Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cryfder

Archwilio’r cydsyniad o gryfder.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r cydsyniad o gryfder.

Paratoad a Deunyddiau

Fe fydd arnoch chi angen llun o we pry copyn.

Gwasanaeth

  1. Un diwrnod roeddwn i’n edrych ar we pry copyn oedd wedi cael ei greu dros nos ar ffenestr fy nghegin, ac fe wnaeth i mi feddwl am sut byddwn ni’n aml ddim yn sylweddoli pa mor gryf yw rhai pethau.

    Mae gwe pry copyn yn rhywbeth sy’n hynod o fregus, yn rhywbeth y gallwch chi ei ysgubo ymaith mewn amrantiad, ond eto mae hefyd yn hynod o gryf. Wrth gymharu, o ran pwysau, mae sidan gwe pry copyn yn gryfach na dur, ond am ei fod yn edrych mor fregus fyddwn ni ddim yn meddwl amdano fel rhywbeth cryf.

  2. Fe wnaeth hyn i mi feddwl wedyn am adegau pan mae angen i ni fod yn gryf, ac fel mae’r adegau hynny’n gallu dod i’n rhan ni pan fyddwn ni ein hunain yn teimlo fwyaf bregus. Dywedodd Eleanor Roosevelt un tro:

    We gain strength, and courage, and confidence by each experience in which we really stop to look fear in the face  . . .  we must do that which we think we cannot.

    (Rydyn ni’n ennill cryfder, a dewrder, a hyder trwy bob profiad a gawn pan fyddwn ni o ddifri yn gorfod aros ac wynebu ofn  . . .  a ninnau’n gorfod gwneud y peth rydyn ni’n meddwl na allwn ni ei wneud.)

    Yr hyn roedd hi’n ei ddweud oedd, pan fyddwn ni’n teimlo na allwn ni wneud rhywbeth, dyna pryd y byddwn ni o ddifri yn ennill cryfder o’r profiad ar ôl i ni wneud y peth hwnnw. Fe fyddwn ni’n edrych yn ôl ac yn teimlo’n falch ein bod wedi llwyddo i wneud rhywbeth doedden ni ddim yn meddwl y gallen ni ei wneud.

  3. Yn aml, mae cryfder felly’n dod o’r tu mewn i ni. Er enghraifft, mab neu ferch yn gallu cerdded allan o sefyllfa lle mae rhiant yn ymddwyn yn gamdriniol, neu rywun yn gallu sefyll o flaen ystafell lawn pobl i roi cyflwyniad er bod ganddo ef neu hi atal dweud – gall hyd yn oed dim ond dweud ‘Helo’ wrth rywun dydych chi ddim yn ei adnabod fod yn anodd.

  4. Felly, y tro nesaf y byddwch yn teimlo nad oes gennych chi lawer o gryfder, meddyliwch am y gwe pry copyn – mae’n ymddangos mor fregus a hawdd ei dorri, ond mae’n perthyn iddo gryfder anhygoel, ac mae hynny’n wir amdanoch chithau hefyd. Chwiliwch am y cryfder o’ch mewn er mwyn ceisio gwneud rhywbeth newydd, neu hyd yn oed er mwyn gwneud rhywbeth rydych chi wedi bod yn meddwl ei fod yn amhosibl ei wneud.

Amser i feddwl

Dangoswch y llun o’r gwe pry copyn.

Gadewch i ni dreulio moment neu ddwy yn meddwl am y gwe pry copyn hwn.

Pa mor hir y bu’r pry copyn wrthi’n ei wau?

Pa mor gryf ydyw?

Pa mor hanfodol yw’r gwe pry copyn iddo er mwyn ei fodolaeth?

Beth sy’n berthnasol i’ch bywyd chi sy’n debyg i’r gwe pry copyn? Cariad tuag at deulu a ffrindiau? Perthnasoedd? Addysg?

Nawr, meddyliwch am y pethau y bydd yn rhaid i chi eu gwneud heddiw y bydd angen i chi fod yn gryf i’w cyflawni  . . .

Dechreuwch wau eich gwe chi eich hunan i’ch cynnal wrth i chi wneud y pethau hynny.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon