Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Chwarae a theganau:gwerth y tegan Lego

Archwilio gwerth chwarae.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio gwerth chwarae.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi ddelweddau o’r tegan Lego, a’r modd o’u dangos wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth ac eistedd (gwiriwch yr hawlfraint), os byddwch chi’n dewis arddangos y delweddau.
  • Fe allech chi ddechrau’r gwasanaeth trwy roi pentwr o Lego i ddau fyfyriwr a gofyn iddyn nhw adeiladu rhywbeth wrth i’r gwasanaeth fynd yn ei flaen. Cyfeiriwch yn ôl atyn nhw ar y diwedd er mwyn cael gweld sut hwyl mae’r ddau wedi ei gael, a beth maen nhw wedi ei greu.

Gwasanaeth

  1. Mae atgofion am chwarae â theganau’n atgofion hapus gan lawer am eu plentyndod . Mae pawb yn gallu cofio ei hoff degan, neu’n cofio am gêm roedden nhw’n ei chware, neu’n cofio hoff weithgaredd hamdden, pan oedden nhw’n blant. Un o’r teganau mwyaf poblogaidd yn y byd heddiw yw Lego. Mae saith tegan Lego’n cael eu gwerthu rywle yn y byd bob eiliad, ac mae modelau ceir bach Lego yn gwneud y cwmni’n gynhyrchwyr teiars mwyaf y byd – mwy na 400 miliwn y flwyddyn!

  2. Sefydlwyd y cwmni o Ddenmarc yn 1932, gan ddyn o’r enw Ole Kirk Kristiansen, cwmni a oedd yn gwneud teganau pren bryd hynny. Daw’r enw o eiriau yn yr iaith Ddaneg - ‘Leg godt’, sy’n golygu ‘chwarae’n dda’. Yn y 1950au, fe ddechreuodd Kristiansen gynhyrchu’r blociau plastig cyfarwydd sy’n clicio at ei gilydd ac sydd wedi dod yn gynnyrch eiconig y cwmni erbyn hyn. Cynhyrchwyd cynllun newydd o flociau a modelau trwy gydol yr 1960au a’r 1970au i greu’r tegan addasadwy ac amlbwrpas sy’n dal yn boblogaidd hyd heddiw.

  3. Mae’r tegan yn un poblogaidd ymysg amrywiaeth mawr o wahanol bobl. Yn ogystal â bod yn hoff degan bythol gan blant, mae oedolion hefyd yn honni eu bod yn hoff iawn o’r tegan – yn cynnwys David Beckham a Britney Spears, sy’n dweud eu bod yn ffan mawn o Lego. Mae David Beckham yn dweud bod chwarae â Lego yn ei helpu i ymlacio.

  4. Yn achos llawer o bobl, hyd yn oed oedolion, mae chwarae yn eu helpu i ganolbwyntio ar bethau sy’n wirioneddol bwysig yn eu bywyd. Mae gemau a chwaraeon yn caniatáu i ni ailadeiladu cyfeillgarwch a pherthnasoedd personol y tu allan i waith dyddiol a chyfnodau o astudio. Er mai profiad chwarae unigol yw chwarae â Lego’n gyffredinol, mae’r creadigrwydd a’r dychymyg y mae’n ei ysgogi yn ein helpu i weld y pethau pwysicach yn ein bywyd.

  5. Er bod llawer o bobl yn cael gwared â’u teganau wrth iddyn nhw dyfu’n hyn, mae defnyddio’r dychymyg yn rhan bwysig o fywyd hapus a chreadigol. Mae’n bwysig nad ydyn ni’n gadael i’n creadigrwydd ddiflannu wrth i ni dyfu’n oedolion.

Amser i feddwl

Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi eistedd i lawr, ar ben eich hunan o bosib, a chwarae â rhywbeth fel Lego? Neu efallai chwarae â thrên bach, neu chwarae gêm fwrdd gydag oedolion hyn eich teulu?

Efallai eich bod yn hoffi mynd i’r gegin i goginio, neu ddylunio patrwm ar eich cyfrifiadur neu ar bapur . . .

Efallai eich bod yn hoffi mynd ar eich beic er mwyn cael clirio’ch meddwl . . .

Mae chwarae a hamddena, ‘r and r’ (rest and relaxatiopn), yn bwysig iawn i’n meddwl yn ogystal ag i’n corff.

Treuliwch foment neu ddwy yn awr yn ystyried sut mae modd i chi gael amser i chi eich hunan, a sut y gallwch chi ddefnyddio’r amser i adfywio’ch hunan yn effeithiol.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon