Ble yn y byd?
Archwilio safbwyntiau’r myfyrwyr ar fyd ehangach.
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Archwilio safbwyntiau’r myfyrwyr ar fyd ehangach.
Paratoad a Deunyddiau
- Bydd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn cael eu cynnal yn Sochi, yn Rwsia (mae clip fideo defnyddiol 60 eiliad, sy’n dangos y man lle mae’r gemau’n cael eu cynnal yn Sochi, y gallech chi ei ddangos yng Ngham 2 yn y gwasanaeth, i’w gael ar: www.bbc.co.uk/sport/0/winter-olympics/24728307). Y syniad yw y byddai’r myfyrwyr, trwy drafod y gemau, yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol o’r byd y tu hwnt i Brydain a datblygu mwy o synnwyr am y byd.
- Fe fydd arnoch chi angen paratoi tri darllenydd.
- Hefyd , trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘Reach for the top’ gan Jeff Durand (cerddoriaeth thema ar gyfer Sochi 2014) a threfnwch fodd o chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Arweinydd Pe byddwn yn gofyn unrhyw gwestiwn i chi am Gemau Olympaidd yr Haf, Llundain 2012, o bosib byddech yn gallu rhoi'r ateb i mi. Eisoes, mae'n rhan arbennig o'n hanes. Bu llawer ohonom yn dyst i rannau ohonyn nhw, boed hynny yn seremonïau trosglwyddo’r ffagl, cystadlaethau neu ddathliadau i nodi dyfodiad adref enillwyr medalau i dref gerllaw, neu efallai fod yn ddigon lwcus i fod yn bresennol yn un o'r digwyddiadau. Tybed, fodd bynnag, faint o'r cwestiynau canlynol allech chi eu hateb.
- Ymhle mae Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn cael eu cynnal?
- Beth sy'n anghyffredin am y lleoliad hwn?
- Pa ddefnydd fydd i'r lleoliad pan fydd y Gemau Olympaidd wedi dod i ben?
Saib.
- Dyma rai pobl fydd yn gallu rhoi'r ateb cywir i ni.
Darllenydd 1Bydd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn digwydd rhwng 7 a 23 Chwefror yn ninas Sochi, ar arfordir Rwsia o'r Môr Du.
Darllenydd 2Sochi yw'r lleoliad cynhesaf erioed i westya Gemau Olympaidd y Gaeaf. Oherwydd ei fod wedi ei leoli ar yr arfordir, cyfartaledd y tymheredd ym mis Chwefror yw 8 gradd. Bydd Sglefrio iâ, Hoci Iâ a Chyrlio yn cael eu cynnal mewn arenâu dan do sydd wedi cael eu hadeiladu’n arbennig. Bydd cystadlaethau sgïo a sledio yn gorfod cael eu cynnal yn fewndirol, i ffwrdd o'r prif leoliad, yn y mynydd-dir sydd o amgylch.
Darllenydd 3Unwaith y bydd y Gemau drosodd, bydd Sochi yn datblygu cylchffordd rasio Fformiwla 1 trwy strydoedd y ddinas. Bydd Grand Prix Rwsia yn cael ei gynnal yno am nifer o flynyddoedd.
Efallai y byddwch yn awyddus ar y pwynt hwn i ddangos y wibdaith 60-eiliad o'r lleoliad.
- Arweinydd Rydym yn gwybod cymaint am yr hyn sy'n digwydd ar stepen ein drws, eto cyn lleied am y byd eang. Mae rhai yn dweud ei fod yn nodwedd o'r cymeriad Prydeinig, eto mae yno bobl ifanc fel chi, yn Sochi a gweddill Rwsia sydd yn gyffrous iawn ynghylch Gemau Olympaidd y Gaeaf. Ar hyn o bryd fe fyddan nhw’n craffu ar restr y cystadleuwyr, yn neilltuol gyda chwaraeon fel hoci iâ a sgïo lawr y llethrau, gan feddwl pwy fydd yn ennill y medalau. Yn union fel y buoch chi'n ymwneud â digwyddiadau Gemau Llundain 2012, maen nhw'n ymwneud â'r paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf.
Wrth sôn am gystadleuwyr, pa siawns sydd gennym ni o ennill medalau yn Sochi? Allwch chi enwi unrhyw fabolgampwyr Prydeinig fydd yn cymryd rhan?
Saib.
Dyma rai i chi edrych amdanyn nhw.
Darllenydd 1 Mae Katie Summerhayes a James Woods yn rhan o'r sgïo dull rhydd - camp gyffrous iawn i edrych arno. Mae'n debyg iawn i sgrialfyrddio ar eira.
Darllenydd 2 Wrth sôn am fyrddio, mae siawns dda iawn gan Jenny Jones a Billy Morgan gyda'r sgrialfyrddio ar eira, fel y mae gan Elise Christie yn y campau sglefrio cyflym ar lwybrau byr.
Darllenydd 3 Mae gennym ni dimau aruchel hefyd. Mae ein dynion a'n merched gyda siawns o ragori yn y campau cyrlio.
Amser i feddwl
Arweinydd Mae yna lawer o rai eraill hefyd y byddai'n werth i ni eu gwylio. Mae timau bob-sledio (bobsleigh) y dynion mewn safle da ar hyn o bryd ac o bosib bydd ein siawns gorau yn dod yn y gystadleuaeth bob-sgerbwd (skeleton bob) gyda phencampwraig y byd Shelley Rudman a'r cyn-bentathletwraig Lizzy Yarnold.
Allwch chi deimlo ychydig o gyffro'n cydio ynoch chi? Rwy'n gobeithio hynny, nid yn unig oherwydd y gallem ennill rhywbeth ond hefyd oherwydd ei bod hi'n bwysig i ni ddatblygu ein hymwybyddiaeth o'r hyn sy'n cyffroi pobl ym mhedwar ban y byd. Pan fyddwn yn rhannu diddordeb, yna byddwn yn dechrau tyfu ar y cyd fel pobl. Efallai ein bod yn byw filoedd o filltiroedd i ffwrdd ond gall Gemau Olympaidd y Gaeaf ein dwyn ynghyd.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am gyffro cystadlaethau chwaraeon.
Diolch i ti am y modd y mae chwaraeon yn dwyn ynghyd gystadleuwyr a gwylwyr o wahanol wledydd.
Boed i ni rannu brwdfrydedd ein gilydd ac ehangu ein safbwyntiau am bobl y byd.
Amen.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir
‘Reach for the top’ gan Jeff Durand (cerddoriaeth thema ar gyfer Sochi 2014)