Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cymynrodd Nelson Mandela

Diwrnod Sharpeville (21 Mawrth)

gan Sharpeville Day (21 March)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio’r thema o faddeuant a gobaith, sy’n ganolog i gymynrodd Nelson Mandela.

Paratoad a Deunyddiau

Does dim gwaith paratoi na chaglu deunyddiau, ond mae amrywiol ganeuon yn ymwneud â Nelson Mandela y gallech chi chwarae recordiad ohonyn nhw ar ddechrau’r gwasanaeth (mae rhai enghreifftiau’n cael eu cynnig ar y wefan: www.thenation.com/blog/175037/top-ten-songs-about-nelson-mandela#).

Gwasanaeth

  1. Mae llawer o deyrngedau wedi cael eu talu yn y misoedd diwethaf i Nelson Mandela –a’r rheini’n aml yn canolbwyntio’n neilltuol ar ei rôl fel symbol o faddeuant a chymod yn y cyfnod ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar. Er hynny, does dim cymaint o sylw wedi cael ei roi i’r digwyddiadau cynharach yn hanes De Affrica a chreulonder y drefn apartheid. Dim ond pan fyddwn wedi deall yn llawn beth yn union oedd wedi digwydd i’r bobl ddu yn Ne Affrica yn y gorffennol y gallwn ni werthfawrogi’n llawn pa mor hynod oedd agwedd Mandela tuag at faddeuant.

  2. Fe ddigwyddodd un o’r digwyddiadau mwyaf gwarthus yn hanes De Affrica ar 21 Mawrth 1960.  Ar y diwrnod hwnnw, roedd protestwyr wedi ymgynnull y tu allan i orsaf heddlu mewn trefedigaeth o’r enw Sharpeville i brotestio yn erbyn y deddfau trwydded (pass laws), a oedd yn rhwystro symudiadau pobl ddu De Affrica. Er bod y dorf yn heddychol, a heb fod yn cario arfau, fe drodd yr heddlu arnyn nhw a thanio’u gynau. Cafodd o leiaf 69 o bobl eu lladd, llawer ohonyn nhw wedi eu saethu yn eu cefnau wrth iddyn nhw geisio ffoi.

  3. O fewn y gymuned ryngwladol, roedd pobl yn ddig iawn ac wedi eu cythruddo oherwydd gweithredoedd awdurdodau De Affrica. Arweiniodd cyflafan Sharpeville at foicot rhyngwladol ar Dde Affrica – gyda sawl gwlad yn gwrthod masnachu â De Affrica na chynnal chwaraeon gyda thimau’r wlad, nes deuai polisi’r apartheid i ben. Yn wir, mae’r dyddiad 21 Mawrth yn cael ei nodi nawr gan y Cenhedloedd Unedig hefyd fel Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu Hiliol.

  4. Ar y pryd yn Ne Affrica, fe ddwysaodd y rhaniadau a’r gwrthdaro chwerw rhwng y bobl ddu a’r bobl wyn – ac yn anffodus, fe waethygodd y sefyllfa yn y degawdau canlynol. Dim ond pan ryddhawyd Mandela o’r carchar ar 11 Chwefror 1990 y dechreuodd pobl De Affrica siarad o ddifri am heddwch a chymod.

  5. Pan ddaeth Nelson Mandela allan i oleuni disglair haul De Affrica ar y diwrnod hwnnw yn Chwefror, yn ddyn rhydd am y tro cyntaf ers 27 mlynedd, roedd rhywbeth hynod am ei edrychiad. Dyna’r dwrn caeedig a oedd yn barod i frwydro, y penderfyniad i wrthod dioddef gorthrwm, ond er hynny, roedd yr olwg o gariad a maddeuant yn nodedig yn ei lygaid.

    Hyd yn oed yn y momentau cyntaf rheini y tu allan i’r carchar, fe welsom yr hyn oedd i ddod yn ddiweddarach yn ddilysnod diffiniedig o agwedd Mandela am yr 20 mlynedd ganlynol - ei ddynoliaeth gynnes a’i drugaredd i’w gweld yn amlwg yn ei wên ac yn ei addfwynder ac yn urddas ei ymarweddiad.

  6. Mae’r storïau a oedd i gael eu rhyddhau am hanes ei gyfnod yn y carchar wedi bod yn gyfrwng wedyn i gadarnhau’r ddelwedd o Mandela fel dyn oedd â’r gallu anhygoel i ragori ar y rhaniadau sy’n ein diffinio ac yn ein cadw ar wahân. Storïau oedd y rhain am Nelson Mandela’n dod yn gyfaill i geidwaid hiliol y carchar ac yn eu hennill i ddeall ei achos trwy ei garedigrwydd a’i drugaredd.

    Un o’r delweddau mwyaf eiconig o Mandela yw’r un ohono’n gwisgo crys rygbi’r Springboks yn cyflwyno Cwpan y Byd i gapten tîm De Affrica, Francois Pienaar, yn 1995. Y pwynt yw, i bobl ddu De Affrica, roedd tîm rygbi’r Springboks yn gyfystyr â’r system apartheid, gyda’r bobl oedd yn gyfrifol am gyflafan Sharpeville a sawl achos erchyll arall. Felly, roedd gweld Mandela, fel arlywydd du cyntaf De Affrica, yn gwisgo crys y Springboks yn fynegiant cryf iawn o faddeuant ac yn arwydd o symud ymlaen oddi wrth y gorffennol.

  7. Ar 10 Rhagfyr 1996, fel Arlywydd, fe ddewisodd Mandela drefedigaeth Sharpeville fel y lle y byddai’n arwyddo cyfansoddiad newydd De Affrica, cyfansoddiad a fyddai’n sicrhau cydraddoldeb urddas a hawliau dynol i bob un yn Ne Affrica, waeth beth fyddai lliw ei groen. Roedd llawer yn ofni y byddai digwyddiadau tebyg i’r hyn a ddigwyddodd yn Sharpeville yn digwydd eto, a chamdriniaeth o’r hawliau dynol yn arwain at ddial a thywallt gwaed eto yn Ne Affrica. Ond yn lle hynny, fe symudodd y wlad ymlaen o’r tywallt gwaed at y gobaith o ddechreuad newydd – a dewrder a gallu Mandela i faddau a wnaeth hynny’n bosib.

  8. Yng ngwasanaeth coffa Mandela ym mis Rhagfyr 2013, fe ddywedodd yr Arlywydd Obama, ‘while I will always fall short of Madiba’s example, he makes me want to be better  . . .  He speaks to what is best inside us  . . .  let us search, then, for his strength - for his largeness of spirit - somewhere inside ourselves.

  9. Cymynrodd Mandela i’r byd yw un o obaith a maddeuant; ei gymynrodd i bob un ohonom ni yw’r her i fod yn fodau dynol mwy anhunanol.

Amser i feddwl

Mewn sawl ffordd fe ymgorfforodd Nelson Mandela y gwerthoedd y cyfeiriodd Iesu atyn nhw yn ei bregeth enwog, Y Bregeth ar y Mynydd (Mathew 5.43–45):

Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. Ond rwyf fi’n dweud wrthych; carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy’n eich erlid.

Gweddi
Arglwydd,
Rwyt ti’n ein caru ni ac yn maddau ein pechodau ni.
Llenwa ein calonnau â maddeuant ac â chariad tuag at eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon