Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mandela

Gweithredwch. Ysbrydolwch newid. Gwnewch bob dydd yn ddiwrnod Mandela (18 Gorffennaf)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Dathlu bywyd Nelson Mandela a’r hyn a gyflawnodd yn ystod ei fywyd, gan bwysleisio pa mor bwysig yw amrywiaeth mewn cymdeithas.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy gyfeirio at y diffiniad o’r gair gwahaniaethu.
    Codwch eich llaw os ydych chi wedi cael y profiad neu glywed am achos o wahaniaethiad ryw dro? (Yn yr ysgol neu ar y newyddion, er enghraifft.)

    Mae'r nifer o ddwylo sydd wedi eu codi yn dangos bod rhagfarn yn cael effaith ar bob un ohonom yn ein bywyd bob dydd. Peth hawdd yw beirniadu a gwneud rhagdybiaethau, ond bydd pobl weithiau yn ei chael hi'n dipyn o her i dderbyn y gwahaniaethau y maen nhw'n sylwi arnyn nhw mewn pobl eraill.

    Oeddech chi'n gwybod y gall plant ddechrau deall beth yw rhagfarn a gwahaniaethu erbyn y byddan nhw'n dair oed? Pan fyddan nhw'n dair oed, maen nhw’n gallu gwahaniaethu rhwng nodweddion corfforol (fel lliw gwallt, taldra, pwysau) ynghyd â gwerthoedd cymdeithasol (fel rhyw, hil a dosbarth cymdeithasol).

    Erbyn yr amser y bydd plant ifanc yn mynychu'r ysgol feithrin, fe allan nhw eisoes nodi sut y gall rhai nodweddion a gwerthoedd cymdeithasol effeithio ar y modd y bydd pobl yn eu gweld hwy a'u cyfoedion. Mae'r cyfryngau torfol yn un garfan o'r rhai sy’n cael y bai am hyn. Mae modd i ni gael ein denu i gredu bod rhai grwpiau neilltuol yn fwy ffafriol na'r gweddill, tra rydyn ni, mewn gwirionedd, i gyd yn gyfartal.

  2. Faint ohonoch chi sy'n gwylio'r rhaglen deledu Britain’s Got Talent?

    Mae'r sioe hon yn enghraifft o'r modd y mae'r cyfryngau yn ein hannog i feirniadu a gwneud sbort am ben pobl, er mwyn adloniant, pryd y dylai llwyddiant y rhaglen fod yn seiliedig ar yr amrywiaeth sydd i’w gael ym Mhrydain.                                                                                                                                                              
  3. Dangoswch y diffiniad o’r gair amrywiaeth.

    Felly, mae hybu amrywiaeth yn groes i wahaniaethu am ei fod yn ymwneud â derbyn a bod â pharch tuag at ein gwahaniaethau unigol. Gall y gwahaniaethau hyn gynnwys hil, cenedligrwydd, rhyw, tueddfryd rhywiol, statws economaidd cymdeithasol, oedran, galluoedd corfforol a chredoau crefyddol a gwleidyddol. Mae'n ymwneud â dathlu'r amrywiaeth sydd yn perthyn i ddynol ryw - rhywbeth yr oedd Nelson Mandela mor angerddol yn ei gylch.

  4. Dangoswch y ddelwedd gyntaf.

    Gadewch i ni'n awr edrych ar fywyd Nelson Mandela.

    Cafodd ei eni ym Mvezo, yn nhalaith Transkei sydd yn ne ddwyrain De Affrica. Yno, bryd hynny, roedd y bobl ddu eu croen yn cael eu gwahanu oddi wrth y bobl wyn eu croen.  Roedd y bobl ddu wedi colli eu hiawnderau dynol.

    Dangoswch yr ail ddelwedd.

    Yn y flwyddyn 1942, daeth Mandela yn gyfreithiwr cymwysedig a defnyddiodd ei ddylanwad i bregethu ei gred ynghylch cydraddoldeb. Roedd Mandela o'r farn y dylai pawb gael cynnig yr un cyfleoedd mewn bywyd, heb ystyried lliw ein croen, ac arweiniodd y gred ddadleuol hon at Mandela'n cael ei arestio a'i anfon i garchar ar Ynys Robben am 27 o flynyddoedd maith.

  5. Yn sydyn iawn, fe ddaeth Mandela'n garcharor mwyaf enwog yn y byd, ac fel yr aeth y blynyddoedd yn eu blaen, plediodd mwy a mwy o bobl iddo gael ei ryddhau. Yn y diwedd, yn y flwyddyn 1988, fe ddechreuodd De Affrica wrando, a dechreuodd y daith at gydraddoldeb.

    O ganlyniad, fe roddodd y llywodraeth nifer o newidiadau ar waith, yn cynnwys caniatáu i ddisgyblion du eu croen i fynychu ysgolion 'gwyn'. Yn y flwyddyn 1994, fe ddaeth Mandela yr arlywydd cyntaf du ei groen ar Dde Affrica ac, o'r foment honno ymlaen, yn araf fe ddatgymalodd y system o wahaniaethiad hiliol. Fe arweiniodd y digwyddiad anghyffredin hwn hyd yn oed at bobl ddu yn cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau yn Ne Affrica. Fe newidiodd Mandela gwrs hanes ei wlad.

  6. Dangoswch y drydedd ddelwedd.

    Caiff 18 Gorffennaf ei ddathlu mewn sawl gwlad fel diwrnod i gofio am ymdrech anghyffredin Nelson Mandela. Cyffyrddodd ei ddewrder, ei benderfyniad a'i dosturi lawer o galonnau ac ysbrydoli pobl dros y byd i gyd i roi eraill yn gyntaf.

    Mae gwahaniaethiad wedi bod yn gyffredin ers canrifoedd, ond mae pobl sydd wedi gweithredu, fel Nelson Mandela, wedi helpu i greu cymdeithas ar ein cyfer heddiw sydd yn llawer mwy amrywiol a derbyniol.

    Chwaraewch un neu fwy o’r clipiau fideo ar y pwynt hwn, os byddwch yn dymuno gwneud hynny.

  7. Dangoswch y bedwaredd ddelwedd.

    Fe allwn ni i gyd ddysgu oddi wrth waddol Nelson Mandela. Fe gafodd ei gosbi a'i feirniadu am yr hyn yr oedd yn ei gredu, ond roedd ei ddewrder yn ei alluogi i ddilyn ei freuddwyd hyd at y diwedd.

    I bobl fel ef y mae'r diolch bod gennym yr amrywiaeth mewn ysgolion, prifysgolion, gweithleoedd ac yn y llywodraeth. Dyma sydd wedi ein cyflwyno i fwydydd o ddiwylliannau gwahanol, i ieithoedd newydd, i ddoniau newydd ac, yn bwysicach na dim, dyma beth sydd wedi dod â rhywfaint o heddwch rhwng gwledydd.

    Fe ddywedodd Mandela unwaith, ‘We have all been put on this Earth together and it will be a better place for all, if we all work as a team.’ - ‘Cawsom i gyd ein gosod ar y Ddaear hon a bydd yn lle gwell i bawb, os gwnawn ni i gyd weithio fel tîm.’ Felly, y tro nesaf y byddwch yn clywed am rywun sy'n mynd trwy'r profiad o wahaniaethiad, boed hynny ar y cyfryngau neu mewn sefyllfaoedd bywyd real, cofiwch fod modd i chi weithredu, annog newid a gwneud pob diwrnod yn Ddiwrnod Mandela.

Amser i feddwl

Caewch eich llygaid a meddyliwch am ffyrdd y gallech chi, yn ystod yr haf hwn, gofleidio amrywiaeth, a sut y gallech chi roi blaenoriaeth i eraill yn hytrach na rhoi eich hunan yn gyntaf. Efallai y gallech chi gyflwyno ffrind newydd i’ch grwp o ffrindiau, neu wirfoddoli yn eich cymuned leol. Efallai yr hoffech chi flasu bwydydd o wahanol ddiwylliannau neu ddechrau dysgu iaith arall.

Cofiwch pa mor lwcus yr ydyn ni ein bod ni’n unigryw, a meddyliwch beth allech chi ei wneud i ddal ymlaen â gwaddol Mandela.

Cerddoriaeth

Gimme hope, Jo’anna’ gan Eddy Grant
House of exile’ gan Lucky Dube

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2014    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon