japan. A bydd llawer o bobl Japan yn ymweld â’r temlau a’r allorau i nodi’r achlysur.
- Mae’r awydd i gadw ysbrydion drwg o’r cartrefi’n berthynol i’r gwahaniaeth a bwysleisir yn gyffredin yn Japan rhwng y cartref a’r tu allan. Bydd pobl Japan bob amser yn tynnu eu hesgidiau wrth fynd i mewn i dy rhywun, er mwyn cadw glanweithdra’r ty. Fe ydan nhw hefyd yn mynd i’r gawod cyn mynd i’r bath, er mwyn glanhau eu hunain cyn cymryd bath.
- Mae defodau o’r fath ynghylch glanhau a chreu purdeb yn gyffredin ledled y byd. Mae sawl gwareiddiad yn cynnal yr arfer o lanhau gwanwynol (Spring cleaning) er y gallai’r gwanwyn fod yn ystod ein hydref ni yn unol â pha hemisffer rydych chi’n digwydd bod ynddo ar y pryd!
- Caiff Cristnogion eu bedyddio i olchi ymaith eu pechodau blaenorol, ac mae llawer o Gristnogion yn cyffesu eu pechodau er mwyn glanhau eu heneidiau a derbyn maddeuant. Rhaid i Fwslimiaid ymolchi cyn gweddïo. Mae’r awydd i lanhau'r mannau rydyn ni ynddyn nhw, a glanhau ein cyrff, yn angen cyffredin ymysg bodau dynol, ond mae’r ffordd rydyn ni’n cynrychioli’r gweithredoedd hyn yn ein crefydd yn dangos amrywiaeth y gwahanol ddiwylliannau.
Amser i feddwl
Fe allai gweiddi ar ddiafoliaid a thaflu ffa soia atyn nhw ymddangos, i ni, yn rhywbeth rhyfedd i’w wneud. Ond treuliwch foment neu ddwy nawr yn meddwl am ba mor od y gallai rhai arferion Gorllewinol ymddangos i bobl o’r Dwyrain.
Tybed oes rhai arferion y byddwch chi’n cadw atyn nhw? Gall rhywbeth fel golchi dwylo, sydd wrth gwrs yn rhywbeth angenrheidiol mewn llawer achos, ddod yn fath o obsesiwn . . . allech chi feddwl am yr obsesiynau hyn fel diafoliaid, efallai, i’w hanfon allan trwy ‘weiddi’ arnyn nhw, yn eich meddwl?
Ambell dro, mae’n anodd i ni feddwl am y gwanwyn ym mis Chwefror, pan fydd hi’n dywyll a’r tywydd yn oer a gaeafol. Gall rhai arferion fynd yn ormesol hefyd, fel y tywydd ym mis Chwefror, os gwnawn ni adael iddyn nhw fod felly.
Treuliwch foment neu ddwy yn mwynhau meddwl am arwyddion y gwanwyn sydd eisoes yn dechrau dod i’r golwg o’n cwmpas - egin bylbiau’n dechrau gwthio trwy’r pridd, y blodau cynharaf yn dechrau agor - a meddyliwch gymaint gwell y byddai eich bywyd pe byddech chi ddim yn gwneud yr arferion bach od rheini y byddwch chi efallai’n eu gwneud, ac yn gallu eu halltudio fel y mae’r Japaneaid yn ei wneud gyda’r ysbrydion drwg.
Rydyn ni i gyd wrth ein bodd gydag addewid y gwanwyn. Gadewch i ni fwynhau gwrando ar ychydig o gerddoriaeth gyda’n gilydd a fydd yn ein rhoi mewn hwyliau gwanwynol.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir
‘The lark ascending’ gan Vaughan Williams neu ‘Spring’ o gerddoriaeth y Pedwar tymor gan Vivaldi