William Shakespeare
Dathlu gwaith William Shakespeare a’r modd grymus ac amrywiol yr oedd yn gallu defnyddio geiriau.
gan Gordon Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3/4
Nodau / Amcanion
Dathlu gwaith William Shakespeare a’r modd grymus ac amrywiol yr oedd yn gallu defnyddio geiriau.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe allech chi ychwanegu at y gwasanaeth hwn, a’i fywiogi, trwy wneud y pethau canlynol:
– fe allai dau fyfyriwr ddarllen y rhestr dyfyniadau adnabyddus a’r dywediadau sarhaus, sydd wedi eu nodi yng Ngham 2, gan efallai eu mynegi mewn ffordd ddigon sarhaus, yn eu tro, fel pe bydden nhw’n dadlau
– os yw dosbarth yn astudio drama gan Shakespeare, fe allai’r myfyrwyr baratoi golygfa fer i ddangos i’r gynulleidfa yn y gwasanaeth enghraifft o’r ffordd y mae Shakespeare yn defnyddio iaith. - Ar y wefan BBC Shakespeare Shorts mae dyfyniadau byr o rai o ddramâu Shakespeare, gyda chyflwyniadau gan actorion (edrychwch ar: www.bbc.co.uk/programmes/b00787k7/clips).
Gwasanaeth
- Dechreuwch y gwasanaeth trwy ddweud rhywbeth tebyg i’r canlynol:
Mae’n debyg y byddaf yn gwneud fy hun yn destun sbort y bore ’ma, ac efallai y byddwch chi yn eich dyblau’n chwerthin ei hochr hi. Efallai y bydd fy ngyrfa fel athro’n farw gelain wedyn, fe fydd y diffodd fel cannwyll a minnau ar y clwt wedyn! Efallai fy mod yn gwneud môr a mynydd o bethau, a chithau eisiau tynnu gwallt eich pen, ond mae ’na ffordd o gael Wil i’w wely wyddoch chi. Y cwbl rwy’n ei ofyn i chi yw i chi beidio â throi clust fyddar, gwrandewch yn astud, yn glustiau i gyd, ac efallai y byddwch chi’n gallu gwneud pen rheswm o’r hyn rwy’n ceisio ei ddweud.
Sylwch pa mor ddiddorol yw iaith. Sylwch gymaint o ymadroddion y gwnes i eu defnyddio. Rydw i am droi i’r Saesneg yn awr, gan ddweud rhywbeth tebyg eto, os caniatewch i mi:
I’m probably going to make myself a laughing stock this morning and have you all in stitches. Perhaps my career as a teacher will be dead as a doornail – it’ll vanish into thin air and I’ll be a sorry sight. I’ll probably get myself in a pickle and might set your teeth on edge, but there’s method in my madness. All I ask is for fair play, come on: mum’s the word – don’t send me packing. - Gofynnwch oes rhywun yn gwybod pwy sydd wedi creu llawer o’r dywediadau hyn a glywsoch chi yn y darn Saesneg. Eglurwch eu bod yn dod o wahanol ddramâu’r dramodydd enwog William Shakespeare. Fe allech chi fynd trwy’r rhain fesul un, gan nodi o ba ddramâu y daw’r dyfyniadau:
A laughing stock –The Merry Wives of Windsor
In stitches –Twelfth Night
Dead as a doornail –King Henry VI
Vanish into thin air –Othello
A sorry sight –Macbeth
In a pickle –The Tempest
Set your teeth on edge –King Henry IV,Part I
There's method in my madness –Hamlet
Fair play –The Tempest,
Mum's the word –King Henry VI, Part II
Send him packing –King Henry IV, Part I.
- Pwysleisiwch nad yw pobl yn hollol siwr ai Shakespeare a ddyfeisiodd y dywediadau hyn, mewn gwirionedd, ai peidio. Efallai eu bod eisoes yn cael eu defnyddio gan bobl wrth sgwrsio yn ystod ei oes ef, ond mae ei ddramâu’n gwneud defnydd da ohonyn nhw. Mae’n ddigon posib iddo greu rhai o’r dywediadau hyn ei huna’u bod yn dal i gael eu defnyddio hyd heddiw. Beth bynnag, roedd y ffordd y defnyddiodd William Shakespeare iaith yn ddisglair iawn, yn rhyfeddol, ac yn ddramatig. Fe welwn ni hyn yn y ffordd roedd rhai o’i gymeriadau’n cyfarch cymeriadau eraill, yn enwedig yn y ffordd roedden nhw’n sarhau ei gilydd. Gwrandewch ar y pethau sarhaus canlynol sydd wedi eu dyfynnu o rai o’i ddramâu:
‘Thou art like a toad; ugly and venemous’ –As You Like It
‘A most notable coward, an infinite and endless liar, an hourly promise breaker, the owner of no one good quality’ –All’s Well That Ends Well
‘You scullion! You rampallian! You fustilarian! I’ll tickle your catastrophe!’ –King Henry IV, Part II
‘There’s no more faith in thee than in a stewed prune’ –King Henry V
‘Thou cream-faced loon’ –Macbeth.
- Dywedwch hyd yn oed os nad ydym yn deall geiriau fel ‘rampallian’ a ‘fustilarian’, fe allwn ni werthfawrogi hoffter mawr yr awdur o chwarae â geiriau a defnyddio iaith, ac mae gan Shakespeare lawer o olynwyr heddiw wrth i eiriau a dywediadau newydd fyrlymu ar y strydoedd a dod yn rhan o iaith rap a mathau eraill o gerddoriaeth a deialogau. Mae iaith yn arf grymus, ac mae defnydd Shakespeare ohoni yn dal i roi pleser i ni dros 400 can mlynedd ar ôl iddo farw.
Amser i feddwl
Roedd Shakespeare yn deall y grym sydd mewn iaith i greu rhyfeddod, i ymhyfrydu ynddi, ac i ddiddanu. Fe wyddai bod geiriau’n gallu herio llywodraethwyr, yn ogystal â mynegi cariad a thrasiedi, a hefyd yn gallu cyfleu dyfnder profiadau personol pobl. Allwch chi, fel y gwnaeth Shakespeare, ddod o hyd i wahanol gyweiriau - gwahanol fath o iaith ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd, a dysgu eu defnyddio’n effeithiol?
Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.