Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Creu Hanes

Cofio am brawf y bom hydrogen gyntaf a ollyngwyd o’r awyr (1 Mawrth 1954)

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Chwe deg mlynedd yn ddiweddarach, archwilio hanes y prawf ar y bom hydrogen gyntaf a ollyngwyd o’r awyr (1 March 1954).

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch luniau o’r digwyddiad hwn, a threfnwch fodd o’u dangos yn ystod y gwasanaeth, gan gynnwys map yn dangos ble mae Cylchynys Bikini (gwiriwch yr hawlfraint).
  • Chwiliwch am recordiad o’r gân ‘Russians’ gan Sting, a threfnwch fodd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

  1. Ar 1 Mawrth 1954, fe weithredodd yr Unol Daleithiau brawf ar y bom hydrogen gyntaf o'r awyr ar Gylchynys Bikini yn Ynysoedd Marshall.  Hwn oedd prawf cyntaf 'Operation Castle' - ymgais i greu bom hydrogen ddefnyddiol a fyddai'n gallu cael ei gollwng o awyren ar Rwsia a'i chynghreiriaid.

  2. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, roedd y tyndra rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn cynyddu. Roedd yr Unol Daleithiau, hyd at 1949, yr unig bwer niwclear yn y byd, ac roedd yn awyddus i ddatblygu ei thechnoleg newydd. Tra roedd rhai â diddordeb ym mantais filwrol yr arfau nerthol newydd hyn, roedd eraill yn credu bod yr ataliad anferthol a oedd yn cael ei gynnig gan y bom atomig yn mynd i roi stop ar unrhyw ryfeloedd yn y dyfodol. Pa ochr bynnag i'r ddadl yr ydych chi’n ei chefnogi, mae elfennau o wir greulondeb a thristwch yn rhan o hanes y profion ar y bomiau atomig yng Nghylchynys Bikini.

  3. Roedd lleoliad arunig Cylchynys Bikini yn ei gwneud yn safle delfrydol ar gyfer profion niwclear wedi eu lleoli yn y cefnfor ac, ym mis Chwefror 1946, fe ail-gartrefwyd y boblogaeth fach oedd yn byw ar Gylchynys Bikini ar gylchynys anghyfannedd o’r enw Cylchynys Rongerik, 125 milltir i ffwrdd. Roedd Cylchynys Rongerik wedi cael ei gadael yn anghyfannedd gan yr ynyswyr oherwydd bod yno ddiffyg bwyd a chyflenwadau dwr gwael.

  4. Unwaith yr oedd Cylchynys Bikini wedi cael ei chlirio o bobl, fe ddechreuodd gwasanaethau milwrol yr Unol Daleithiau brofi arfau atomig ar y safle. Canlyniad cyfres o daniadau niwclear, yn profi gwahanol arfau dan wahanol amodau, oedd llygru dwr yr ynys. Nid yw'n bosib ffarmio na physgota ar y gylchynys hyd heddiw. Ymdrechwyd i amddiffyn staff y profion rhag salwch ymbelydrol, ond, cafodd eu disgwyliad oes ei leihau ar gyfartaledd tua thri mis.

  5. Erbyn 1948, roedd amodau byw ar Gylchynys Rongerik wedi methu'n llwyr. Roedd yr ychydig bysgod oedd ar ôl wedi eu llygru gan y profion niwclear. Yn y pen draw, cafodd y boblogaeth ei symud unwaith yn rhagor i Ynys Kili, un o ynysoedd lleiaf o'r Ynysoedd Marshall. Eto nid oedd digon o fwyd ar Kili i ddarparu ar gyfer yr ynyswyr.

  6. Fe achosodd taniad Operation Castle yn y flwyddyn 1954 - a enwyd Castle Bravo - ffrwydriad llawer mwy na'r hyn a oedd wedi ei gynllunio. Roedd hyn oherwydd gwall cynllunio gafodd ei gymhlethu gan wyntoedd cryfion a ffactorau eraill. Cafodd crater enfawr ei greu gan y ffrwydrad, a oedd 1,000 gwaith yn fwy nerthol na'r bom a ollyngwyd ar Siapian ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Fe lygrodd yr alldafliad ymbelydrol o Castle Bravo lawer o ynysoedd eraill yn yr ardal. O ganlyniad, fe orfodwyd i'r bobl a oedd yn byw yno i adael eu hynysoedd.

  7. Yn y flwyddyn 1972, fe geisiodd grwp o bobl ddychwelyd i Gylchynys Bikini, ond fe wnaethon nhw ddioddef effeithiau ofnadwy salwch ymbelydrol. Dioddefodd y mamau beichiog erthyliadau, neu roedd eu babanod yn cael eu geni ag abnormaleddau difrifol. Roedd llawer o gyflenwad bwyd yr ynys yn anfwytadwy. Yn y flwyddyn 1978, cafodd yr ynyswyr eu hanfon oddi yno am yr eildro, yn ôl i Ynys Kili.

Amser i feddwl

Heddiw, mae 600 o breswylwyr ar Kili. Mae'r ynyswyr yn cael eu cefnogi gan ymddiriedolaeth, ond mae llawer o'u ffordd draddodiadol o fyw wedi cael ei difetha. Dydyn nhw ddim bellach yn gallu pysgota, ac mae eu tai traddodiadol wedi eu hamnewid ag adeiladau concrid. Yn y flwyddyn 2001, fe ddyfarnodd Tribiwnlys Hawliau Niwclear dros  $500 million mewn iawndal i'r ynyswyr, ond nid yw'r arian wedi ei dalu hyd yn hyn.

Mae stori drist Cylchynys Bikini yn dangos pa mor ddinistriol yw grym rhyfela modern. Doedd yr ynyswyr ddim wedi datgan rhyfel ar unrhyw un, eto i gyd fe wnaethon nhw golli eu cartrefi a'u traddodiadau. Dioddefwyr diniwed ydyn nhw o ganlyniad i'r ymrafael rhwng dwy wlad fwy pwerus.

Heddiw, wrth i ni gofio am y stori drychinebus hon, rydym yn myfyrio ar y rhyfeloedd sy'n bodoli wrth i ni eistedd yma  - (enwch rhai rhyfeloedd). Er nad yw'r rhain mor ddinistriol ag arbrawf Castle Bravo, mae miliynau o ffoaduriaid yn ymdrechu i fyw gyda chefnlen o ryfel nad ydyn nhw ei heisiau, nag sydd â dim i'w wneud â nhw.

Gadewch i ni feddwl am bawb sy'n dioddef o ganlyniad i weithredoedd eraill sydd wedi creu rhyfeloedd heddiw a gadewch i ni weddïo'n dawel am heddwch yn ein hamser a chyfiawnder i ddioddefwyr rhyfel.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Russians’ gan Sting

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon