Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr anghenfil cariadus

Archwilio themâu Dydd Sant Ffolant.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio themâu Dydd Sant Ffolant.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r llyfr Love Monster gan Rachel Bright (HarperCollins, 2012).
  • Dewiswch gân bop sydd â thema cariad iddi, ac sy’n boblogaidd ar y pryd, a threfnwch fodd o chwarae hon ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Mae heddiw’n ddydd Sant Ffolant. Mae’n debyg fod pawb ohonoch yn gwybod hynny eisoes. Naill ai rydych chi wrth eich bodd eich bod wedi cael cerdyn neu anrheg hyd yn oed, gan rywun, ac fe allwch chi dreulio gweddill y diwrnod yn teimlo’n rhamantus oherwydd hynny, neu efallai eich bod yn casáu’r diwrnod ac yn ei weld fel menter fasnachol gan gwmnïau gwerthu cardiau a blodau er mwyn gwneud elw, neu’n ei weld fel diwrnod i wneud i’r rhai hynny sy’n sengl deimlo’n ynysig neu’n unig.

    Pa ffordd bynnag rydych chi’n teimlo ynghylch y diwrnod, heddiw fe hoffwn i chi edrych ar y stori am yLove Monsterac ar sut mae’r cymeriad sy’n cael ei ddisgrifio yn y llyfr yn meddwl na fyddai byth yn dod o hyd i gariad.

    DarllenwchLove Monstergan Rachel Bright.

  2. Gadewch i ni gofio bod yr hyn mae un person yn ei garu yn gallu bod yn wahanol i’r hyn y mae rhywun arall yn ei garu. Gall dewis y naill a’r llall fod yn wahanol iawn i’w gilydd, pa un a ydyn ni’n hoyw neu’n strêt, yn hoffi merched gwallt golau neu’n well ganddyn nhw ferched gwallt tywyll, yn well ganddyn nhw’r bechgyn neu’r merched drwg, neu’n fwy hoff o ‘geeks’.

    Yr hyn mae’rLove Monster yn ei ddweud yw does dim gwahaniaeth sut rydych chi’n edrych, na pa bryd y byddwch chi’n dod o hyd i gariad. Ond pan fyddwch chi’n gwneud hynny, fe fydd y person hwnnw’n gweld y tu hwnt i’r olwg allano ac yn gweld beth a phwy ydych chi mewn gwirionedd. Mae’r anghenfil yn y llyfr bron iawn â rhoi’r gorau i chwilio am gariad, ond mae cariad yn dod o hyd iddo ef.

  3. Fe allai nawr fod yn amser da i gofio bod cariad yn dod ar sawl ffurf. Fe all fod yn gariad rhiant tuag at blentyn, a chariad y plentyn at ei dad a’i fam. Fe all fod yn gariad rhwng brodyr a chwiorydd ( o ydych, rywle’n ddwfn ynoch chi, rydych chi yn caru eich brawd neu eich chwaer, mewn gwirionedd). A dyna’r cariad sydd rhwng gwr a gwraig neu bartneriaid mewn perthynas, a hefyd y cariad sydd rhwng ffrindiau. Mae’r holl wahanol fathau hyn o gariad yn dangos bod y gallu sy’n perthyn i fodau dynol i garu, ac i gael ein caru, yn amrywio ac mae gennym ni bob math o wahanol ffyrdd o ddangos hyn.

  4. Ar y Dydd Sant Ffolant hwn, gadewch i mi rannu llythyr â chi. Gobeithio, trwy gyfrwng ein stori heddiw, a’r llythyr hwn, y byddwch chi’n gweld waeth pa mor bell y mae cariad yn ymddangos, neu pa mor isel rydych chi’n teimlo oherwydd eich bod yn meddwl nad oes unrhyw un yn eich caru, pan fyddwch chi wir ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd, fe fydd cariad yn dod o hyd i chi.

    Roedd fy ngwr annwyl, John, a minnau wedi bod yn briod am 46 o flynyddoedd. Bob Dydd Sant Ffolant fe fyddai John yn anfon tusw o flodau hardd i mi a cherdyn gyda’r un geiriau syml arno bob tro: 'My love for you grows.'  Yn ystod ein bywyd priodasol fe gefais i gan John bedwar plentyn, 46 tusw o flodau, ac oes o gariad nes y bu farw ddwy flynedd yn ôl.

    Ddeg mis yn ddiweddarach, ar y Dydd Sant Ffolant cyntaf ar ôl i mi ei golli, fe gefais y fath sioc pan ddanfonwyd tusw hardd o flodau ataf yn union fel o’r blaen . . .oddi wrth John. Roeddwn yn teimlo’n drist iawn ac yn ddig hefyd mewn gwirionedd. Fe roddais ganiad i’r siop flodau er mwyn egluro eu bod wedi gwneud camgymeriad. Atebodd gwr y siop yn garedig, 'Na, wyddoch chi, dydyn ni ddim wedi gwneud camgymeriad. Pan oedd eich gwr yn fyw, fe dalodd ymlaen llaw am flynyddoedd eto, gan ofyn i ni sicrhau y byddech chi’n parhau i dderbyn tusw o flodau ar Ddydd Sant Ffolant.' Gyda dagrau yn fy llygaid fe roddais y ffôn i lawr a darllen y cerdyn oedd gyda’r blodau: 'My love for you is eternal.'

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am yr holl gariad sydd o’n cwmpas ym mhob man.
Diolch i ti am y gwahanol fathau o gariad rydyn ni’n ei brofi o ddydd i ddydd, a diolch am y ffordd y mae cariad yn effeithio arnom ni.
Gad i ni wybod, pan fyddwn ni’n teimlo efallai nad ydyn ni’n cael ein caru, y bydd cariad yn dod o hyd i ni, ac  y bydd dy gariad di tuag atom ni yn dragywydd.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

Chwaraewch y gân bop rydych chi wedi ei dewis, sydd â thema cariad iddi, ac sy’n boblogaidd ar y pryd.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon