Dathliad pen-blwydd
Pentecost
gan the Revd John Challis
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
- Ysgolion Eglwys
Nodau / Amcanion
Rhoi eglurhad syml am y Pentecost.
Paratoad a Deunyddiau
- Os bydd hynny’n bosib, ceisiwch fenthyca, casul coch / neu stola goch (efallai y byddai eich eglwys leol yn fodlon rhoi benthyg y naill neu’r llall, neu’r ddau beth i chi).
- Fe fydd arnoch chi hefyd angen teisen pen-blwydd, canhwyllau a matsis.
Gwasanaeth
- Gwahoddwch un o’r myfyrwyr atoch chi i wisgo’r casul a’r/ neu’r stola. Dywedwch nad yw’r dillad neilltuol hyn yn cael eu gwisgo’n aml yn yr eglwys, ond mae un adeg neilltuol pan fyddan nhw’n cael eu gwisgo.
- Yna dangoswch y deisen pen-blwydd, a gofynnwch oes rhywun yn gallu dyfalu am ba adeg o’r flwyddyn rydych chi’n meddwl.
Disgwyliwch ateb tebyg i ben-blwydd Iesu, a rhywfaint o chwerthin efallai pan ddywedwch chi mai Dydd Nadolig yw dydd pen-blwydd Iesu, ond peidiwch â bod yn rhy galed ar y rhai sy’n cynnig atebion i chi! - Dewch â’r canhwyllau i’r golwg a’u gosod ar y deisen pen-blwydd. Holwch eto, ‘Am ba adeg o’r flwyddyn rydw i’n meddwl?’
- Goleuwch y canhwyllau. Holwch eto, ‘Am ba adeg o’r flwyddyn rydw i’n meddwl?’
- Y tro hwn, gofynnwch i’r myfyriwr sy’n gwisgo’r casul/ stola chwythu’r canhwyllau, a derbyniwch rai o gynigion y myfyrwyr eraill i ateb eich cwestiwn. Efallai y bydd rhai yn gwybod yr ateb rydych chi’n ceisio’i gael, efallai na fydd rhai eraill yn gwybod.
- Eglurwch mai’r Pentecost oedd yr adeg pan ddaeth yr Ysbryd Glân ar ddisgyblion Iesu, a hynny ar ffurf tân a gwynt. Dyna pam y mae’r canhwyllau sydd gennych chi’n cynrychioli’r tân, a’r weithred o’u chwythu’n cynrychioli’r gwynt. Coch yw’r lliw litwrgaidd y mae’r eglwysi’n ei ddefnyddio’n aml ar gyfer y Pentecost, ac mae’n adeg mor arbennig yng nghalendr yr eglwys fel ein bod yn meddwl am yr adeg hon fel pen-blwydd yr eglwys, a dyna beth mae’r deisen yn ei gynrychioli.
- Efallai y gallech chi ganu ‘Pen-blwydd hapus’ i’r Eglwys!
Emyn
Meddyliwch pa mor hapus fyddwn ni ar ddydd ein pen-blwydd . . .
Nawr, gadewch i ni fod yn hapus ynghylch hyn, sef pen-blwydd yr Eglwys!
Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.