Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Boddi yn y gofod!

Myfyrio ar gadw’n bwyllog mewn adeg o argyfwng.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar gadw’n bwyllog mewn adeg o argyfwng.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o’r clip fideo byr o NASA a ymddangosodd mewn adroddiad newyddion y BBC, a threfnwch fodd o ddangos hwn yn ystod y gwasanaeth (ar gael ar: www.bbc.co.uk/news/science-environment-23777804). Mae’n para 1.26 munud.
  • Mae’r testun ar adroddiad y BBC sy’n cyd-fynd â’r fideo’n cynnwys manylion ychwanegol a rhagor o atgofion Luca am y digwyddiad.
  • Trefnwch fod gennych chi recordiad o unrhyw gerddoriaeth addas sy’n ymwneud â’r gofod, fel Oxygene gan Jean Michel Jarre, neu ran o agorawd The Hebrides, sydd hefyd yn cael ei galw’n Fingal’s Cave, gan Mendelssohn, sy’n ymwneud â dwr yn llifo, a modd o chwarae’r gerddoriaeth ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch stori'r gofodwr Eidalaidd Luca Parmitano, a gafodd hyd i ddwr yn ei helmed yn ystod tro yn y gofod. Gorchuddiwch y ffeithiau sylfaenol (gweler isod) a dangoswch y fideo byr.

  2. Y ffeithiau sylfaenol yw, ar 16 Gorffennaf 2013, roedd Luca ar dro cynnal a thrwsio rheolaidd yn y gofod, ac fe ddigwyddodd rhywbeth oedd yn golygu mai dim ond cael a chael oedd hi iddo gyrraedd yn ei ôl i'r Orsaf Ofod Ryngwladol.

    Tuag awr ar ôl dechrau ei daith chwe awr wedi ei chynllunio yn y gofod, fe ddechreuodd Luca deimlo lleithder ar gefn ei ben.

    Cyn bo hir, roedd dwr yn llifo i'w lygaid a'i glustiau, gan ei gwneud hi'n anodd iddo weld a chlywed ei gyd-ofodwr, Christopher Cassidy.

    Penderfynwyd cael Luca yn ôl i mewn i'r aerglos yn sydyn.

    Fe gyrhaeddodd yn ôl i'r aerglos a defnyddiodd y criw reolwaith argyfwng i'w gael i mewn i'r orsaf ofod yn sydyn ac i dynnu ei siwt ofod oddi amdano.

    Fe ddarganfu NASA yn ddiweddarach fod y dwr wedi gollwng o system oeri'r siwt a bod yr un siwt wedi cael problem debyg ond llai peryglus yn y gorffennol ond na chafodd y mater ei ymchwilio'n briodol.

  3. Nodwch nad yw'r ffeithiau sylfaenol yn dechrau datgelu gwir ddrama'r sefyllfa. Yn gyntaf, rhaid i ni feddwl am sut y mae dwr yn ymddwyn yn yr amgylchfyd micro ddisgyrchiant sy'n bodoli wrth gylchdroi'r Ddaear. Nid yw'n llifo i lawr oherwydd nid oes ‘i lawr’ yn y gofod. Yn hytrach, mae'r dwr yn ffurfio globylau, fel  swigod sebon, sy'n glynu yn unrhyw beth y maen nhw'n glanio arno - yn cynnwys wyneb y gofodwr.

    Mae methu â gweld yn glir yn y gofod yn golygu y gallwch fynd yn gwbl ddryslyd. Heb ddisgyrchiant i'ch hysbysu pa un ai a ydych wyneb i waered ai peidio, gallwch yn sydyn fod, yn llythrennol, ‘ar goll yn y gofod’.

    Dychmygwch y dychryn o gael cromen wydr dros eich pen sydd yn llenwi'n araf â dwr sydd yn gorchuddio eich wyneb. Mae'n swnio fel artaith neu hunllef.

    Wrth ddwyn y digwyddiad ar gof, fe ddywedodd Luca:

    By now, the upper part of the helmet is full of water and I can't even be sure that the next time I breathe I will fill my lungs with air and not liquid.

    To make matters worse, I realize that I can't even understand which direction I should head in to get back to the airlock. I can't see more than a few centimetres in front of me, not even enough to make out the handles we use to move around the station.

    Dangoswch y fideo.

  4. Dywedwch mai efallai'r rhan fwyaf rhyfeddol o'r stori hon yw ymateb Luca. Wnaeth o ddim cynhyrfu, er ei fod mewn sefyllfa oedd yn peryglu ei fywyd nad oedd neb wedi ei hwynebu erioed o'r blaen, ac nad oedd wedi cael ei chynllunio ar ei chyfer. Yn hytrach, fe ystyriodd beth y gallai ef ei wneud a sut i gael ei hun allan o'r sefyllfa ddychrynllyd hon. Ei ateb oedd teimlo am ei gebl diogelwch a dilyn hwnnw tuag at yr aerglos, er ei fod yn parhau i fethu â gweld na chlywed yn iawn. Fe ddywedodd Luca am hyn:

    I move for what seems like an eternity (but I know it's just a few minutes). Finally, with a huge sense of relief, I peer through the curtain of water before my eyes and make out the thermal cover of the air lock: just a little further and I'll be safe.

    Gallech nodi pa mor dawel y mae'r rheolydd teithiau i'r gofod Capcom (person sy'n sgwrsio â'r gofodwyr o'r ddaear) yn swnio ar y fideo; nid yw'n gallu gadael i unrhyw deimlad o banig ymddangos yn ei lais. Mae pawb yn canolbwyntio ar 'ddatrys y broblem dan sylw’ - cael hyd i ateb a fydd yn cadw Luca'n fyw.

  5. Eglurwch fod NASA, yn dilyn y digwyddiad, wedi creu gweithdrefnau newydd ac wedi addasu eu siwtiau gofod i helpu delio ag unrhyw argyfwng tebyg yn y dyfodol.  Mae'r siwt ofod a wisgodd Luca wedi cael ei defnyddio'n llwyddiannus eto.

Amser i feddwl

Mae stori Luca Parmitano yn ein hysbrydoli a'n herio i feddwl sut yr ydym yn ymdopi ar adegau o greisis a sefyllfaoedd argyfyngus.

A ydym yn cynhyrfu a gwneud materion yn waeth, neu a allwn gadw'n dawel a ‘gweithio ar y broblem’ er mwyn cael hyd i ateb?

Roedd angen ei gyd-ofodwyr ar Luca ynghyd â'r rheolydd teithiau i'r gofod. A ydyn ni'n dda am ymglymu â phobl eraill, trwy ddefnyddio eu sgiliau a'u barn i'n helpu ni?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Dewiswch gerddoriaeth addas, fel Oxygene gan Jean Michel Jarre, neu ran o agorawd The Hebrides, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Fingal’s Cave, gan Mendelssohn

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon