Dewrder argyhoeddiad
Ystyried beth mae’n ei olygu i fod â dewrder yn eich argyhoeddiadau eich hun.
gan Janice Ross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Ystyried beth mae’n ei olygu i fod â dewrder yn eich argyhoeddiadau eich hun.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen bwrdd gwyn a phinnau ffelt, gydag enwau'r saith unigolyn a’r disgrifiadau sy’n cael eu rhoi yng Ngham 3 y gwasanaeth hwn, wedi eu hysgrifennu ar y bwrdd gwyn. Newidiwch drefn y disgrifiadau fel nad ydyn nhw gyferbyn ag enw’r unigolyn maen nhw’n eu disgrifio.
- Fe fydd arnoch chi angen saith myfyriwr i ddarllen y disgrifiadau sy’n cael eu rhoi yng Ngham 3. Fe allwch chi baratoi’r myfyrwyr hyn o flaen llaw neu eu dewis yn y gwasanaeth ar y diwrnod.
- Chwiliwch am ddelwedd o Malala Yousafzai, a threfnwch fodd o’i dangos yn ystod y gwasanaeth (gwiriwch yr hawlfraint).
- Er mwyn cael stori Malala, ewch i’r wefan: www.bbc.co.uk/news/magazine-24379018
- Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r gân ‘Stand up for your rights’ gan Bob Marley, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.
Gwasanaeth
- Ysgrifennwch y gair ‘dewrder’ ar y bwrdd gwyn.
Gofynnwch i'r myfyrwyr i awgrymu gweithredoedd dewr sy'n dod i'w cof ac enwau pobl ddewr. - Mae ‘dewrder’ yn air sydd hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r rhai hynny sydd wedi goresgyn anawsterau dwys, treialon a gofidiau. Gall hefyd cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r rhai hynny sydd wedi rhoi eraill o’u blaen eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus.
Un diffiniad posib ohono yw:
ansawdd y meddwl a'r ysbryd sy'n galluogi unigolyn i wynebu anhawster, perygl a phoen. - Ysgrifennwch y geiriau ‘dewrder yn eich argyhoeddiadau eich hun’ ar y bwrdd gwyn.
Gall hyn olygu, ‘Gallaf wneud hyn!’, ‘Fe wnaf hyn!’, ‘Nid yw hyn yn gywir a chyfiawn. Rhaid i mi wneud rhywbeth yn ei gylch.’ - Enghraifft dda o hyn allai fod y penderfyniad a’r gred sy'n perthyn i'r cymeriad sy'n cael ei bortreadu gan Sandra Bullock yn y ffilm Gravity, y byddai hi'n dychwelyd i'r Ddaear.
Un arall fyddai penderfyniad Eric Liddell fel Cristion i beidio â rhedeg yn y rhagras i ennill lle ar gyfer y teitl 100 metr Olympaidd yn y ffilm Chariots of Fire oherwydd eu bod yn cael eu cynnal ar y Sul, a oedd iddo ef yn ddiwrnod o addoli a gorffwys. - Diffiniad posibl arall yw:
i weithredu yn unol â’n credoau ein hunain, yn arbennig er gwaethaf beirniadaeth, a bod yn ddigon dewr i wneud yr hyn yr ydych yn meddwl sy'n iawn, heb ystyried unrhyw bwysau arnoch chi i wneud rhywbeth gwahanol.
- Ystyriwch rhai pobl sydd yn enwog am fod yn ddewr dros eu hargyhoeddiadau.
Os ydych wedi dilyn y cyfarwyddyd yn y rhan ‘Paratoad a deunyddiau’ uchod, byddwch eisoes wedi ysgrifennu enwau'r saith o bobl sy'n dilyn a'r disgrifiadau ar y bwrdd gwyn. Byddwch wedi newid trefn y disgrifiadau fel nad ydyn nhw bellach yn y drefn gywir.
Darllenwch yr enwau, oherwydd efallai nad yw pob myfyriwr yn gyfarwydd â nhw, yna gofynnwch i saith myfyriwr ddarllen y disgrifiadau i bawb, un ar y tro. Gofynnwch i'r myfyrwyr ddyfalu a dweud bob tro pa berson sy'n cael ei ddisgrifio.
Nelson Mandela ‘Rwyf wedi anwylo'r ddelfryd o gymdeithas rydd a democrataidd lle mae pob person yn byw ynghyd mewn harmoni gyda chyfleoedd cyfartal.’
Dietrich Bonhoeffer Gwrthwynebodd y gyfundrefn Natsïaidd yn yr Almaen, y rhaglen ewthanasia, ac erledigaeth yr Iddewon.
Emily Pankhurst Swffragét a arweiniodd ymgyrchoedd o anufudd-dod sifil yn erbyn system wleidyddol oedd yn cael ei thra-arglwyddiaethu gan ddynion.
Rosa Parks Actifydd iawnderau sifil Americanaidd a ddechreuodd y boicot bws yn Montgomery trwy wrthod ildio ei sedd i berson gwyn.
William Wilberforce Ymgyrchodd yn erbyn caethwasiaeth, ac roedd yn gyfrifol am lunio'r Bil Diddymu Caethwasiaeth 1833, a ddaeth yn ddeddf yn y flwyddyn ganlynol.
Aung San Suu Kyi Arweinydd yr wrthblaid yn Burma.
Mahatma Gandhi Gwleidydd o India a ymdrechodd i sicrhau annibyniaeth i India trwy brotestiadau di-drais.
Roedd y cyfan o'r bobl hyn yn meddu ar ddewrder ynghylch eu hargyhoeddiadau. Fe wnaethon nhw rywbeth i newid pethau yr oedden nhw'n credu oedd ddim yn iawn.
Ystyriwch yr hyn a gostiodd iddyn nhw i wneud hyn.
Nelson Mandela fe'i carcharwyd am 27 mlynedd
Dietrich Bonhoeffer fe'i dienyddiwyd
Emily Pankhurst fe'i carcharwyd hi droeon
Rosa Parks fe'i carcharwyd
William Wilberforce fe wynebodd flynyddoedd o wrthwynebiad ac atalfeydd cyson
Aung San Suu Kyi fe'i cadwyd yn gaeth gartref am flynyddoedd
Mahatma Gandhi fe'i carcharwyd, treuliodd gyfnodau hir o ymprydio, a chafodd ei lofruddio.
Yr hyn yr oedden nhw'n credu ynddo achosodd iddyn nhw weithredu. Fe ddaeth eu hargyhoeddiadau yn waith bywyd iddyn nhw. Fe gostiodd lawer i fod mor ddewr, hyd yn oed at farwolaeth.
- Fe allai'r myfyrwyr feddwl fod yr holl bobl hyn yn alluog, yn bobl enwog, ac felly yr oedd yn bosib iddyn nhw wneud rhywbeth, ac roedden nhw’n bobl â dylanwad.
Dangoswch y ddelwedd o Malala Yousafzai.
Merch ysgol o Bacistan yn unig yw hi, ond mae ganddi'r dewrder i ymgyrchu dros yr hawl i addysg. Eglurwch beth y mae hyn wedi ei gostio iddi eisoes – sef ei bod wedi ei saethu yn ei phen gan y Taliban a bu bron iddi golli ei bywyd ar ôl iddi herio'u bygythiadau y byddai'r rhai fyddai'n dadlau yn eu herbyn yn cael eu cosbi.
Amser i feddwl
Am beth y mae gennych chi deimladau cryf?
Gall fod yn ffydd, gall fod yn anghyfiawnder a thlodi yn y byd, gall fod yn rhywbeth sy'n digwydd yn agos atoch sydd yn annheg neu'n anghyfiawn.
Sut beth fyddai cael dewrder dros eich argyhoeddiadau i wneud rhywbeth yn eu cylch?
Efallai y gall fod yn rhywbeth syml fel dweud, ‘Na, dydw'i ddim eisiau ysmygu’ neu ‘Na, fydda i ddim yn ymuno â'ch bwlio’, ‘Na, dydw i ddim eisiau chwarae o gwmpas, dw'i eisiau astudio a gwneud fy ngorau yn yr ysgol’ neu ‘Na, fe wnaf yn union fel mae fy rhieni'n ei ofyn, a dangos parch atyn nhw’.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Nid yw sefyll yn gadarn dros yr hyn a gredwn ynddo fyth yn hawdd. Mae'n golygu dewrder mawr ac ychydig o ddewrder sydd gan lawer ohonom.
Diolch i ti am y bobl niferus dros y byd i gyd sydd wedi derbyn yr her o weithredu dros yr hyn y maen nhw'n credu ynddo a bod yn barod hyd yn oed i roi eu bywydau dros y materion hynny y maen nhw'n credu ynddyn nhw.
Rydym yn gwerthfawrogi'r manteision y mae eu dewrder wedi ei ddwyn i lawer o fywydau.
Amen.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
‘Stand up for your rights’ gan Bob Marley