Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diffoddwch y goleuadau

Y Rhyfel Byd Cyntaf: cyn hynny ac wedyn

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodwch

Ar 4 Awst 2014, fe fyddwn yn cofio bod can mlynedd wedi mynd heibio ers i Brydain fynd i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Er mwyn cyflwyno i’r myfyrwyr y prif themâu a’r materion oedd yn ymwneud â’r digwyddiad hwnnw, a chanmlwyddiant gwahanol ddigwyddiadau a nodir yn ystod y pedair blynedd nesaf, rydym yn darparu cyfres o sgriptiau ar gyfer gwasanaethau. Nid yw’r rhain mewn dilyniant cronolegol, felly mae modd eu defnyddio mewn unrhyw drefn.

Nodau / Amcanion

Archwilio pa mor ymwybodol yw’r myfyrwyr o adegau o drobwynt mewn bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a dau ddarllenydd.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘The times they are a-changing’ gan Bob Dylan, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

Arweinydd  Ar drothwy Prydain yn cyhoeddi rhyfel ym mis Awst 1914, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Tramor ar y pryd, Syr Edward Grey, araith. Gan edrych allan dros Lundain fe ddywedodd, ‘The lamps are going out all over Europe. We shall not see them lit again in our lifetime.’ Roedd yn gallu gweld bod newid mawr ar droed dan gymylau duon rhyfel.

Felly beth oedd y ‘lampau’ hyn, yr agweddau hynod gadarnhaol ar fywyd a oedd yn bodoli ym Mhrydain ac Ewrop yn gyffredinol hyd at yr adeg hon, yn y flwyddyn 1914?

Darllenydd  1 Mae rhai yn dweud bod cymdeithas yn y mwyafrif o wledydd Ewrop â threfn amlwg. Roedd brenin, brenhines neu ymerawdwr yn ben ar bob cymdeithas ac roedd gan bawb arall ei le yn yr haen islaw iddyn nhw, ac roedd pawb yn gwybod lle roedden nhw'n sefyll. Roedd hi'n drefn sefydlog.

Darllenydd  2 Roedd eraill yn dweud ei bod hi'n dda cael nifer fechan o ymerodraethau diwydiannol nerthol yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau oedd ar gael iddyn nhw. Roedd Prydain, Rwsia, yr Almaen, Awstria a Thwrci Otoman yn uno'r holl grwpiau cenedlaethol yn eu hymerodraethau’n unedau sengl.  Roedd busnes yn ffynnu.

Darllenydd  1 Roedd yn gyfnod euraidd ym myd celf drwy fwyafrif Ewrop, yr hyn a elwid fel ‘la belle époque’.

Darllenydd  2  Ar y cyfan, roedd Ewrop yn gyfandir o un ffydd grefyddo, sef Cristnogaeth. Er ei bod hi wedi ei rhannu'n Gatholigion, Protestaniaid a Christnogion Uniongred roedd yr eglwys yng nghanol bywyd y gymuned leol. Roedd crefydd yn rym sefydlog.

Arweinydd  Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn y flwyddyn 1918, roedd y rhan fwyaf o hyn wedi newid. Roedd yr ymerodraethau enfawr wedi hollti ac roedd grwpiau cenedlaethol lleol yn mynnu eu hannibyniaeth. Roedd yr Almaen wedi cael ei bychanu, ei beio am ddechrau'r rhyfel, a'i gorfodi i dalu symiau anferthol o arian fel iawndal. Cafodd brenhinoedd ac ymerawdwyr eu disodli, rhoddodd comiwnyddiaeth rym i weithwyr ac roedd cymdeithas mewn cythrwfl. Roedd ymladd ochr yn ochr yn y ffosydd wedi bod yn gyfrwng i ddod â phawb i’r un lefel.

Yn fwy na dim, roedd ffydd pobl wedi dioddef yn enfawr. Yn achos rhai, roedden nhw’n methu derbyn bod Cristnogion yn ymladd yn erbyn Cristnogion. I eraill roedd yna'r ymwybyddiaeth o geisio dirnad erchyllterau'r ffosydd. Sut y gallai Duw ganiatáu'r fath greulondeb, y fath farbareiddiwch? Fe ddaeth ffydd, i lawer i'w ddisodli â sinigiaeth a nihiliaeth. Pan gafodd y goleuadau eu troi ymlaen drachefn yn y flwyddyn 1918, fe wnaethon nhw daflu golau ar fyd oedd wedi newid yn llwyr.

Amser i feddwl

Arweinydd  Mae unrhyw wrthdaro yn achosi niwed. Bu'r Rhyfel Byd Cyntaf yn ddinistriol, gan achosi i gymaint o fywydau gael eu colli, ac ni chafodd llawer a brofodd y rhyfel a goroesi adferiad iechyd. Roedden nhw wedi colli eu ffydd, eu hymddiriedaeth mewn pobl eraill, ac roedd atgofion o'r arswyd yn mynnu chwalu eu breuddwydion. Fe wnaethon nhw gario’r anafiadau hyn gyda nhw am weddill eu bywyd.

Efallai bod ein gwrthdrawiadau ni ar raddfa llawer llai, ond gall eu heffaith arnom fel unigolion fod yr un mor ddrylliedig. Dadl, rhwyg deuluol, damwain, camgymeriad, afiechyd - gall y rhain i gyd fod yn niweidiol iawn. Gallwn gario’r anafiadau, yn guddiedig yn aml, am amser hir. Gallwn fod yn ddig, yn chwerw, yn llawn paranoia a rhwystredigaeth. Gall ein perthynas ag eraill gael ei heffeithio, ac o ganlyniad gallwn fod yn ynysig ac yn unig. Mae gwrthdrawiad o unrhyw fath yn gallu achosi niwed.

Eto, hyd yn oed allan o rywbeth mor ddinistriol â'r Rhyfel Byd Cyntaf, fe ddaeth hefyd rai newidiadau er gwell.

Darllenydd  1 Fe flodeuodd democratiaeth seneddol dros Ewrop gyfan. Fe ddaeth hi'n gyffredin, yn fwy na'r eithriad, i unigolion gael pleidleisio am lywodraeth o'u dewis yn hytrach na chael un wedi ei gorfodi arnyn nhw gan y dosbarthiadau llywodraethol.

Darllenydd  2  Daeth merched i brofi mwy o ryddid. Tra bu'r dynion yn ymladd yn y Ffrynt yn ystod y rhyfel, fe ymgymerodd y merched gartref â llawer o'r tasgau yr oedd gofyn gweithio’n ymdrechgar i’w cyflawni. Ar ôl dangos nad oedden nhw mor wan ac analluog â'r hyn yr oedd y dynion yn ei gredu, fe wnaethon nhw fynnu cadw eu rolau ar ôl i'r rhyfel orffen. Fe ddaeth cydraddoldeb ar sail rhyw yn fater allweddol, a chymerwyd camau enfawr ymlaen.

Arweinydd  Yn y diwedd, sefydlwyd Cynghrair y Cenhedloedd. Dyma ragflaenydd y Cenhedloedd Unedig a dyma'r tro cyntaf i genhedloedd uno mewn ymdrech i ddatrys materion gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol y byd. Roedd angen llawer mwy o waith ganddo cyn iddo ddod yn wir effeithiol, ond roedd hyn yn ddechreuad.

Felly, beth amdanom ni? Ni ddylai digwyddiad hunllefus, waeth pa mor fawr neu fach, fod o reidrwydd yn hollol negyddol yn ei effeithiau. Mae newidiadau sydyn yn ein gorfodi i edrych ar bethau mewn ffordd wahanol. Gall fod yn gyfle newydd, yn ddarganfyddiad newydd, yn gymhelliad newydd, neu’n gyfeiriad newydd.  Nid yw bywyd yn dod i stop - mae'n parhau, ond o bosib mewn ffordd wahanol. Efallai y gall y goleuadau ddiffodd am ychydig amser, ond, gallwn fod yn sicr, fe fyddan nhw'n dod ymlaen eto unwaith yn rhagor.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am yr adegau da pan fyddwn ni’n teimlo bod popeth yn mynd yn dda i ni.
Mae’n ymddangos yn beth od i’w ddweud, ond diolch i ti hefyd am yr adegau anodd, pan fyddwn ni’n cael ein gorfodi i newid pethau, ailasesu sefyllfaoedd, a chwilio am ffyrdd newydd o wneud pethau.
Boed i ni gefnogi ein gilydd mewn adegau o newid a bod yn falch o’n cyflawniadau newydd gyda’n gilydd.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

The times they are a changing’ gan Bob Dylan

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon