Dadbacio Dydd Iau Cablyd
Archwilio digwyddiadau’r Dydd Iau Cablyd cyntaf.
gan Vicky and Tim Scott
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Archwilio digwyddiadau’r Dydd Iau Cablyd cyntaf.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe allwch chi ddewis naill ai Gweithgaredd 1 neu Weithgaredd 2, a pharatowch yn unol â hynny (dewisol).
- Ar gyfer Gweithgaredd 1, fe fydd arnoch chi angen bowlen o ddwr sebon cynnes, a thywel. Dechreuwch trwy ofyn i’r myfyrwyr oes unrhyw un am wirfoddoli i ddod ymlaen i olchi eich traed chi, (gallech smalio ymddiheuro eu bod yn drewi braidd!). Fwy na thebyg na fydd neb yn gwirfoddoli. Yna, cynigiwch far o siocled fel gwobr i unrhyw un sy’n ddigon dewr. Os nad oes neb yn cynnig eto, fe allech chi wneud y wobr yn fwy trwy gynnig bar siocled mwy!. Os nad oes neb yn dod ymlaen wedyn, yna galwch ar yr oedolyn yn y gynulleidfa rydych chi eisoes wedi ei baratoi o flaen llaw i ddod atoch chi i wneud hyn. Pwrpas yr ymarferiad hwn yw dangos tasg mor amhoblogaidd yw’r dasg hon o olchi traed rhywun arall, ac mae angen rhyw raddau o hunanaberth i wneud hyn i rywun.
- Mae Gweithgaredd 2 yn ffurf symlach o Weithgaredd 1, a dim ond yn golygu cynnig golchi’r traed yn hytrach na gwneud hynny mewn gwirionedd. Fe allech chi ofyn i’ch cynulleidfa godi eu dwylo mewn ymateb i’r cwestiwn gennych chi, ‘Faint ohonoch chi fyddai’n fodlon golchi fy nhraed?’ Yna ceisiwch weld fyddai’r ymateb yn well pe byddech chi’n cynnig lefelau uwch o wobr am wneud y dasg, fel siocled, neu docyn ‘osgoi cael eich cadw i mewn’ ac ati. Fel yn y pwynt uchod, pwrpas yr ymarferiad yw dangos nad yw golchi traed yn dasg bleserus na phoblogaidd! - Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘Said Judas to Mary’ gan Sidney Carter, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint). Neu, fe allech chi ganu eich hoff emyn Pasg o’ch dewis eich hun i ddiweddu’r gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer Gweithgaredd 1 neu 2, pa un bynnag y byddwch chi’n penderfynu ei ddefnyddio.
- Rydyn ni am sôn heddiw am Ddydd Iau Cablyd. ‘Maundy Thursday’ yw’r gair Saesneg am Ddydd Iau Cablyd, a daw’r gair ‘maundy’ yn ‘Maundy Thursday’ o’r gair Lladin ‘mandatum’, sy’n golygu ‘mandad’ neu ‘orchymyn’. Dewiswyd y gair hwnnw oherwydd ei fod yn ymddangos yn y Beibl, yn Efengyl Ioan 13.34 ac yn nodi bod Iesu, yn y Swper Olaf, wedi rhoi gorchymyn newydd i’r disgyblion garu ei gilydd – ‘Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu’ch gilydd.’
- Dydd Iau Cablyd hefyd yw'r diwrnod cyntaf o dri diwrnod pwysig yn yr Wythnos Fawr, yr wythnos sy'n arwain at y Pasg. Yr ail a’r trydydd diwrnod pwysig yw Dydd Gwener y Groglith a Sul y Pasg.
- Bydd defodau cofio Dydd Iau Cablyd yn canolbwyntio ar yr hyn y mae Cristnogion yn cyfeirio atyn nhw fel y Swper Olaf. Am mai Iddewon oedd Iesu a'i ddisgyblion, roedd y pryd bwyd olaf hwn gyda'i gilydd mewn ffordd yn bryd bwyd y Pasg Iddewig iddyn nhw. Mae'r Pasg Iddewig wedi cael ei ddathlu gan Iddewon ar hyd yr oesoedd trwy iddyn nhw ddod ynghyd a rhannu pryd bwyd arbennig. Mae hyn wedi digwydd ers cyfnod yr exodus o'r Aifft ganrifoedd cyn cyfnod Iesu Grist.
Bryd hynny, roedd Moses wedi dweud wrth yr Iddewon am aberthu oen a thaenu ei waed ar byst drysau ffrynt eu tai, fel bod Angel Marwolaeth, pan ddeuai, yn gwybod pa gartrefi y dylai 'basio heibio' iddyn nhw, sy'n rhoi'r gair Saesneg 'Passover' i'r Pasg Iddewig.
Oni bai eu bod yn gwneud hynny, fe fyddai'r plentyn hynaf ym mhob cartref yn marw - sy'n stori anodd ei deall, ac yn stori y byddai’n bosib ei harchwilio ryw dro eto.
Yn achos Cristnogion, roedd arwyddocâd marwolaeth arfaethedig Iesu o bwys mawr - ef oedd yr oen aberthol. - Yn ystod y Swper Olaf, fe ddewisodd Iesu olchi traed ei ddisgyblion.
Os ydych yn ymgymryd â Gweithgaredd 1 neu Weithgaredd 2 ar y dechrau, gallwch sôn am y ffaith bod penderfynu golchi traed rhywun arall yn rhywbeth anghyffredin i’w wneud, fel yr oedd ymateb y myfyrwyr yn profi.
Ni fyddai'r dasg hon yn boblogaidd nawr, ond bryd hynny ni fyddai neb yn dychmygu y byddai athro neu 'rabi’ yn ymwneud â'r fath dasg. Yng nghyfnod Iesu, byddai pobl yn cerdded i bobman, yn y gwres, ar ffyrdd llychlyd, budr, tywodlyd, yn gwisgo sandalau wedi eu cau â chareiau. Yn naturiol, fe fyddai eu traed yn mynd yn llychlyd ac yn fudr iawn, ac o bosib yn ddrewllyd erbyn diwedd y dydd. Felly, gwaith y gwas oedd golchi traed pobl, nid gwaith arweinydd, ac nid Mab Duw yn sicr. Trwy wneud hyn, roedd Iesu'n gosod ei hun mewn safle israddol. Y noson honno fe olchodd draed ei ddisgyblion a'r diwrnod canlynol fe fu farw fel troseddwr cyffredin.
- Yn union ar ôl y pryd bwyd arbennig a rannodd gyda'i ddisgyblion, fe gafodd Iesu ei fradychu yng Ngardd Gethsemane gan un o'i ffrindiau agosaf. Mae Cristnogion yn credu ei fod yn ymwybodol o'r hyn oedd yn mynd i ddigwydd, ac oherwydd hynny fe aeth i'r ardd i weddïo. Roedd yn gweddïo am iddo dderbyn nerth ar adeg ei arestio ac ar gyfer yr hyn fyddai'n dilyn. Roedd ar fin ymgymryd â'r weithred anhunanol eithaf o gael ei ladd dros eraill, er gwaethaf ei fod yn ddyn dieuog.
Amser i feddwl
Bydd Cristnogion heddiw yn dathlu'r Cymun er cof am Swper Olaf Iesu. Mae'n ddefod ac yn adeg arbennig i fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd iddo.
Ar ddechrau'r pryd bwyd arbennig hwn, trwy olchi traed budr ei ffrindiau - tasg a oedd yn cael ei gwneud yn gyffredinol gan y gweision mwyaf israddol yn unig - fe atgoffodd Iesu ei ddisgyblion, a ninnau, y dylem ofalu am ein gilydd.
Bydd llawer tro yn ein bywydau pryd y gofynnir i ni, neu fe ddisgwylir i ni, wneud tasg na fyddwn ni o bosib yn mwynhau ei gwneud. Ond mae gennym esiampl Iesu i'n helpu i dderbyn y sefyllfa. Er mor ddiflas, mae'n rhaid gwneud y tasgau hyn, ac felly fe ddylen ni eu gwneud o wirfodd calon, eu gwneud yn anhunanol ein hunain fel nad yw pobl eraill yn gorfod eu gwneud yn ein lle.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am ddangos dy fod ti’n ein caru’r disgyblion yn y Swper Olaf.
Helpa ni i helpu’r rhai sydd o’n cwmpas a bod yn anhunanol yn hytrach na bod yn hunanol.
Amen.
Emyn
‘Said Judas to Mary’ gan Sidney Carter, neu hoff emyn Pasg o’ch dewis eich hun.