Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ydych chi bob amser â rheolaeth?

Ystyried rhai o’r negeseuon yn y llyfr cyntaf yn y drioleg The Hunger Games.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried rhai o’r negeseuon yn y llyfr cyntaf yn y drioleg The Hunger Games.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi deunyddiau o flaen llaw, er fe allech chi arddangos rhai delweddau o’r ffilmiau wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth ac eistedd.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o gerddoriaeth thema The Hunger Games, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).

Gwasanaeth

  1. Dychmygwch yr olygfa : mae plentyn bach yn gosod traciau trên bach ac yn gosod injan drên a dau gerbyd arno ar groesffordd. Yna, mae’n fwriadol yn dechrau symud trên bach arall o gwmpas y trac ac yn peri gwrthdrawiad rhwng y ddau drên, ac mae’n dweud, ‘Rydw i wedi gwneud crash mawr!’ Yna, mae’n mynd yn ei flaen i achub y cerbydau. Ac yntau’n feistr ar y cyfan sy’n digwydd o’i flaen yn ei fyd bach dychmygol, mae’n rheoli’r cyfan. Ef sy’n dewis beth sy’n digwydd, pryd, a sut.

  2. Roedd yr hen Roegiaid yn credu bod y duwiau’n rheoli eu holl symudiadau. Roedden nhw’n credu eu bod yn syml yn cael eu rheoli gan ewyllys y duwiau yr oedden nhw’n eu plesio neu ddim yn eu plesio, ac yn credu bod eu tynged yn llythrennol yn nwylo’r duwiau.

  3. Yn y llyfrau a’r ffilmiau The Hunger Games, mae’r thema rheolaeth yn ganolog. Roedd y Capitol wedi creu’r Hunger Games yn y lle cyntaf er mwyn rheoli a chosbi’r rhanbarthau am wrthryfela.

    Cystadleuaeth yw’r Hunger Games lle mae dau ‘tribute’, bachgen a geneth, yn cael eu dewis o fysg y bobl ifanc, 12 i 18 oed, ym mhob rhanbarth. Mae’n rhaid i’r cystadleuwyr geisio lladd y naill a’r llall, a’r un sy’n sefyll ar y diwedd yw’r enillydd.

    Does gan ddim un o’r tributes ddewis, a phob un yn cael ei ddewis yn ystod y ‘medi’ (‘reaping’), ac maen nhw a’u teuluoedd yn gwybod ei bod yn debygol iawn y byddan nhw’n marw. Dyma un ffordd y mae rheolwyr cenedl Panem yn ceisio cynnal a chadw rheolaeth, trwy godi ofn ar y bobl.

    Mae’r arena’n cael ei rheoli gan lunwyr y gemau, sef y duwiau os hoffech chi. Nhw sy’n creu’r tywydd, y dirwedd a’r rheolau. Maen nhw’n debyg i’r bachgen bach â’r trên bach, neu fel y duwiau Groegaidd, yn creu sefyllfaoedd lle mae pethau’n digwydd i’r unigolion fel eu bod yn dod i gwrdd â’i gilydd yn y gobaith y byddai hynny’n gorfodi brwydr rhyngddyn nhw, a’r ‘tributes’ yn marw. Er enghraifft, un digwyddiad yn yr Hunger Games cyntaf yw tân. Mae tân yn cael ei achosi er mwyn gorfodi’r cystadleuwyr ddod at ei gilydd. Mae hefyd yn rhoi rhywbeth i gynulleidfa’r teledu i’w wylio. Mae’r ffaith bod y rheolau’n cael eu newid gan y rhai sy’n rheoli, a bod angen i’r ‘tributes’ ymddwyn mewn ffordd neilltuol hefyd, yn nodi eu bod yn cael eu rheoli gan bobl sydd o’u cwmpas a thu hwnt iddyn nhw.

    Mae’r lefel hon o reolaeth yn treiddio i mewn i berthnasoedd un o’r ‘tributes’ hefyd, sef  Katniss’. Mae hi’n unigolyn sydd dim yn gallu sefydlu perthynas yn hawdd iawn, ac mae’n amddiffyn ei hun rhag eraill rhag iddyn nhw ei brifo. Ond does ganddi hi, fodd bynnag, ddim syniad o’r effaith mae hi’n ei gael ar bobl eraill.

    Meddyliwch am beth sy’n gwneud i chi sefydlu’r perthnasoedd sydd gennych chi. Ai angen sy’n peri i chi eu sefydlu? Oes raid i chi weithio gyda rhywun mewn sefyllfa grwp dydych chi ddim yn hapus yn ei chylch, er enghraifft?

    Mae Katniss a Peeta - y tribute arall o’r un rhanbarth â Katniss - yn cael eu gorfodi i berthynas â Haymitch ac Effie, dau na fydden nhw wedi eu dewis mewn sefyllfa normal. Mae Katniss yn sefydlu perthynas, allan o angen, ag un o’r enw Gale, hefyd, ond fe ddaw yn wirioneddol hoff ohono yn y pen draw.  Mae Peeta’n datblygu perthynas â’r ‘career tributes’, yn rhannol er mwyn gallu goroesi, ond yn bennaf er mwyn amddiffyn Katniss. Mae Katniss, yn ei thro, yn datblygu perthynas â Rue, ac mae’r berthynas yn rhoi cysur i’r ddau a chyfeillgarwch mewn amgylchedd sy’n ymddangos yn hollol anghyfeillgar. Mae Katniss hefyd yn chwarae rôl perthynas cariadon ‘star-crossed’ gyda Peeta, o anghenraid. Mae hi’n gwneud i bawb yn Panem, ac yntau, gredu ei bod yn ei garu. Ond yn achos Peeta, nid gêm yw hon - mae’n caru Katniss o ddifrif ac wedi gwneud hynny o’r dechrau.

  4. Ai tosturi sydd wrth wraidd eich perthnasoedd chi? Ydych chi’n dechrau trwy deimlo tosturi tuag at rywun ac yna’n dod yn ffrind am eich bod eisiau ei helpu? Ydych chi’n adeiladu perthynas yn seiliedig ar fod yn gytbwys o’r ddau du, beth mae rhywun yn gallu ei roi i chi neu’n gallu ei wneud i chi, neu, a ydych chi’n adeiladu perthynas oherwydd ei bod wedi ei ‘gorfodi’ arnoch chi?

  5. Mae gennym ni berthnasoedd â’n rhieni, ein brodyr neu ein chwiorydd, ac ag aelodau eraill ein teulu. Mae disgwyl i ni gynnal y perthnasoedd hyn, ac fe allwn ni eu cynnal yn ôl ein dymuniad. Mae perthynas Katniss a’i mam yn berthynas anodd iawn, yn rhannol oherwydd y ffaith y bydden nhw, fwy na thebyg, wedi marw o newyn oni bai am Katniss.

  6. Er nad yw ein hamgylchedd ni mor eithafol â’r amgylchedd sydd yn yr Hunger Games neu’r byd ôl-apocalyptaidd y maen nhw’n digwydd ynddo, mae’n ddigon posib y gallwn ni weld tebygrwydd mewn rhai mannau i’n bywyd ein hunain yn y sefyllfaoedd ffuglennol.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am y sefyllfaoedd yn ein bywyd lle mae gennym ni reolaeth drostyn nhw, a meddwl sut mae hynny’n gallu effeithio ar eraill. Ydych chi’n hoffi bod â rheolaeth bob amser, neu a fyddwch chi’n ddigon bodlon gadael i rywun arall reoli ar yr adegau pan fydd angen hynny?

Gadewch i ni feddwl am ein perthnasoedd. Sut maen nhw’n cael eu ffurfio? Pam rydyn ni’n ffurfio’r berthynas? Beth allwn ni ei wneud i beri i berthynas fod yn well ac yn fwy ystyrlon?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol

Cerddoriaeth thema The Hunger Games

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon