Y bluen wen
Heddychwyr, gwrthwynebwyr cydwybodol a’r Rhyfel Byd Cyntaf
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodwch
Bydd 4 Awst 2014 yn nodi canmlwyddiant bod Prydain wedi ymuno â'r Rhyfel Byd Cyntaf. Er mwyn cyflwyno myfyrwyr i'r themâu allweddol a materion o gylch y digwyddiad hwn a'r canmlwyddiannau a fydd yn cael eu nodi dros y pedair blynedd nesaf, yr ydym yn darparu cyfres o sgriptiau ar gyfer gwasanaethau. Nid yw'r rhain mewn trefn gronolegol felly mae modd i chi eu defnyddio mewn unrhyw drefn.
Nodau / Amcanion
Archwilio dealltwriaeth y myfyrwyr o syniadau heddychol.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen paratoi tri darllenydd.
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘War’ gan Edwin Starr a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
Arweinydd Gan mlynedd yn ôl o eleni fe ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Saib.
A fyddech chi'n gwirfoddoli i ymladd mewn rhyfel?
Saib.
Roedd llawer o ddynion ifanc yn awyddus i wneud hynny yn y flwyddyn 1914. Roedden nhw'n gweld y rhyfel fel antur gyffrous, yn gyfle i deithio dramor a gorchfygu Kaiser Bill, gelyn eu Brenin a'u gwlad.
Cafodd y dynion ifanc a wrthododd wirfoddoli, fodd bynnag, eu galw'n llwfrgwn a rhoddwyd arnyn nhw’r symbol o lwfrdra, sef pluen wen, ac fe ddaethon nhw’n wrthrychau i'w difrïo ac i’w fandaleiddio.
Pam y gwnaethon nhw wrthod gwirfoddoli?
Darllenydd 1 Nid oedd rhai pobl yn edrych ar yr Almaen fel gelyn mewn unrhyw fodd. Yn wleidyddol, roedden nhw'n gweld yr Almaen fel rhan werthfawr o Ewrop, yn wlad gyda llawer o ddyheadau tebyg i Brydain ganddi. Roedden nhw'n teimlo y byddai'n llawer mwy cynhyrchiol i gynnal trafodaethau gyda llywodraeth yr Almaen er mwyn ceisio dod o hyd i ffordd ymarferol o ddatrys problem ddryslyd ac anniben.
Darllenydd 2 Roedd gan eraill wrthwynebiadau crefyddol yn erbyn rhyfela. Roedd Cristnogion yn credu bod Duw wedi eu dysgu i beidio â lladd yn y Deg Gorchymyn a roddwyd i Moses, ac roedd Iesu wedi dweud wrth ei ddilynwyr am garu eu gelynion a bod yn dda wrth y rhai oedd yn ceisio gwneud niwed iddyn nhw. Byddai gwirfoddoli i fynd i ymladd yn sicr yn groes i'w cred grefyddol, felly doedden nhw ddim yn barod i wneud hynny.
Darllenydd 3 Roedd eraill yn edrych ar ryfel fel ffordd aneffeithiol a dinistriol i benderfynu ar wahaniaethau rhwng gwledydd. Roedden nhw'n gwrthwynebu rhyfel am resymau athronyddol. Doedd rhyfel, iddyn nhw, byth yn datrys unrhyw beth ac roedd y sefyllfa, o ganlyniad, yn waeth ar derfyn yr ymladd na’r sefyllfa a oedd yn bodoli cyn i’r rhyfel ddechrau.
Arweinydd Yr enw ar y bobl oedd yn gwrthod ymladd oedd heddychwyr.
Os byddech chi'n gallu dioddef y casineb yn eich erbyn, roedd yn weddol hawdd aros yn heddychwr tan ddiwedd y flwyddyn 1915. Yna fe newidiodd bethau.
Oherwydd y colledion bywyd enfawr yn ystod y brwydrau cynnar, fe ddaeth yn orfodol i'r Fyddin Brydeinig gael hyd i ffyrdd amgenach o recriwtio milwyr i gymryd lle'r rhai oedd wedi eu lladd. Yn fuan yn y flwyddyn 1916, fe ddaeth consgripsiwn i fodolaeth. Roedd yr orfodaeth filwrol hon yn golygu bod gwasanaeth milwrol yn orfodol i bob dyn ifanc rhwng 18 a 41mlwydd oed, oni bai eu bod yn anghymwys ar sail feddygol, yn glerigwyr ac athrawon, yn dal swyddi neilltuol mewn diwydiant, neu'n wrthwynebwyr cydwybodol. Bellach nid oedd unrhyw ddewis.
Gorfodwyd i heddychwyr ymddangos gerbron panel tribiwnlys fel gwrthwynebwyr cydwybodol. Y panel oedd yn penderfynu pa mor ddifrifol oedd eu gwrthwynebiadau. Roedd y panel yn aml heb unrhyw gydymdeimlad, a dim ond ychydig o heddychwyr gafodd yr hawl i gael eu heithrio rhag consgripsiwn. Gorfodwyd llawer ohonyn nhw i ymuno â'r Fyddin. Pe bydden nhw'n gwrthod ufuddhau i orchmynion, roedden nhw'n gorfod wynebu'r llys milwrol ac yn cael eu rhoi mewn carchar, ble roedden nhw'n aml yn dioddef triniaeth lem iawn. Nid peth hawdd oedd datgan eich bod yn heddychwr. Roedd angen dewrder ar y dynion hynny a oedd yn barod i sefyll yn gadarn dros yr hyn yr oedden nhw'n credu ynddo. Hon oedd ochr gudd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Darllenydd 1 Fe gymerodd rhai heddychwyr, fodd bynnag, ffordd ymarferol o ymwneud â'u cyfyng-gyngor. Fe ffurfiodd grwp o Grynwyr Cristnogol Uned Ambiwlans y Cyfeillion, sef tîm meddygol a oedd yn mynd ar faes y gad ac yn gofalu am y rhai oedd wedi cael eu hanafu ar y naill ochr a'r llall. Roedden nhw'n credu bod milwyr yr Almaen yn haeddu'r un gofal â milwyr y Cynghreiriaid oedd wedi eu hanafu. Yn aml roedd yr agwedd hon yn eu gwneud yn amhoblogaidd iawn yn y ffosydd.
Darllenydd 2 Fe dderbyniodd heddychwyr eraill yr orfodaeth filwrol i ymuno â'r Fyddin, ond roedden nhw'n mynnu cael rôl nad oedd yn golygu eu bod yn gorfod ymladd. Doedden nhw ddim yn ymladd, ond fe fydden nhw'n fodlon coginio, gyrru cerbydau, adeiladu, glanhau, cludo - unrhyw swydd nad oedd angen iddyn nhw gael eu hyfforddi i ladd.
Amser i feddwl
Arweinydd Gadewch i ni ddychwelyd at fy nghwestiwn gwreiddiol: a fyddech chi'n gwirfoddoli i ymladd mewn rhyfel? Heddiw, gwirfoddolwyr yn unig sy'n rhan o'r Fyddin, y Llynges a'r Awyrlu Prydeinig. Bydd rhai ohonoch a fydd yn penderfynu fod hyn yn opsiwn gyrfa dda.
I'r rhan fwyaf ohonoch nid yw hyn yn opsiwn y byddech yn ei ystyried. Mae'n benderfyniad hawdd i chi ei wneud yn y byd sydd ohoni heddiw gan nad oes yna bwysau, dim rhagfarn, dim difrïo, dim pluen wen. Er hynny, wrth i ni gofio am yr heddychwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd yn barod i ddioddef dros yr hyn yr oedden nhw'n credu ynddo, mae'n ymarfer defnyddiol i ganfod yr hyn yr ydym ni'n credu ynddo a sut y byddem yn debygol o weithredu pe byddai'r cwestiwn yn cael ei osod i ni a ninnau’n teimlo na fyddai gennym ddewis.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y rhyddid sy'n bodoli yn y wlad hon.
Diolch i ti ein bod yn gallu gwneud ein penderfyniadau ein hunain wedi eu seilio ar yr hyn a gredwn.
Boed i ni wneud y cyfan a allwn i feddwl am ein hagweddau tuag at hyn a chwestiynau pwysig eraill.
Amen.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir
‘War’ gan Edwin Starr