Allwn ni ddeall hyn?
Yr esgyniad a safbwynt y dyneiddiwr
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Archwilio synnwyr ysbrydolrwydd myfyrwyr trwy ystyried hanes Iesu’n esgyn i’r nefoedd.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a darllenydd. Mae testun y darllenydd yn seiliedig ar adnodau o Efengyl Luc 24 ac Actau 1.
- Eleni, 2014, caiff Dydd Iau Dyrchafael ei ddathlu ar 29 Mai.
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân, ‘Your love keeps lifting me higher and higher’ gan Jackie Wilson, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
Gwasanaeth
- Arweinydd A ydych chi'n ddyneiddiwr neu'n theistiad? Mewn geiriau eraill, pa mor dda ydych chi am ddatys problemau?
Gadewch i ni ddechrau gyda'r hyn sy'n ymddangos yn bosau syml, fel croeseiriau a phosau Sudoku. Yn bersonol, rwy'n cyrraedd y lefel lle'r wyf yn cael trafferth yn sydyn iawn.
Beth am broblemau mecanyddol? Allech chi drwsio peiriant car modur, peiriant gwnïo neu gyfrifiadur sydd ddim yn gweithio'n iawn? Mae'n ymddangos bod rhai pobl yn meddu ar y ddawn naturiol o drwsio dyfeisiadau, ond nid llawer ohonom ni. - Gadewch i ni feddwl am berthnasoedd nesaf. Pan fydd dadl neu rwyg mewn perthynas, efallai rhwng eich ffrindiau neu hyd yn oed rhwng eich rhieni, pa mor dda ydych chi am eu helpu i ddatrys eu problem? Pa mor dda ydyn nhw? A oes unrhyw un sy'n gallu helpu? Ar adegau prin, gall rywun o'r tu allan roi'r mewnbwn iddyn nhw sy'n gallu bod o help, ond nid yn aml.
- Yn olaf, mae problemau mawr y byd – materion fel rhyddid, tlodi, anghyfiawnder ac anghyfartaledd. Mae sefydliadau, fel y Cenhedloedd Unedig, sy'n ceisio ymateb i broblemau penodol, ond gallwn weld ar y newyddion dyddiol bod y canlyniadau'n anghyson.
- Ffordd y dyneiddwyr o edrych ar fywyd yw dechrau gyda'r cynsail bod pob bod dynol yn meddu ar y cyfan o adnoddau sydd ei angen arnom i ddatrys pob problem a wynebwn. Pe bydden ni'n gallu gwneud defnydd o'r meddyliau gorau a'r ymchwil gorau i faterion y byd, yna byddai modd canfod atebion. Os nad ydyn ni wedi cael hyd iddyn nhw hyd yn hyn, dydy hyn ddim ond am ein bod angen mwy o amser, mwy o adnoddau, mwy o feddwl ochrol a rhesymegol. O bosib, dyma'r ffordd y mae'r mwyafrif ohonom yn byw ein bywyd ac, am beth o'r amser, mae'n ymddangos fel pe byddai hynny’n gweithio.
Rwyf am ddangos ffordd arall i chi ddod at y broblem. Daw’r ffordd hon o un o'r storïau am fywyd Iesu, sydd ymhlith y mwyaf anghyffredin a bron yn ffug-wyddonol. - Darllenydd Ar ôl i Iesu atgyfodi i fywyd, mae'r Beibl yn adrodd wrthym ei fod wedi treulio 40 diwrnod yng nghwmni ei ddisgyblion, yn eu haddysgu ac yn dangos iddyn nhw, trwy ei esiampl, sut yr oedden nhw i barhau â'i waith o bregethu, addysgu ac iacháu. Yna, un diwrnod, fe aeth â nhw allan o ddinas Jerwsalem, i bentref Bethania. Wrth iddyn nhw sefyll gyda'i gilydd ar ochr bryn, yn ddirybudd, fe esgynnodd Iesu, mae'n debyg, i'r awyr gymylog a diflannu o'r golwg. Dyna'r tro olaf y byddai unrhyw un ohonyn nhw'n ei weld.
- Arweinydd Stori ryfedd! Beth yw ystyr hyn i gyd?
Mae llawer o bobl yn cytuno gyda'r mwyafrif o ddysgeidiaeth Iesu. Mae llawer o bobl yn edrych arno fel un o'r dynion mwyaf arwyddocaol a fu’n fyw erioed. Mae llawer o bobl yn dweud pe bydden ni'n byw yn unol â'i egwyddorion, fe fydden ni'n gallu datrys llawer o broblemau'r byd, ond mae'r stori yma'n mynd â ni i ddimensiwn gwahanol.
Mae Cristnogion yn credu mai'r hyn sy'n gwneud Iesu'n unigryw yw'r gallu sydd ganddo o ddwyn ynghyd yr adnoddau sy'n ddynol a'r adnoddau dwyfol, am ei fod yn Dduw ac yn ddynol mewn un person. Mae Cristnogion yn credu hefyd, yn ychwanegol at roi synnwyr cyffredin, dysgeidiaeth feddylgar ar berthnasoedd, moesoldeb, economeg a bron bob agwedd arall ar fywyd dynol, yn union fel dynion a merched doeth eraill, roedd Iesu'n cynnig i ni ran yn yr adnoddau dwyfol a fyddai'n ein galluogi ni i fyw'r ddysgeidiaeth hon. Fe alwodd y nerth hwn oddi wrth Dduw yn Ysbryd Glân. - Stori’r Dyrchafael yw honno am Iesu'n ymadael â'i ddisgyblion ar ochr y bryn. Bydd yr Eglwys Gristnogol yn dathlu'r digwyddiad hwn ar Ddydd Iau'r Dyrchafael, sydd yn digwydd eleni ar ddydd Iau 29 Mai. Caiff y digwyddiad hwn ei ystyried fel diwedd ar waith Iesu o safbwynt dynol. Mae Iesu'n ymddiried yn y ddynoliaeth yn awr i barhau â'r gwaith trwy ddefnyddio nerth Duw, y mae ef wedi ei gyflwyno iddyn nhw. Mae wedi dweud wrthyn nhw y gallan nhw, hefyd, wneud popeth y gwnaethon nhw ei weld yn ei wneud, os ydyn nhw'n credu ac yn ymddiried yn y nerth hwnnw.
Amser i feddwl
Ydych chi'n cofio fy nghwestiwn i ar ddechrau'r gwasanaeth? Fe ofynnais i, ‘A ydych yn ddyneiddiwr neu'n theistiad?’ Mae'n gwestiwn am yr adnoddau hynny yr ydym yn barod i'w defnyddio i fyw ein bywydau, wrth ddatrys ein problemau. Bydd rhai ohonom yn fodlon defnyddio'r cyngor a'r hyfforddiant gorau y gallwn ei gael o safbwynt dynol. Mae Dydd Iau'r Dyrchafael yn awgrymu y gall fod rhywbeth arall hefyd. Theistiad yw rhywun sy'n cadw'n agored y posibilrwydd bod yna Dduw ac y gall Duw fod yn ymwneud â bywydau bodau dynol fel eich bywyd chi a fi, ac yn helpu datrys problemau yr ydych chi a mi'n eu hwynebu.
Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch i ti am fywyd Iesu, ei natur ddynol ac am ei natur ddwyfol.
Pan fyddwn ni’n methu meddwl am syniadau,
Pan fyddwn ni’n wynebu problemau anodd,
Pan fydd hi’n ymddangos fel pe nad oes ateb,
Atgoffa ni am yr am yr adnoddau dwyfol yr wyt ti yn eu cynnig i ni.
Amen.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol
‘Your love keeps lifting me higher and higher’ gan Jackie Wilson