Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ceisio deall dioddefaint

Chwilio am atebion i’r cwestiynau mawr ynghylch dioddefaint

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Anno0g y myfyrwyr i gydnabod bod ganddyn nhw rôl i’w chwarae ynghylch lleihau dioddefaint yn y byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr, a threfnwch ffordd o ddangos, y clip fideo Truetube byr (ychydig dros 6 munud) ar Fwdhaeth o’r gyfresAlien Abduction oddi ar y wefan: truetube.co.uk/film/alien-abduction-buddhism yn ystod y gwasanaeth.
  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a darllenydd – ac mae gofyn gwneud ychydig o actio ar y dechrau.

Gwasanaeth

Darllenydd  Yn sefyll, yn chwilio am hances yn ei boced/ ei phoced i sychu dagrau.

Arweinydd  Hei, fe ddylet ti fod yn mynd i dy ddosbarth erbyn hyn! Wnest ti ddim clywed y gloch?

Darllenydd  Ddim yn ateb.

Arweinydd 
Wyt ti’n iawn? Mae golwg ddigalon arnat ti. Oes rhywbeth o’i le? Wyt ti eisiau siarad am rywbeth?

Darllenydd  Dim achos brys, dim ond ein bod wedi cael peth newydd drwg y bore ’ma, dyna’r cyfan. Mae fy modryb wedi cael gwybod bod ganddi ganser y fron, ac rydw i’n teimlo’n drist drosti. Ond rwy’n gwybod fod y math hwn o beth yn digwydd yn aml. Mae cymaint o bobl yn dioddef mewn gwahanol ffyrdd, dw i ddim yn gwybod pam y dylai fod yn gymaint o sioc i mi.

Arweinydd  O! Mae’n ddrwg gen i. Ac wyt, rwyt ti’n dweud y gwir - mae rhywun yn dioddef o’n cwmpas bob amser - ond mae hyn heddiw’n rhywbeth sy’n digwydd o fewn dy deulu di, ac mae’n naturiol dy fod yn teimlo’n drist.

Darllenydd  Ond rydw i’n teimlo’n ddig hefyd am ryw reswm. Mae hi’n berson mor hyfryd. Dydi hi ddim yn haeddu mynd trwy hyn. Pam na allai hyn fod wedi digwydd i rywun arall?

Arweinydd  Pan fyddwn ni’n wynebu dioddefaint, mae’n naturiol ein bod yn gofyn llawer o gwestiynau ac eisiau chwilio am ateb iddyn nhw.

Darllenydd  Pam mae Duw’n gadael i unrhyw un ddioddef, o gwbl? Dydi’r peth ddim yn deg. Hynny yw, os oes y fath beth â Duw yn bod. Sut gall Duw fod - a’r holl ddioddefaint yn y byd? Mae’n ddigon hawdd i ni ofyn cwestiynau, ond beth yw’r pwrpas? Does gan neb atebion iddyn nhw, nag oes?

Arweinydd  Dwyt ti ddim ar ben dy hun yn hyn. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn cael trafferth wrth geisio deall y dioddefaint rydyn ni’n ei weld o’n cwmpas, ond dyw hynny ddim yn golygu bod rhaid i ni roi’r gorau i chwilio am atebion. Fe all chwilio am atebion ein harwain ar hyd rhai llwybrau diddorol. Gadewch i ni wylio’r clip fideo hwn, lle mae Bwdhydd o’r enw Srivati yn dangos sut mae cwestiynau am ddioddefaint wedi ysbrydoli’r traddodiad Bwdhaidd.

Dangoswch  y fideo Truetube ar Fwdhaeth.

Arweinydd 
Mae’n ddiddorol gweld mai holi’r un cwestiynau rwyt ti’n eu holi heddiw am ddioddefaint oedd yr hyn a ysbrydolodd sefydlu’r ffydd Bwdhaeth dros 2,500 o flynyddoedd yn ôl.

Darllenydd  Dyna ddiddorol! Doeddwn i ddim yn gwybod bod Bwdhyddion ddim yn credu mewn Duw, na’r ffaith nad Duw yw eu Bwdha, ond yn hytrach mai bod dynol arbennig iawn ydyw. Roedd y tywysog hwn yng ngogledd India, yr holl amser yn ôl, yn gofidio am faint o ddioddefaint oedd yn y byd, yn union fel rydw i’n gofidio am yr un peth heddiw. Fe geisiodd ef gael atebion i’w gwestiynau a cheisio deall fel rydw i’n ceisio deall heddiw. Fe lwyddodd ef, ac fe gafodd oleuedigaeth. Mae’n debyg mai ystyr hynny yw ei fod wedi cael atebion i’w gwestiynau. Fe ddeallodd ef o ddifri sut mae pethau mewn gwirionedd.

Arweinydd  Wnest ti sylwi hefyd ar beth ddywedodd Srivati am sut mae Bwdhyddion yn ymdrechu i fyw ei bywydau?

Darllenydd  Do, mae Bwdhyddion yn credu bod y ffordd rydyn ni’n byw ein bywyd yn bwysig iawn. Mae’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywyd yn y byd hwn yn effeithio ar y byd nesaf. Mae’n bwysig iawn osgoi cael ein cythruddo, peidio â theimlo’n ddig, na bod yn ddiamynedd. Mae bod yn gadarnhaol, yn amyneddgar ac yn garedig yn gwneud ein bywyd yn y byd hwn yn well yn ogystal â’n bywyd yn y byd nesaf. Mae popeth y byddwn ni’n ei ddweud, ei wneud, ac yn ei feddwl yn cyfrif. Mae’n debyg fod dangos amynedd a bod yn garedig yn lleihau’r dioddefaint y gallwn ni, fel unigolion, ei achosi. Trwy gofleidio’r syniad o beidio â niweidio a pheidio â bod yn dreisgar, fe fyddai hynny’n lleihau rhywfaint ar y dioddefaint yn y byd o’n cwmpas. Rwy’n gweld beth rydych chi’n cyfeirio ato. Mewn ffordd, fe allwn ni fod yn rhan o’r ateb trwy leihau rhywfaint o’r dioddefaint sydd yn y byd.

Arweinydd  Yn union! Dyna beth ddaeth yn amlwg i mi hefyd wrth wylio’r fideo a chlywed beth roedd Srivati’n ei ddweud. Dydw i ddim yn awgrymu y byddi di’n dod o hyd i atebion i dy holl gwestiynau yn y ffydd Fwdhaidd, nac unrhyw system gred arall, ond fe fydd holi cwestiynau am faterion mawr bywyd a chwilio am atebion yn dod â chi at eich dealltwriaeth neu eich goleuedigaeth bersonol eich hun. All hyn, yn sicr, ddim ond bod yn beth da. Felly, peidiwch â theimlo embaras am fod yn gofidio neu am ofyn cwestiynau am ddioddefaint. Wedi’r cyfan, rydych chi mewn cwmni da.

Amser i feddwl

Arweinydd  Gadewch i ni dreulio ychydig o amser yn meddwl am yr hyn rydyn ni wedi ei glywed heddiw.
Gadewch i ni gofio am y rhai hynny rydyn ni’n eu hadnabod sy’n dioddef ar hyn o bryd.

Gadewch i ni ddefnyddio geiriau’r weddi hon i’n helpu ni fyfyrio ar y dioddefaint sydd yn ein byd heddiw.

Gweddi
Boed i bawb sy’n dioddef yn gorfforol neu’n feddyliol gael eu rhyddhau’n fuan o’u dioddefaint.
Boed i bawb sy’n ofnus gael eu rhyddhau o’u hofnau.
Boed i bawb sy’n teimlo’n gaeth gael eu rhyddhau o’u hanobaith.
Boed i bawb sy’n teimlo’n bryderus gael eu rhyddhau o’u gofidiau.
Boed i bawb sy’n teimlo’n wan ddod o hyd i gryfder.
Boed i’r rhai sy’n cael eu brifo gael cysur,
a’r rhai sy’n analluog gael nerth.
Boed i'r rhai hynny sydd â chwestiynau ddod o hyd i atebion.
Boed i'r rhai hynny sy’n cerdded yn y tywyllwch ddod o hyd i oleuni.
Boed i'r rhai hynny sy’n teimlo ar goll ddod o hyd i’w ffordd.
Boed i ni fod yn gadarnhaol.
Boed i ni fod yn garedig.
Boed i ni fod yn amyneddgar.
Boed i ni allu gwneud popeth yn ein gallu i leihau dioddefaint y rhai sydd o’n cwmpas.
Gad i hyn fod yn awr.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon