Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Bydded i'r siawns fod bob amser o'ch plaid'

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried rhai o’r negeseuon a’r themâu ynThe Hunger Games.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau wirfoddolwr - a fydd yn cael eu dewis yn ystod y gwasanaeth (gwelwch Cam 1).
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Tomorrow will be kinder’ gan The Secret Sisters, a modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

  1. Arweinydd   Fe hoffwn i ddewis dau ohonoch chi o’r gynulleidfa i fy helpu i gyda’r gwasanaeth heddiw.

    Gwyliwch y dwylo’n codi. Y bwriad yma yw dewis dau fyfyriwr sydd ddim yn gwirfoddoli. Os ydych chi mewn ysgol gymysg, dewiswch un bachgen ac un ferch. Fel arall, dewiswch un myfyriwr ifanc ac un arall hyn.

    Diolch am eich ymateb. Cyn i mi fynd ymhellach, allwch chi ddweud wrthyf fi beth wnaeth i chi roi eich llaw i fyny er mwyn cael gwirfoddoli heddiw?

    Gofynnwch i'r myfyrwyr roi eu rhesymau.

    Ardderchog! Diolch i chi, ond dydw i ddim wedi dweud wrthych chi eto beth rydw i eisiau i chi wirfoddoli ar ei gyfer. Wel, dyma gyfle gwych i chi heddiw, mae’n bosib y gwnewch chi ennill enwogrwydd i chi eich hunan, ac fe allech chi ennill gwobr ariannol i’ch ysgol ac i’ch teulu. Ydych chi’n dal i fod yn awyddus i fod yn rhan o hyn?

    Mae’n fwy na thebyg nad oes yr un o’r ddau rydych chi wedi eu dewis eisiau gwneud hyn o gwbl - ond dyna holl bwrpas yr ymarferiad yma.

    Rydw i’n gwybod na wnaeth yr un ohonoch chi eich dau wirfoddoli, ond, yn anffodus, does gennych chi ddim dewis. Rydych chi wedi cael eich dethol ar hap i gynrychioli’r ysgol, a does dim dewis gennych chi yn y mater. Os byddwch chi’n protestio, neu’n gwrthod, fe fyddwch chi’n cael eich diarddel o’r ysgol.

    Byddwch yn ddoeth wrth ddewis eich ymgeiswyr fel nad ydyn nhw’n pryderu gormod y gallai hynny ddigwydd o ddifri - efallai y gallech chi siarad am hyn o flaen llaw gyda’r ddau fyfyriwr ac egluro iddyn nhw’r hyn rydych chi’n ceisio ei ddarlunio, gan bwysleisio na fydd y fath beth yn digwydd iddyn nhw o ddifri, wrth gwrs.

    Popeth yn iawn felly, a ‘bydded i’r siawns bob amser fod o’ch plaid’ - ‘may the odds be ever in your favour’.

  2. Efallai y bydd rhai ohonoch chi eisoes wedi dyfalu beth sydd gen i dan sylw heddiw. Bydd rhai wedi deall o’r dechrau, eraill ddim ond newydd sylweddoli, efallai. Ac o bosib bod rhai eraill ohonoch chi’n dal yn methu’n glir â deall o gwbl am beth rydw i’n sôn! Ond fel hyn yn union mae un llyfr ac un ffilm neilltuol yn dechrau. Ydych chi’n gyfarwydd ag un o’r ddau? Y llyfr hwnnw, a’r ffilm honno, ywThe Hunger Games.

    Mae dau ‘gynrychiolydd’ yn cael eu dewis ar hap o 12 rhanbarth y genedl ôl-apocalyptaidd Panem i fod yn rhan o’r Hunger Games, sioe deledu realaeth, lle mae’r ymgeiswyr yn gorfod lladd y naill a’r llall. Yr un olaf sy’n dal yn fyw yw’r enillydd.

    Mae hynny’n ymddangos yn ddychrynllyd o farbaraidd, ac mae’n debyg y byddech chi’n dweud, ‘Fyddwn i byth bythoedd yn gwylio rhaglen felly!’ Ond tybed faint ohonoch chi sy’n mwynhau gwylio rhaglenni felThe X Factor,The VoiceaBritain’s got Talent, er mwyn cael hwyl am ben y rhai hynny sy’n meddwl eu bod yn gallu canu neu actio, neu’n meddwl bod ganddyn nhw dalent er nad oes ganddyn nhw ddim llawer o ddawn mewn gwirionedd. Yn fy marn i, mae hynny’n ein gwneud ni’n ddigon tebyg i ddinasyddion Panem neu ddinasyddion yr Hen Rufain, a fyddai’n arfer mynd i’r Colosseum i wylio’r gladiators yn ymladd.

    Fel mae Katniss, arwres y stori, yn dweud wrthym, ‘the real sport of the Hunger Games is watching tributes kill one another’. Oherwydd ein bod ni’n perthyn i gymdeithas wareiddiedig – a dim yn gwylio pethau fel lladd go iawn ar y sgrin fawr – fe allen ni feddwl ein bod ni goruwch yr hyn sy’n digwydd yn y byd dychmygol. Ond mae pethau cyfatebol y digwydd er hynny. A dyna’r cyfeiriad yr hoffwn i ei ddilyn yn y gwasanaeth hwn heddiw.
  3. Fe fydd y rhai hynny ohonoch chi sydd wedi gweld y ffilm, neu ddarllen y llyfr, yn gwybod, yn ystod y brwydro fe ddewiswyd Prim, chwaer Katniss yr arwres, ond fe aeth Katniss  ymlaen yn ei lle. Mae hi’n mynd i’r arena er mwyn achub ei chwaer. Dydi hi ddim yn meddwl am neb arall ar wahân iddi hi ei hunan a Prim. Mae Katniss yn ymwybodol fod mynd i’r Hunger Games fwy neu lai yn ddedfryd o farwolaeth iddi, ond mae’n bosib bod ganddi hi fwy o siawns i oroesi na’i chwaer. Mae hi’n aberthu ei hun er mwyn bywyd a dyfodol ei chwaer.

    Y cynrychiolydd arall o Ranbarth 12 yw un o’r enw Peeta Mellark, sydd yn awyddus i farw yn yr arena fel ‘fo ei hun’  er mwyn dangos nad oes gan y Capitol unrhyw reolaeth dros bwy ydyw mewn gwirionedd. Ei safbwynt ef yw y gall hyn bennu sut a pha bryd y mae’n marw, ond na fydd yn ei newid i fod yn rhywbeth nad ydyw mewn gwirionedd. Mae herfeiddiad ac ewyllys pobl Rhanbarth 12 yn wir yn dod yn amlwg yn y nofel - waeth pa mor rymus na chaled y gall y wladwriaeth fod, ni all gymryd i ffwrdd pwy yw’r unigolyn. Dydyn nhw ddim yn debyg i gynrychiolwyr  ‘Career’ Rhanbarthau 1, 2 a 4,sy’n gweld y Gemau fel bathodyn anrhydedd, ac eisiau cystadlu ac ennill.
  4. Caiff Katniss a Peeta eu cipio i’r Capitol  i baratoi ar gyfer y Gemau. Wrth i Katniss dreulio mwy o amser yn y Capitol, mae hi’n dechrau gweld tebygrwydd anochel rhwng Rhanbarth 12 a’r byd mae hi’n byw ynddo. Mae Cinna ei Chynllunydd yn dweud wrthi, ‘How you must despise us’. Y bwyd, yr angen i fod yn denau ac ifanc, yr angen i fynd o gwmpas yn smalio bod yn rhywbeth dydych chi ddim er mwyn ennill ffrindiau a dylanwadu ar bobl. Yn Rhanbarth 12, mae bol crwn a rhychau ar y croen yn arwyddion eich bod wedi eich bwydo’n dda ac wedi byw’n hirach na phobl eraill, ac felly’n cael eich ystyried yn rhywun i’w efelychu.
  5. Mae nifer o bethau paralel yma hefyd i’n cymdeithas ni ein hunain. Meddyliwch chi am y pwyslais bondigrybwyll sydd ar gadw at bob math o wahanol ddiet a cheisio bod fel yr enwogion, y papurau newydd a’r cylchgronau sy’n cyhoeddi ac yn pedlera delweddau afrealistig o ddynion a merched gyda’r awgrymiadau gwaelodol y dylech chi fod yn deneuach, yn well, ac yn berchen ar y pethau materol diweddaraf mwyaf modern sy’n bosib eu cael. Nid yw’n ddigon bod yn chi eich hunan, mae’n rhaid i chi gydffurfio a bod fel mae cymdeithas eisiau i chi fod. Rydyn ni yn y Gorllewin yn pryderu ynghylch a yw’r ffonau symudol diweddaraf gennym ni, y dillad iawn, ac ati. Ond mae rhai pobl eraill mewn mannau eraill yn y byd yn pryderu ynghylch cael dwr glân i’w yfed, neu a fydd eu plant yn marw yn eu plentyndod, neu a fyddan nhw eu hunain yn gallu byw gymaint â’r disgwyliad oes o 42 oed.
  6. Wrth i’r Gemau fynd rhagddyn nhw, mae Katniss yn sylweddoli fwyfwy bod ganddi obaith y bydd yn goroesi. Mae bron i hanner y cynrychiolwyr yn marw yn ystod eu diwrnod cyntaf, ac mae’r maes yn dod yn haws delio ag ef. Mae Katniss yn helwraig gelfydd, wedi gorfod dysgu hela er mwyn bwydo ei theulu ar ôl marwolaeth ei thad, felly mae hi’n defnyddio ei sgiliau a’i gallu i ffurfio cysylltiadau a chadw ei hunan yn fyw. Mae Rue, un o’r cynrychiolwr ifanc, yn dod yn gyfeillgar â Katniss, ond, unwaith y mae Rue yn anochel yn cael ei lladd, mae Katniss yn cael ei hatgoffa o angen Peeta i barhau i gadw’i hunaniaeth. Mae Katniss yn canu cân i Rue wrth iddi farw ac yn gosod blodau ar ei chorff fel arwydd o barch i Rue, a hynny’n arwydd amlwg o’i ffieidd-dod tuag at y Capitol a’i rheolaeth dros fywydau a marwolaethau ei deiliaid. Bu farw Rue mewn awyrgylch o gariad a chysur mewn arena lle’r oedd hynny’n ymddangos yn rhywbeth amhosib. Lle mae’r Capitol yn ceisio diraddio a dad-ddyneiddio’r rhai sy’n cymryd rhan yn y Gemau,  mae parch a chariad Katniss tuag at Rue yn dangos rhywfaint o ddynoliaeth lle’r oedd yn ymddangos na allai fod, a hwythau wedi eu hamgylchynu felly gan greulondeb a marwolaeth ddianghenraid.
  7. Mae Katniss yn dod o hyd i Peeta wedi ei anafu ac yn marw pan greodd Llunwyr y Gemau reol newydd. Y rheol newydd yw y gall dau o’r un Rhanbarth ennill yr Hunger Games. Mae Katniss yn gafael yn y syniad o safbwynt cynulleidfa’r Capitol – sef ei bod hi a Peeta yn gariadon, yn ‘star-crossed lovers’ – a defnyddio’r syniad i’w diben ei hun i ennill noddwyr, sy’n caniatáu iddi yn y pen draw achub Peeta rhag marw. Heb sylweddoli hynny mewn gwirionedd, mae Katniss yn chwarae’r Hunger Games i’w mantais; mae hi’n chwarae’r Capitol yn ôl ei gêm ei hun.
  8. Does dim achlysur arall lle mae’r gwrthryfel hwn a’r angen i herio’r Capitol yn dod yn bwysicach na’r adeg pan fydd Lluniwr y Gemau’n cyhoeddi newid arall yn y rheolau. Gyda dim ond Peeta a hithau ei hunan ar ôl, daw cyhoeddiad arall yn nodi mai dim ond un all ennill y Gemau. Un ohonyn nhw’u dau. Rhaid i un o’r ddau farw.

    Mae Peeta wedi treulio’r holl amser yn ceisio cadw Katniss yn fyw am ei fod yn ei charu. Doedd hithau ddim yn gallu ei ladd yntau ychwaith. Fel mae hi’n dweud, fe fyddai hi’n treulio gweddill ei bywyd wedyn yn meddwl amdano, a vice versa, mae’n bosib mai marwolaeth fyddai’r dewis hawddaf. Felly, mewn gweithred herfeiddiol, fel sydd wedi bod yn nodweddiadol o Katniss trwy gydol yr amser, mae hi’n gwneud pact i ddod â bywyd y ddau ohonyn nhw i ben eu hunain gyda’i gilydd, yn rhydd o reolaeth y Capitol, ac yna fyddai dim enillydd. Safbwynt Katniss yw os oedd Peeta a hithau i farw, fe fyddai’r ddau ohonyn nhw o leiaf yn dal i fod â’u hannibyniaeth ac mewn rheolaeth o’u  bywyd a’u tynged eu hunain. Maen nhw wedi dewis marw yn y ffordd roedden nhw'n dewis gwneud hynny, ond y Capitol wnaeth atal hynny ... dim ond mewn union bryd.

    Diolchwch i’ch ‘gwirfoddolwyr’ a chaniatáu iddyn nhw fynd yn ôl i’w lle.

Amser i feddwl

Pa rai ohonom ni, gyda dewis o’r fath o’n blaen, fyddai mor ddewr â Katniss neu Peeta? A fydden ni’n plygu i reolaeth Capitol a gwladwriaeth, neu a fydden ni’n gofyn y cwestiynau sydd angen eu gofyn?

Mae’n anodd iawn dychmygu sut y bydden ni’n ymateb mewn sefyllfa sy’n ymddangos mor ddieithr i ni. Ond tybed faint ohonom yn ein bywyd ein hunain sydd wedi mynd ymlaen â rhywbeth dim ond am fod hynny’n haws i ni. Ydyn ni ryw dro wedi gallu helpu rhywun oedd yn cael ei fwlio? Neu, ydyn ni wedi gallu maddau i’r rhai sydd wedi ein bwlio ni? Wnaethon ni bob amser gydymffurfio neu, pan oedd yr adeg yn iawn, a wnaethon ni ofyn y cwestiynau iawn?

Mae cyfundrefnau rheolaethol a thotalitaraidd bob amser wedi ceisio pwylltreisio a rheoli eu deiliaid, ond mae’n bwysig bob amser, ble bynnag rydych chi’n olwyn fach yn yr olwyn fawr, i chi gadw eich ymreolaeth a dal i gwestiynu.

Wrth gwrs, mae gennym ni reolau a deddfau sydd yno i’n cadw ni’n ddiogel, ond faint ohonom fyddai’n ddigon dewr i sefyll yn gadarn, hyd yn oed am bethau ar raddfa fechan, a dweud, ‘Na, dydw i ddim yn cytuno’?

Cerddoriaeth

Tomorrow will be kinder’ gan The Secret Sisters

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon