Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Grawys

Myfyrio ar yr arfer o ymatal rhag gwneud rhywbeth neilltuol yn ystod y Grawys.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar yr arfer o ymatal rhag gwneud rhywbeth neilltuol yn ystod y Grawys.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi plant i ddarllen y gerdd ‘Ymatal’ yn y gwasanaeth (gwelwch Cam 3). Fe allech chi ddefnyddio 2, 6, neu hyd yn oed 12 myfyriwr i wneud hyn.
  • Trefnwch i arddangos y gerdd ar fwrdd gwyn yn ystod y cyfnod ‘Amser i feddwl’ tua diwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Yng Nghalendr yr Eglwys, y Grawys yw’r cyfnod o 40 diwrnod cyn y Pasg. Dyma gyfnod i Gristnogion aros a meddwl am agweddau eu calon, am eu blaenoriaethau, ac am eu bywyd ysbrydol, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y Pasg. Mae gwasanaethau arbennig yn cael eu cynnal yn yr eglwys yn ystod cyfnos y Grawys, gydag adegau neilltuol o weddi a darlleniadau arbennig o’r Beibl.

    Yn yr Eglwys Fore, roedd hefyd ddeddfau caeth i’w dilyn adeg y Grawys i helpu gyda’r ‘glanhau gwanwynol ysbrydol’ hwn. Awgrymwyd y byddai ymatal rhag bwyta cig ac unrhyw gynnyrch anifeiliaid yn ddisgyblaeth ddefnyddiol i’w harfer ar yr adeg hon. Y cyfan yr oedd ar y corff ei angen oedd pryd bwyd syml iawn gyda’r nos.

    Y dyddiau hyn, mae llawer o Gristnogion yn parhau i ystyried ei fod yn beth defnyddiol ymatal rhag gwneud rhywbeth neilltuol yn ystod cyfnod y Grawys er mwyn cofio am yr aberth a wnaeth Iesu, ac am y temtasiynau y bu’n rhaid iddo eu gwrthsefyll yn ystod yr amser yr oedd yn yr anialwch yn myfyrio ar y pethau pwysig mewn bywyd. Mae llawer o bobl; yn rhoi’r gorau i fwyta siocledi neu fisgedi, neu’n rhoi’r gorau i wylio teledu neu chwarae gemau cyfrifiadurol am y cyfnod. Fe fydd rhai eraill yn ceisio rhoi mwy o amser yn ystod y dydd i feddwl am Dduw a gweddïo.

  2. Dyma’r adeg ar y flwyddyn y bydd y rhan fwyaf ohonom yn meddwl am lanhau ein cartrefi – y ‘glanhau gwanwynol’ (spring cleaning).Mae hyn wedi dod i olygu glanhau’r ty’n llwyr o’r top i’r gwaelod, o dan y gwelyau, ar ben y cypyrddau, pob un o’r llenni, a hyd yn oed y carpedi, a thaflu allan unrhyw lanast does dim ei angen. Mae pawb eisiau cael gwared â’r llwch a’r llanast oedd prin yn cael ei gyffwrdd yn ystod misoedd oer y gaeaf!

  3. Fe allai’r tymor Grawys hwn fod yn amser da i ni i gyd geisio ‘glanhau’ ein bywyd. Efallai bod rhai agweddau y gallen ni eu brwsio, arferion sydd angen eu golchi, neu ymddygiad y gallen ni ei droi heibio.

    Nawr, fe wnawn ni wrando ar gerdd a fydd yn ein helpu i ystyried rhai o’r pethau yr hoffen ni fynd i’r afael â nhw.

    Ymatal

    Heddiw, fe wna i ymatal rhag grwgnach a chwyno,
    Yn lle hynny, fe fyddaf yn ddiolchgar am yr holl bethau sydd gen i.

    Heddiw, fe wna roi’r gorau i bryderu am yr adegau ‘petawn i ddim wedi ...’ neu ‘petai ond ...’ rheini yn fy mywyd,
    Yn lle hynny, fe wna i ymddiried yn Nuw gan wybod ei fod yn gofalu amdanaf.

    Heddiw, wna i ddim bod yn feirniadol o’r rhai o’m cwmpas,
    Yn lle hynny, fe gymeraf olwg fanwl ar fy ngwendidau fy hun.

    Heddiw, wna i ddim defnyddio’r geiriau ‘Dwi’n bored!’
    Yn lle hynny, fe ddiolchaf am ddeallusrwydd, am addysg, ac am bob cyfle a gaf i ddysgu.

    Heddiw, fe wna i ymatal rhag siarad yn gas ac yn negyddol,
    Yn lle hynny, fe wna i ymdrech i ddefnyddio geiriau cadarnhaol a bod yn un sy’n annog pobl eraill.

    Heddiw, fe wna i ymatal rhag defnyddio fy ffôn symudol, fy nghyfrifiadur, fy chwaraeydd DVD, rhag e-bostio na thecstio,
    Yn lle hynny, fe wna i ymarfer y ddawn o sgwrsio gydag aelodau fy nheulu a chyda fy ffrindiau,
    . . .  neu efallai y gwna i fwyta siocled!

Amser i feddwl

Dangoswch y gerdd ‘Ymatal’ ar fwrdd gwyn.

Wnaeth unrhyw rai o’r pethau hyn ‘ganu cloch’ yn eich achos chi?

Ydych chi’n barod i wneud unrhyw newidiadau? Cofiwch mai dim ond chi all newid chi eich hunan!

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n nesu at adeg y Pasg, adeg y byddwn ni’n clywed eto am yr holl bethau y gwnaeth Iesu ymatal rhag eu gwneud, a’r hyn a wnaeth drosom ni.
Helpa ni i dreulio amser yn ystyried sut rydyn ni eisiau byw ein bywydau ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon