Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae'n dipyn o daith!

Parod am unrhyw beth

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio synnwyr y myfyrwyr o ymroddiad byrdymor ac ymroddiad hirdymor.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen arweinydd a thri darllenydd.
  • Trefnwch i gael recordiad o’r gân ‘Hold on’ gan KT Tunstall, a’r modd o’i chwarae ar ddiwedd y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Pan gyhoeddodd Prydain ar 4 Awst, 1914, ei bod yn mynd i ryfel yn erbyn yr Almaen, rhoddodd arweinyddiaeth y wlad arwydd clir o’r canlyniad.

    Darllenydd 1 Bydd y rhyfel drosodd erbyn y Nadolig.

    Arweinydd  Yn ôl pob tebyg gyda Phrydain yn fuddugol. Cyhoeddwyd neges gyffelyb yn yr Almaen, fodd bynnag, pan ddywedodd y Kaiser Wilhelm wrth ei filwyr:

    Darllenydd 2 Byddwch yn ôl adref cyn y bydd y dail wedi disgyn oddi ar y coed.

    Darllenydd 3 Yn y cyfamser, roedd byddin Rwsia yn cynllunio bod ym Merlin, gan oresgyn prifddinas yr Almaen, ymhen chwe wythnos.

  2. Arweinydd Yr un neges a gafwyd gan bob un o'r gwledydd oedd yn wynebu'i gilydd. Roedd hi'n ymddangos fod pawb yn credu na fyddai'r rhyfel hwn yn parhau'n hir. Pam oedden nhw'n meddwl hynny?

    Darllenydd 1 Roedd y naill ochr a'r llall yn credu bod ganddi hi arfau oedd mor flaengar o ran technoleg, y byddai'n bosib iddi ysgubo ymaith y gwrthwynebwyr. Roedd y tanciau a'r gynau peiriant yn gymaint o beiriannau lladd effeithiol fel yr oedd pobl yn credu y byddai'r gelyn yn cael ei chwalu. Yn wir, roedd yr Almaen mor hyderus yn rhagoriaeth ei harfau dros bawb arall fel nad oedd gan ei harweinwyr milwrol ddim ond digon wrth gefn o'r cemegau angenrheidiol ar gyfer cynhyrchu ffrwydron i barhau am chwe mis.

    Darllenydd 2 Roedd hanes diweddar hefyd wedi cynnig nifer o gynseiliau dros ryfeloedd byr. Ychydig yn llai na blwyddyn a barhaodd y Rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia, chwe mis ar y mwyaf oedd hyd Rhyfel gyntaf y Böer a'r Rhyfeloedd Sbaenaidd-Americanaidd. Dim ond am ychydig dros ddwy flynedd y parhaodd ail Ryfel y Böer.

    Darllenydd 3 Y prif reswm, fodd bynnag, oedd yr un yn ymwneud â phropaganda. Roedd yr addewid o ryfel byr yn gymhelliad i ddynion wirfoddoli i ymladd. Roedd y syniad rywfodd yn ymddangos yn llai difrifol pe na byddai'n parhau am amser hir. Roedd hyn yn hybu optimistiaeth ac yn fodd o gadw'r morâl yn uchel ym mhob gwlad.

  3. Arweinydd Fel y gwyddom bellach, fe fyddai'r Rhyfel Byd Cyntaf yn parhau am dros bedair blynedd. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod cryfder y byddinoedd yn hafal. Roedd y naill ochr a'r llall yn meddu ar dechnoleg newydd, ond yn fuan cawsai'r hyn oedd gan un ochr ei gopïo gan yr ochr arall. Nid oedd mantais amlwg, felly yn anochel fe ddatblygodd yn sefyllfa hirhoedlog gyda'r naill fyddin a'r llall yn wynebu ei gilydd yng Ngwlad Belg a Gogledd Ffrainc.

    Roedd yna ffactorau eraill, hefyd. Bu'r tywydd yn ddifrifol yn ystod hydref a gaeaf cyntaf y rhyfel.  Cafodd y glaw a'r oerni effaith ar gyfathrebu a darparu cyflenwadau i'r rheng flaen ac yn fuan iawn arweiniodd hynny at afiechydon ymysg y milwyr.

    Felly,nichyrhaeddodd unrhyw un o'r Cynghreiriaid ddinas Berlin o fewn chwe wythnos,nid oedd milwyr yr Almaen adref cyn yr hydref, ac fe dreuliwyd y Nadolig ar y rheng flaen.

Amser i feddwl

Arweinydd  Mae llawer o gyfleoedd i ymrwymo ein hunain i dasgau mawr. Efallai bod cynhyrchiad o ddrama neu ddigwyddiad cerddorol y mae'n ofynnol i ni fynychu ymarferiadau iddyn nhw dros nifer o fisoedd. Efallai bod cwrs hyfforddiant a fydd yn arwain at gymhwyster. Efallai bod cynllun gwobrwyo fel Gwobr Dug Caeredin. Efallai ein bod eisiau cyflawni nifer o raddau arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae hefyd ymrwymiadau perthnasoedd y gallwn eu gwneud. Yn yr Eglwys Gristnogol, mae tri achlysur pan fydd pobl yn gwneud ymrwymiadau o'r fath. Un yw yn ystod y gwasanaeth Bedydd, pan fydd rhieni, rhieni bedydd a chymuned yr eglwys leol yn gwneud addewid i gynorthwyo plentyn/baban dyfu i adnabod Iesu. Yr ail yw, pan gaiff pobl eu bedyddio yn ddiweddarach yn eu bywyd neu dderbyn Bedydd Esgob/Conffyrmasiwn, fe fyddan nhw'n gwneud ymrwymiad i ddilyn Iesu. Yn olaf, yn ystod gwasanaeth priodas, fe fydd pâr yn addo bod yn ffyddlon i'w gilydd am weddill eu hoes. Gellir ystyried y rhain hefyd fel modelau ar gyfer llawer o'r ymrwymiadau anffurfiol a wnawn ni i'n ffrindiau ac aelodau ein teulu i'w caru a'u cefnogi trwy ddwr a thân.

Sut rai ydych chi am wneud ymrwymiadau o'r fath? A ydych yn cael eich ysgubo ymaith gan fwrlwm cynnar o frwdfrydedd ond yna’n cael eich llethu gan ffactorau eraill sydd yn mynnu sylw? Pa mor dda ydych chi am ystyried yn ofalus y goblygiadau a'r gost? Pa adnoddau sydd gennych yn nhermau amser, egni ac arian hefyd, efallai? Beth yw eich disgwyliadau?

Fe fyddai'n hawdd osgoi gwneud ymrwymiadau hirdymor o'r fath, ond fe fyddai hynny'n golled i ni ein hunain pe byddem yn gwneud hynny.  Mae rhywbeth yn arbennig iawn am y perfformiad olaf o ddrama neu gyngerdd, derbyn ein gwobr neu ein cymhwyster, derbyn nifer ardderchog o ganlyniadau arholiad. Mae rhywbeth hefyd yn foddhaol iawn o fod mewn perthynas hirdymor - yr ymddiriedaeth, y sefydlogrwydd a'r cyd-atgofion.

Fe ddylem wneud yr ymrwymiadau hyn, i ychydig o bobl ac i ychydig brosiectau. Yr hyn allwn ni ei ddysgu oddi wrth yr arweinwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fodd bynnag, yw y dylem roi ystyriaeth ofalus i'r hyn yr ydym yn mynd i ymwneud â nhw a sicrhau bod gennym yr adnoddau ar gael i'w gwireddu.

Gweddi
Annwyl Arglwydd Dduw,
Diolch am yr amrywiol ffyrdd y gallwn ni ymrwymo ein hunain i eraill, ac i’n dyfodol ein hunain.
Boed i ni fod yn realistig yn ein disgwyliadau, yn gryf yn ein hawydd i lwyddo, ac yn barod i redeg marathon yn hytrach na ras wibio.
Amen.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Hold on’ gan KT Tunstall

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon